Dechrau gydag Ancestry
Mae llyfrgelloedd cyhoeddus, swyddfeydd cofnodion archifau a nifer o amgueddfeydd yng Nghymru, a Llyfrgell Genedlaethol Cymru yn darparu mynediad am ddim i Ancestry Library Edition i’ch helpu gyda’ch ymchwil hanes teuluol. Mae llawer o wasanaethau llyfrgell, archifau ac amgueddfeydd yn cynnig hyfforddiant a chefnogaeth i ddefnyddwyr sy’n dymuno dechrau chwilio am hanes eu teulu. Gyda dros 443,916 o chwiliadau yn cael eu cynnal mewn 22,752 o sesiynau ar Ancestry Library ledled Cymru yn 2024, mae’r adnodd yn boblogaidd tu hwnt gyda rheini sydd â diddordeb mewn darganfod mwy am eu hynafiaid.
Mae Ancestry Library yn cynnwys miliynau o ffynonellau cynradd ac eilaidd – yn ogystal â’r cyfrifiad, gall yr adnodd ddarparu achresi, cofnodion hanfodol, cofnodion milwrol a mewnfudo, cofnodion tir, ewyllysiau, papurau newydd a mwy. Dewch o hyd i fanylion am ble roedd eich hynafiaid yn byw, gyda phwy roedden nhw’n byw, a beth oedd eu galwedigaeth a’u statws priodasol – mae’r cyfan yn dechrau gydag enw!
Ym mis Ionawr 2025, cyhoeddodd Ancestry fod Cyfrifiad 1921 o Gymru a Lloegr bellach ar gael ar ei blatfform. Yn ogystal â’i 60 biliwn o gofnodion presennol, mae Cyfrifiad 1921 yn cynnig cipolwg ar sut beth oedd bywyd i bron i 38 miliwn o bobl a oedd yn byw yng Nghymru a Lloegr ar y pryd, a dyma’r cyfrifiad olaf o hanner cyntaf yr 20fed ganrif ar gael i haneswyr teuluol wrth i Gyfrifiad 1931 gael ei gymryd ond ei ddinistrio yn yr Ail Ryfel Byd.
Gyda’r cyfrifiad nesaf (1951) heb fod i gael ei ryddhau tan 2051 – mae Ancestry yn rhoi cyfle i dynnu cymariaethau o orffennol ein hynafiaid i’n presennol.
Rhagor o wybodaeth am Gyfrifiad 1921 ar newyddion Llyfrgelloedd Cymru: https://llyfrgelloedd.cymru/cyfrifiad-1921-cymru-a-lloegr-nawr-ar-gael-drwy-ancestry/
Darllenwch erthyglau diweddaraf Ancestry am fywyd yn 1921 a llawer mwy ar y Blog Ancestry.
I gael gwybodaeth am sut i gael mynediad at Ancestry, ffoniwch, e-bostiwch neu ewch i wefan awdurdod lleol eich llyfrgell – manylion cyswllt ar ‘Dewch o Hyd i Lyfrgell’.