Children’s Laureate Wales

Children’s Laureate cyfredol Cymru yw'r awdur a'r bardd Nicola Davies

Nicola-3-Credit-Jon-Pountney

Children’s Laureate Wales

Ers ei sefydlu yn 2019, caiff y rôl ei gwobrwyo pob dwy flynedd i awdur o Gymru sydd yn angerddol dros sicrhau fod mwy o blant a phobl ifanc yn darganfod gwefr a grym llenyddiaeth.

Y Children’s Laureate Wales presennol yw’r awdur a’r bardd, Nicola Davies, y bedwaredd i ymgymryd â’r rôl.

Cyhoeddwyd mai Nicola oedd y Laureate newydd mewn digwyddiad arbennig yn Llyfrgell Maesteg, a dechreuodd yn swyddogol ym mis Medi 2025. Rydym yn ddiolchgar i Sefydliad Ashley Family am eu haelioni wrth gefnogi rhaglen Children’s Laureate Wales yn 2025-2026.

Mae hon yn chwaer-brosiect i Bardd Plant Cymru, ac mae’r ddwy rôl yn cyfrannu tuag at fagu cenhedlaeth iachach, fwy creadigol a mwy amrywiol o ddarllenwyr ac awduron ar draws Cymru. 

Pwy yw Nicola?

Dechreuodd Nicola Davies ei gyrfa fel biolegydd. Bu’n astudio gwyddau, ystlumod a morfilod yn y gwyllt. Aeth ymlaen i fod yn gyflwynydd ar raglenni teledu fel The Really Wild Show ar y BBC, cyn dod yn awdur. Mae hi wedi ysgrifennu mwy na 90 o lyfrau i blant a phobl ifanc, gan gynnwys barddoniaeth, llyfrau lluniau a nofelau. Mae ei gwaith wedi’i gyhoeddi mewn mwy na 12 o ieithoedd gwahanol ac wedi ennill gwobrau yng Nghymru, y DU, Ewrop a’r Unol Daleithiau. Yn ogystal â llawer o lyfrau am fyd natur mae Nicola wedi ysgrifennu am anabledd, galar, mudo dynol a hawliau plant. Mae ei nofelau YA diweddar The Song that Sings Us a Skrimsli, y ddau wedi’u cyhoeddi gan Firefly Press, ill dau wedi’u henwebu ar gyfer Gwobr Yoto Carniege am Ysgrifennu. Enillodd Skrimsli gategori Plant a Phobl Ifanc Llyfr y Flwyddyn yn 2024, a chyrhaeddodd ei chasgliad barddoniaeth Choose Love (Graffeg) restr fer Gwobr Yoto Carnegie am Ysgrifennu 2024. 

Archwilio pleser darllen

Mae Nicola’n rhannu’r nod hwn ar gyfer ei chyfnod yn y rôl: “Rydw i am i holl blant Cymru brofi pleser darllen, grym anhygoel ‘sgwennu, ac i ddod o hyd i’w lleisiau creadigol eu hunain fel cenhedlaeth all alw am newid ac eiriolwyr dros ddyfodol sy’n fwy teg ac yn fwy cynaliadwy.” 

Beth yw ymrwymiad y rol?

Mae’r Children’s Laureate Wales wedi ymrwymo i:

  • Ehangu mynediad plant a phobl ifanc at lenyddiaeth, yn benodol plant a phobl ifanc o gefndiroedd ymylol a chefndiroedd sydd yn cael eu tangynrychioli 
  • Gwella iechyd a llesiant meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc drwy lenyddiaeth
  • Cynyddu mwynhad plant a phobl ifanc o lenyddiaeth
  • Grymuso plant a phobl ifanc drwy greadigrwydd

Mae’r Children’s Laureate Wales yn cadw’n brysur drwy:

  • Rhedeg gweithdai barddoniaeth oddi fewn a thu hwnt i’r dosbarth
  • Ysgrifennu cerddi comisiwn swyddogol i nodi achlysuron arbennig ac ymgyrchoedd sydd o bwys i blant a phobl ifanc
  • Creu adnoddau creadigol ar-lein ar gyfer plant a phobl ifanc 
  • Eirioli dros leisiau plant a phobl ifanc Cymru yn genedlaethol ac yn rhyngwladol

Sut i gysylltu?

Os oes gennych chi ymholiad, cysylltwch drwy e-bostio childrenslaureate@literaturewales.org

Eisiau gwybod mwy am gwaith Llenyddiaeth Cymru?

Ewch i’r wefan i ddarganfod mwy.

Ymweld a gwefan Llenyddiaeth Cymru:
Ty Newydd Llanystumdwy