Mentrau Llyfrgelloedd Gwyrdd yng Nghymru yn annog trigolion lleol i gymryd rhan mewn prosiectau cynaliadwy

Mae Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd 2025, dan arweiniad CILIP, y gymdeithas llyfrgell a gwybodaeth, yn dychwelyd yr hydref hwn i ddathlu rôl hanfodol llyfrgelloedd wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd a grymuso cymunedau i gymryd camau amgylcheddol cadarnhaol.

Yn rhedeg o ddydd Llun 27 Hydref tan ddydd Sul 2 Tachwedd, thema’r ymgyrch genedlaethol eleni yw ‘Hadau Newid – Gwireddu Gwahaniaeth gyda’ch Llyfrgell’. Mae chwyddwydr 2025 ar annog llyfrgelloedd ar bob cam yn eu taith gynaliadwyedd i ddathlu gweithredu dros yr hinsawdd – waeth pa mor fawr neu fach.

O lyfrgelloedd cyhoeddus ar y stryd fawr i lyfrgelloedd academaidd, arbenigol ac iechyd, mae Wythnos Llyfrgelloedd Gwyrdd yn arddangos gweithgareddau dyfeisgar ac ysbrydoledig ledled y DU. Mae’r fenter yn cysylltu llyfrgelloedd yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon, gan ddarparu cefnogaeth i fentrau gwyrdd, a dathlu sut mae llyfrgelloedd yn helpu pobl i adeiladu’r sgiliau a’r hyder i weithredu drwy gydol eu hoes.

Mae nifer o fentrau sy’n digwydd ledled Cymru eleni wedi gweld llyfrgelloedd yn annog trigolion lleol i gymryd rhan mewn prosiectau cynaliadwy fel:

  • Partneriaeth Bwyd Torfaen – annog mwy o drigolion i dyfu a bwyta eu cynnyrch eu hunain.
  • Sesiynau Croeso Cynnes Llyfrgelloedd Conwy – cwpanau ailddefnydd ar gael diolch i Gyllid UKSPF.
  • Trawsnewid mannau gwyrdd yn Llyfrgell Llanelwy – gwirfoddolwyr yn helpu datblygu gardd gymunedol groesawgar diolch i Grant Cadwch Gymru’n Daclus.
  • Teithiau cerdded natur i bobl ifanc yn Rhondda Cynon Taf – diolch i gydweithio rhwng Llyfrgell Treorci a grwpiau lleol.

Gweledigaeth Rhaglen Gwydnwch Bwyd Torfaen

Sefydlwyd Partneriaeth Gwydnwch Bwyd Torfaen ym mis Ionawr 2022. Mae’r Partneriaeth yn rhannu gweledigaeth i ddatblygu system fwyd cynaliadwy a theg sy’n darparu bwyd fforddiadwy ac iach i bawb.

Eleni sefydlodd y Partneriaeth Fwyd ei Llwybr Bwyd a Llyfrgelloedd Hadau cyntaf yn Nhorfaen, gyda chefnogaeth y Gronfa Ffyniant Gyffredin a Llywodraeth Cymru.  

Nod y prosiect oedd annog trigolion i dyfu a bwyta eu cynnyrch eu hunain ac, yn ei dro, achub hadau o blanhigion aeddfed i ailgyflenwi’r llyfrgelloedd gan sicrhau cynaliadwyedd y prosiect am flynyddoedd i ddod. Sefydlwyd y Llyfrgelloedd Hadau mewn amrywiaeth eang o leoliadau, gan gynnwys ysgolion, llyfrgelloedd, gerddi cymunedol, caffis a neuaddau pentref, ac roedd ganddynt amrywiaeth eang o hadau llysiau, ar gael am ddim.   

Torfaen Seed Library

Dywedodd y Cynghorydd Sue Morgan, yr Aelod Gweithredol dros Wastraff a Chynaliadwyedd:

“Mae’r Llyfrgelloedd Hadau hyn yn enghraifft wych o sut y gall mentrau bach a arweinir gan y gymuned gael effaith fawr.  Maent nid yn unig yn hyrwyddo arferion bwyd cynaliadwy a ffyrdd iachach o fyw ond hefyd yn dod â phobl at ei gilydd trwy gariad a rennir at dyfu. 

“Mae’n bwysig cydnabod manteision amgylcheddol tyfu eich bwyd eich hun, sydd nid yn unig yn dileu’r allyriadau carbon a gynhyrchir drwy cludo bwyd, mae’n cynyddu bioamrywiaeth leol.”

I nodi’r lansiad, cynhaliwyd sesiwn plannu cymunedol ym Marchnad Pont-y-pwl ym mis Mawrth, gyda gweithdai arbed hadau pellach wedi’u trefnu yn ddiweddarach yn y flwyddyn i ddysgu trigolion sut i gasglu a storio hadau yn effeithiol.  

Mae cyfranogwyr yng Nghanolfan sgiliau bywyd Able, Cwmbrân, yn rheoli eu llyfrgell hadau lleol ond hefyd yn rhedeg llyfrgell offer hygyrch, sydd ag offer garddio hir a hawdd eu gafael ynddynt. Mae’r gwasanaethau deuol hyn hefyd ar waith yn Canddo yn Nhy Panteg, gan wneud garddio yn fwy cynhwysol i bawb. 

