Sialens Ddarllen yr Haf

Cynhelir Sialens Ddarllen yr Haf yn flynyddol yn ystod gwyliau'r ysgol, ar adeg pan all diddordeb plant mewn llyfrau a darllen ostwng os nad ydyn nhw'n cael eu hannog i ddarllen er pleser.

Beth yw Sialens Ddarllen yr Haf?

Darperir Sialens Ddarllen yr Haf blynyddol gan The Reading Agency. Fe’i cefnogwyd yng Nghymru gan Cyngor Llyfrau Cymru, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru. Nod thema eleni ‘Gardd o Straeon’ yw cysylltu plant ag antur trwy ddarllen a byd natur.

Mewn partneriaeth â llyfrgelloedd lleol, nod y cynllun yw helpu atal y gostyngiad mewn darllen dros yr haf y mae llawer o blant yn ei brofi pan nad ydynt yn yr ysgol. Gyda chefnogaeth y llyfrgelloedd, mae’n darparu ffordd hwyliog o gadw meddyliau ifanc yn effro, yn rhad ac am ddim.

Gallwch gofrestru a chymryd rhan yn eich llyfrgell leol, lle gallwch ddewis llyfrau i’w darllen er mwyn cwblhau’r Sialens. Gallwch hefyd gymryd rhan yn ddigidol ar dudalennau Sialens Ddarllen yr Haf.

Ewch i’r wefan
Cymeriadau Gardd o Straeon