Llenyddiaeth Cymru

Elusen sy'n helpu awduron i ddatblygu, sy'n dathlu diwylliant llenyddol cyfoethog Cymru, ac yn defnyddio pŵer geiriau i ysbrydoli, gwella a chreu newid.

Ysgrifennu Dyfodol Cymru

Llenyddiaeth Cymru yw'r sefydliad cenedlaethol sy'n cefnogi awduron, ysgrifennu, a diwylliant llenyddol ehangach Cymru. P'un a yw rhywun newydd ddechrau ysgrifennu, yn ehangu eu crefft, neu yn ysgrifennu'n brofiadol, ei nod yw helpu awduron i ddatblygu a chysylltu â darllenwyr.

  • Cyfleoedd ariannu
  • Mentora a hyfforddiant
  • Gweithdai ysgrifennu creadigol
  • Trefnu digwyddiadau
  • Arwain rhaglenni cenedlaethol
Ymweld a'r wefan:
Ty Newydd Llanystumdwy

Beth yw gwaith Llenyddiaeth Cymru?

Mae Llenyddiaeth Cymru yn cefnogi awduron a diwylliant llenyddol Cymru drwy fwrsariaethau, mentora, gweithdai a hyfforddiant. Maent yn dod ag awduron i ysgolion, mannau cymunedol a gwyliau, ac yn rhedeg rhaglenni cenedlaethol fel Llyfr y Flwyddyn a Bardd Cenedlaethol Cymru.

Ond dyw’r gwaith yma ddim am y ‘sgwennu yn unig – mae’n ymwneud â newid. Maent am fynd i’r afael ag anghydraddoldebau yn y sector, gan ymdrechu i sicrhau bod sîn lenyddol Cymru yn adlewyrchu amrywiaeth y genedl. Maent yn credu hefyd fod gan eiriau y grym i drawsnewid bywydau, cefnogi llesiant, ac ysbrydoli gweithredu ar faterion mawr fel yr argyfwng hinsawdd.

Mae Llenyddiaeth Cymru yn gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg, ac yn partneru â sefydliadau ledled y wlad i gynnal prosiectau, cynnig cyllid a chynnal digwyddiadau. Gyda chefnogaeth Cyngor Celfyddydau Cymru a chefnogwyr eraill, maen nhw yma i sicrhau bod llenyddiaeth yng Nghymru yn parhau i ffynnu.