Bardd Plant Cymru

Y Bardd Plant Cymru presennol yw’r bardd, artist ac awdur Dreorci, Siôn Tomos Owen

Sion-1-Credit-Jon-Pountney

Bardd Plant Cymru

Ers ei sefydlu yn 2000, caiff rôl Bardd Plant Cymru ei wobrwyo pob dwy flynedd i fardd Cymraeg sydd yn angherddol dros sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod gwefr a grym llenyddiaeth drwy gyfrwng y Gymraeg.

Nod y rôl yw ysbrydoli a thanio dychymyg plant ar draws Cymru trwy weithdai a phrosiectau barddoniaeth amrywiol.

Mae’r prosiect yn hyrwyddo creadigrwydd, sgiliau cyfathrebu a hunanfynegiant trwy gariad at lenyddiaeth.

Y Bardd Plant Cymru presennol yw’r bardd, artist ac awdur Dreorci, Siôn Tomos Owen, ac ef yw’r 19eg bardd i gamu i’r rôl.

Cyhoeddwyd mai Siôn oedd y Bardd Plant newydd ar 10 Medi 2025 mewn digwyddiad arbennig yn Llyfrgell Maesteg. Bydd Siôn yn ymgymryd â’r gwaith am gyfnod o ddwy flynedd, hyd at Awst 2027

Pwy yw Siôn Tomos Owen?

Mae Siôn Tomos Owen yn awdur, bardd, artist a chyflwynwr dwyieithog o Dreorci yn Rhondda Fawr. Mae’n gweithio fel artist llawrydd creadigol yn darlunio, paentio murluniau a chynnal gweithdai creadigol. Roedd yn un o gyflwynwr cyfresi Cynefin a Pobol y Rhondda, roedd hefyd yn gyfrannwr comedi i raglenni Y Tŷ Rygbi, Jonathan ac Academi Gomedi.  Cyrhaeddodd ei gasgliad gyntaf o farddoniaeth, Pethau Sy’n Digwydd (Barddas) restr fer Llyfr y Flwyddyn 2025, a’i gyhoeddiad diweddaraf yw nofel i blant o’r enw Gerwyn Gwrthod a’r Llyfr Does Neb yn Cael ei Ddarllen (Atebol, 2025).  Mae wedi ‘sgwennu a darlunio nifer o lyfrau i blant a dysgwyr Cymraeg, ac mae ei farddoniaeth a’i straeon ar gwricwlwm newydd TGAU Cymraeg a Chymraeg ail iaith. 

Beth yw pwrpas y rol?

Wrth drafod ei obeithion ar gyfer y rôl hon, dywedodd Sion: “Fel Bardd Plant Cymru dwi am fagu’r creadigrwydd sydd ym mhob plentyn i greu, creu cerddi, straeon neu ddarluniadau, y doniol a’r dwys, ac i ddefnyddio’r rhain i feithrin y diddordeb mewn darllen wnaeth gydio ynof fi pan roedden i’r un oedran.” r.

Mae hon yn chwaer-brosiect i Children’s Laureate Wales, ac mae’r ddwy rôl yn cyfrannu tuag at fagu cenhedlaeth iachach, fwy creadigol a mwy amrywiol o ddarllenwyr ac awduron ar draws Cymru. Mae’r holl weithgareddau yn cael eu cynnal drwy gyfrwng y Gymraeg, ond mae’r cynllun yn darparu ar gyfer ac yn ymgysylltu â phlant nad yw eu hiaith gyntaf yn Gymraeg. Mae’r cynllun yn cael ei redeg gan Llenyddiaeth Cymru gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru, S4C, Cyngor Llyfrau Cymru ac Urdd Gobaith Cymru.

Eisiau gwybod mwy am Llenyddiaeth Cymru?

Am fwy o wybodaeth, ewch i’r wefan:

Dysgwch fwy
Ty Newydd Llanystumdwy