BookTrust Cymru

Beth yw BookTrust Cymru?

BookTrust yw’r elusen ddarllen fwyaf i blant yn y Deyrnas Unedig a’u cenhadaeth yw cael plant o gefndiroedd teuluol incwm isel a bregus i ddarllen yn rheolaidd ac o ddewis. Maen nhw’n canolbwyntio ar helpu plant yn y blynyddoedd datblygiadol allweddol o’u genedigaeth i’w blynyddoedd cyntaf yr ysgol gynradd.  

Gyrrir gwaith BookTrust gan dystiolaeth. Mae’u gwaith ymchwil yn rhoi mewnwelediad unigryw i fywydau’r teuluoedd y maen nhw’n gweithio gyda nhw, a beth sy’n gweithio er mwyn adeiladu’r arferion darllen sy’n dod â manteision ar union a gydol oes i’r plant sydd ei angen fwyaf. 

Yng Nghymru, mae BookTrust Cymru yn gweithio gyda phartneriaid ar draws pob un o’r 22 awdurdod lleol i ddarparu ystod amrywiol o raglenni dwyieithog sy’n gwneud gwahaniaeth, ac sy’n ysbrydoli cariad at ddarllen ymysg plant, am eu bod yn gwybod y gall darllen drawsnewid bywydau.

O fabis i blant yn eu blynyddoedd cynnar a’r holl ffordd drwodd i ddechrau’r arddegau, mae darllen yn dod â manteision dwfn ac eang a all gael effaith gadarnhaol ar fywydau plant, sy’n para gydol eu hoes. 

Sut mae cymryd rhan?

Mae BookTrust yn gyfrifol am sawl rhaglen:

Bookstart

Dydy hi byth yn rhy gynnar i ddechrau rhannu llyfrau, straeon a rhigymau â’ch plentyn. Trwy raglen Dechrau Da, mae BookTrust Cymru’n cefnogi teuluoedd ledled Cymru i ddarllen gyda’i gilydd yn rheolaidd. 

Mae pob plentyn yng Nghymru’n cael derbyn dau becyn Dechrau Da (Dechrau Da Babi a Dechrau Da Blynyddoedd Cynnar) arbennig cyn eu bod yn dair oed; mae eu Hymwelydd Iechyd yn eu rhoi i’w teuluoedd. Fel arall, mae pecynnau Dechrau Da ar gael i’w casglu i sawl llyfrgell yng Nghymru. 

Dysgwch ragor yma 

Yn ogystal, mae rhaglen Dechrau Da i Blant Bach yn cefnogi teuluoedd ymhellach i ddarllen a rhannu straeon gyda’i gilydd, ac mae’n cael ei ddarparu drwy gyfrwng sawl lleoliad gan gynnwys Dechrau’n Deg,  Cymraeg i Blant a Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd. 

Bookstart
Parent and child in seated area at Rhymney Library

Pori Drwy Stori

Mae Pori Drwy Stori yn ysbrydoli cariad at lyfrau, straeon a rhigymau, ac mae’n cefnogi plant i ddatblygu sgiliau siarad, gwrando, darllen, ysgrifennu a rhifedd gartref ac yn yr ysgol feithrin neu’r ysgol.  

Pori Drwy Stori
Mother and child reading at Maesteg Library

Y Clwb Blwch Llythyrau

Mae’r Clwb Blwch Llythyrau yn cefnogi plant 3–13 oed sy’n derbyn gofal, a fu’n derbyn gofal, sy’n fregus neu ar ffiniau gofal, gyda’u darllen a’u rhifedd.   

Y Clwb Blwch Llythyrau
Library user lifting Pokemon Adventures Book off the shelves

Amser Rhigwm Mawr Cymru

Amser Rhigwm Mawr Cymru yw ein dathliad blynyddol o rannu rhigymau, cerddi a chaneuon. Dyma yw bwrlwm y rhigwm i bawb! 

Amser Rhigwm Mawr Cymru
Song and Rhyme at Conwy Libraries

Dysgwch fwy am BookTrust Cymru

I ddysgu mwy am waith BookTrust Cymru yng Nghymru, ewch i’r wefan.

Dilynwch BookTrust Cymru ar y cyfryngau cymdeithasol @BookTrustCymru

Dysgwch fwy
Certificate presented to baby and mother for completing the Big Welsh Rhyme Time