Torfaen seed library

Cynhaliwyd y Llwybr Bwyd Torfaen cyntaf erioed ym mis Awst, ac am dair wythnos, cynhaliodd busnesau lleol, ffermwyr a grwpiau cymunedol gyfres o weithgareddau a digwyddiadau yn hyrwyddo cynhyrchwyr a chyflenwyr bwyd lleol. O Wersylloedd Selsig a Byrgyrs ar Fferm Ty Poeth i Bicnic Tedi Bêrs yn The Cando Project, roedd rhywbeth i bawb ei fwynhau. Cafodd y cyfranogwyr gyfle i gasglu stampiau ac ennill gwobrau gan ddefnyddio Pasbortau Arloeswyr Bwyd oedd ar gael o Lyfrgelloedd Torfaen a lleoliadau eraill yn cymryd rhan. 

Meddai Holly Ivany, Caffi Llantarnam Grange:

“Rydyn ni’n gyffrous i ddod i gyswllt â’n cymuned, i greu atgofion, cael hwyl a dangos yr holl brydau hynod o gynaliadwy y gellir eu creu gyda chynhwysion lleol. Trwy weithio gyda’n gilydd rydyn ni’n gwybod ein bod ni’n gallu gwneud gwahaniaeth i’n hamgylchedd a’n hiechyd”

Sesiynau Croeso Cynnes Llyfrgelloedd Conwy

Mae Llyfrgelloedd Conwy wedi darparu cwpanau y gellir eu hailddefnyddio am ddim ar gyfer eu sesiynau Croeso Cynnes ar draws eu holl lyfrgelloedd. Mae defnyddwyr yn cael eu hannog i ddychwelyd i’w llyfrgell leol bob wythnos gyda’u cwpan wedi’i frandio â’r llyfrgell am ddiod boeth. Mae’r sesiynau Croeso Cynnes wythnosol yn berffaith i gwrdd ag eraill, chwarae gemau bwrdd, darllen y papur newydd neu ymlacio a gwneud jig-so!

Conwy Libraries Warm Welcome Session

Prynwyd y cwpanau y gellir eu hailddefnyddio gyda chefnogaeth y UK Shared Prosperity Fund (UKSPF) a fe’u darparwyd o fis Ebrill 2025 ymlaen. Mae’r Gronfa wedi bod yn biler canolog agenda Levelling Up Llywodraeth y DU ac wedi darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer buddsoddiad lleol ledled y DU hyd at fis Mawrth 2025.

Cydweithrediad â Llyfrgell Treorci yn darparu Teithiau Natur i Bobl Ifanc

Mae pobl ifanc grwp E-Teens Llyfrgell Treorci wedi bod yn cymryd rhan mewn ymgyrch casglu sbwriel cymunedol a theithiau natur. Bob prynhawn Mawrth yn ystod gwyliau’r haf, aeth y grwp ar deithiau cerdded i archwilio’r llwybrau mynydd / natur leol. Roedd y sesiynau hyn yn gydweithrediad â Play It Again Sport a Chlwb Cymrodyr Pentre.

Treorchy E-Teens Nature Walks

Dysgodd arweinydd y daith gerdded, Natasha, y bobl ifanc am y newidiadau tymhorol i’r amgylchedd, am y ffrwythau a phlanhigion sy’n frodorol i’r ardal, a’r manteision iechyd niferus o dreulio amser yn yr awyr agored. Fe wnaethant hefyd fwynhau sesiwn o dipio dwr oer!

Young people litter picking group

Ymysg gweithgareddau eraill a gynhaliwyd yn Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf dros yr haf oedd sesiynau crefft gan ddefnyddio deunydd wedi’i ailgylchu i gefnogi thema Sialens Ddarllen yr Haf eleni ‘Gardd o Straeon’, a theithiau cerdded stori yn ymgysylltu â natur ar thema Stick Man Julia Donaldson.

Trawsnewid Podiau SuDS a Gardd Gymunedol yn Llyfrgelloedd Sir Ddinbych

Mae Podiau SuDS wedi’u gosod ar y pibellau i lawr dwr glaw yn Llyfrgell Llangollen. Yn ystod cyfnodau o law trwm maent yn rhyng-gipio’r glawiad ac yn helpu i leihau’r ymchwydd o ddwr i ddraeniau dwr wyneb. Maent hefyd yn edrych yn wych!

Llangollen SuDS

Mae Llyfrgell Llanelwy wedi trawsnewid darn o dir nas defnyddiwyd o’r blaen y tu ôl i’r adeilad yn ardd gymunedol ddeniadol a chroesawgar diolch i gais grant llwyddiannus i Cadwch Gymru’n Daclus. Trefnwyd y prosiect gan Cadwch Gymru’n Daclus ochr yn ochr â staff y llyfrgell, ac ers ei gwblhau, mae’r llyfrgell wedi recriwtio grwp ymroddedig o wirfoddolwyr sydd wedi gweithio’n ddiflino i ddodrefnu’r ardd â phlanhigion a blodau, a rhoddwyd llawer ohonynt yn garedig gan aelodau o’r gymuned leol.

St Asaph Garden
Gardd Llyfrgell Llanelwy

Dewch o hyd i ragor o wybodaeth am Ymgyrch Llyfrgelloedd Gwyrdd ledled y DU ar wefan CILIP.