Mae BookTrust Cymru, yr elusen ddarllen i blant, yn annog teuluoedd, ysgolion a lleoliadau blynyddoedd cynnar ledled Cymru i ymuno yn Amser Rhigwm Mawr Cymru, dathliad wythnos o hyd ar gyfer rhannu rhigymau, cerddi a chaneuon dwyieithog gyda miloedd o blant yn eu blynyddoedd cynnar.
Mae Amser Rhigwm Mawr Cymru yn gwahodd teuluoedd o bob cwr o Gymru i brofi sut y gellir ymgorffori rhigymu a rhannu straeon yn ddwyieithog i mewn i fywyd beunyddiol – boed hynny gartref, mewn lleoliad blynyddoedd cynnar, neu yn eu cymuned leol. Mae dros 500 o leoliadau ledled Cymru wedi cofrestru i gymryd rhan yn Amser Rhigwm Mawr Cymru, sy’n digwydd o ddydd Llun 2 Chwefror – Gwener 6 Chwefror 2026. Ymysg y lleoliadau sy’n cymryd rhan mae meithrinfeydd, ysgolion cynradd, canolfannau plant a theuluoedd, llyfrgelloedd, gofalwyr plant, grwpiau cymunedol ac elusennau.
Yn ôl Phil Savery, Rheolwr Partneriaeth BookTrust Cymru:
“Mae rhannu rhigymau, cerddi a chaneuon yn y blynyddoedd cynnar yn ffordd wych o ddatblygu llafaredd, iaith a sgiliau cyfathrebu plant, cynyddu’u hyder a’u hannog i ddarllen a mwynhau straeon.”
Gall teuluoedd a lleoliadau blynyddoedd cynnar gymryd rhan yn eu hwyl rhigymu eu hunain gartref gan ddefnyddio’r fideos a’r adnoddau y gellir eu lawrlwytho, a fydd ar gael yma: https://www.booktrust.org.uk/cy-gb/bigwelshrhymetime ac fe’u hanogir i rannu’u profiadau rhigymu’u hunain ar y cyfryngau cymdeithasol.
Cynnwys Amser Rhigwm Mawr Cymru 2026
Campfa’r Anifeiliaid / Animal Gym gan Rhiannon Oliver
Dewch i symud gyda Rhiannon Oliver a’r holl anifeiliaid yn y rhigwm dwyieithog hwyliog a bywiog hwn, ynghyd â thaflenni darlunio a gweithgaredd i’w hargraffu.
“Dwi wrth fy modd o fod wedi cyfansoddi rhigwm symud dwyieithog newydd ar gyfer Amser Rhigwm Mawr Cymru. Dewch i ni baratoi am rywfaint o hwyl wrth rigymu!”
Rhiannon Oliver, Bardd, Perfformiwr
Byd Hud o Gerddoriaeth / A Magical World of Music gan Branwen Gwyn
Dewch i ddarganfod hudoliaeth cerddoriaeth a seiniau gyda Branwen Gwyn yn y rhigwm newydd hyfryd o soniarus. Ymunwch yn yr hwyl gyda fideos rhigwm yn Gymraeg a Saesneg, ynghyd â gweithgareddau i’w hargraffu.
“Mae’n wych bod yn rhan o Amser Rhigwm Mawr Cymru, a rhannu fy angerdd am gerddi a cherddoriaeth. Gobeithio y bydd plant yn cael eu hysbrydoli i ddwlu ar eiriau a nodau!”
Branwen Gwyn, Cyflwynydd, Cerddor, Sgriptiwr
Picnic gan Patricia Sumner
Ymunwch â Patricia Sumner ar gyfer picnic perffaith yn y rhigwm dwyieithog hwyliog a ysbrydolwyd gan deulu a bwyd, gyda gweithgareddau ryseitiau i’w hargraffu gan Daffodil Kitchen.
“Pan oeddwn i’n blentyn, fe wnaeth cerddi fy annog i ddarllen a dysgu. Felly dwi wrth fy modd o allu rhannu rhigwm gyda phlant fel rhan o Amser Rhigwm Mawr Cymru.”
Patricia Sumner, Bardd, Awdur Plant, Golygydd
Am BookTrust
Rydyn ni’n cael miliynau o blant i ddarllen, yn enwedig plant o deuluoedd incwm isel neu gefndiroedd bregus. Mae plant sy’n dewis darllen ac sy’n darllen yn rheolaidd yn hapusach ac yn iachach. Maen nhw’n ffurfio rhwymau cryfach a gwell perthynas ag eraill. Maen nhw’n gwneud yn well yn yr ysgol ac maen nhw’n fwy creadigol. Maen nhw’n mwynhau mwy o lwyddiant mewn bywyd. Dyma pam rydyn ni’n gweithio gyda theuluoedd, gan eu cefnogi i ddechrau rhannu straeon a llyfrau gyda’i gilydd o’r oedran cynharaf posibl. Mae ein llyfrau, a ddetholir yn ofalus, a’n rhaglenni, sydd wedi’u hymchwilio’n dda, yn cael eu cyflwyno gan filoedd o bartneriaid lleol, gan ddod â hud darllen i blant ym mhob cymuned yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Booktrust.org.uk
Yng Nghymru, mae BookTrust Cymru yn gweithio i ysbrydoli cariad at ddarllen ymhlith plant am ein bod yn gwybod y gall darllen drawsnewid bywydau.
I ddysgu mwy, ewch i wefan BookTrust Cymru neu dilynwch ar Facebook @BookTrustCymru