Cymeriadau Gardd o Straeon

Ymunwch  â  Sialens Ddarllen yr Haf 2025 Gardd o Straeon!

Mae llyfrgelloedd ledled Cymru yn gyffrous i gymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf eleni – Gardd o Straeon!

Rhwng 5 Gorffennaf a 20 Medi 2025, gall plant 4 i 11 oed ymweld â’u llyfrgell leol ac ymuno ar daith hudolus sy’n dathlu’r celfyddydau creadigol a’r adrodd straeon.

Mae thema eleni yn annog plant i ddarllen, creu, dychmygu a mynegi eu hunain mewn ffyrdd hwyliog a dychmygus.

Codwch eich pecyn cychwynnol yn eich llyfrgell leol neu ymunwch â’r her ar-lein ar Sialens Ddarllen yr Haf i gymryd rhan gartref.

Mae’r Reading Agency yn gweithio mewn partneriaeth â llyfrgelloedd ledled Cymru i gyflwyno Sialens Ddarllen yr Haf, gyda chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru.