Yn galw Llyfrgelloedd Cymru!
Yn dilyn derbyn nawdd gan Lywodraeth Cymru mae cronfa ariannol ar gael i bob awdurdod lleol i gynnal gweithgareddau neu ddigwyddiadau i gefnogi llyfrgelloedd a’r prosiect Darllen yn Well i deuluoedd.
Mae Cyngor Llyfrau Cymru yn gwahodd awdurdodau lleol i ymgeisio am y swm am o leiaf £700 i bob awdurdod a yma drwy gwblhau’r ffurflen isod erbyn 25 Gorffennaf 2025: https://forms.office.com/e/2pm0C78mcQ
Mae angen i unrhyw wariant ar weithgaredd ddigwydd cyn 31 Mawrth 2026.
Y mis diwethaf, cyhoeddodd y Reading Agency, mewn partneriaeth â Libraries Connected a Chymdeithas y Prif Lyfrgellwyr (SCL) Cymru, lansiad Darllen yn Well i deuluoedd, a rhestr lyfrau newydd sydd ar gael ar draws llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru a Lloegr. Mae’r cynllun yn argymell darllen defnyddiol i gefnogi iechyd meddwl a lles teuluoedd yn ystod beichiogrwydd a’r blynyddoedd cynnar (o’r beichiogi i ddwy oed).
Mae’r casgliad newydd Darllen yn Well i deuluoedd yn cyrraedd ar adeg o alw digynsail am gymorth iechyd meddwl amenedigol. Mae atgyfeiriadau misol ar gyfer gwasanaethau amenedigol yn Lloegr wedi cynyddu’n ddramatig o oddeutu 1,400 o atgyfeiriadau y mis yn 2016 i fwy na 7,600 yn 2024. Mae o leiaf 1 o bob 5 menyw yn profi problemau iechyd meddwl yn ystod beichiogrwydd ac ar ôl genedigaeth, gyda gorbryder ac iselder yn ystyriaethau iechyd mamolaeth difrifol mwyaf cyffredin sy’n effeithio ar 10-15% o fenywod. Yng Nghymru, mae bron i 9,000 o famau newydd yn profi problemau iechyd meddwl amenedigol bob blwyddyn.
Mae’r rhestr lyfrau ar gael mewn sawl fformat gan gynnwys eLyfrau a llyfrau llafar. Yng Nghymru, mae’r cynllun yn cael ei gyflwyno’n ddwyieithog mewn cydweithrediad â Chyngor Llyfrau Cymru. Mae’r rhestr lyfrau hefyd yn cynnwys teitl Cymraeg gwreiddiol Darn Bach o’r Haul wedi’i olygu gan Rhiannon Williams.
Gellir benthyg teitlau am ddim o lyfrgelloedd cyhoeddus lleol, lle mae staff wedi cael adnoddau i arwain teuluoedd i ddarllen priodol. Mae offer digidol ychwanegol, fel pecyn cymorth hyrwyddo, achos am gefnogaeth, a thaflen ryngweithiol, ar gael ar-lein ar gyfer partneriaid cymunedol ac iechyd.
Mae Darllen yn Well i deuluoedd yn ymuno â’r rhaglen ehangach Darllen yn Well Llyfrau ar Bresgriptiwn, sy’n cynnwys rhestrau ar gyfer iechyd meddwl, plant, pobl ifanc yn eu harddegau a dementia. Ers sefydlu’r rhaglen, mae mwy na 3.9 miliwn o lyfrau Darllen yn Well wedi cael eu benthyg ledled Cymru a Lloegr, gan gefnogi unigolion i reoli eu hiechyd a’u lles trwy bŵer darllen.
Archwiliwch gasgliad llyfrau Darllen yn Well i deuluoedd.
Yn y cyfamser, os oes angen unrhyw wybodaeth bellach, plîs gysylltwch â darllenynwell@llyfrau.cymru.