Ymweliadau Awduron Ser y Silffoedd yn Cysylltu Plant â Llythrennedd
Mawrth 11, 2025
“Sêr y Silffoedd” yw’r prosiect diweddaraf sy’n cael ei chyd-lynu gan Gyngor Llyfrau Cymru a’i ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Pwrpas y prosiect yw gwahodd awduron i gynnal gweithdai i blant ysgol a hynny mewn llyfrgelloedd ar hyd a lled Cymru.
Mae’r prosiect yn rhedeg tan ddiwedd mis Mawrth 2025 ac mi fydd dros 25 o awduron o Gymru wedi cael y cyfle i gynnal sesiynau i tua 4,500 o blant a hynny mewn 75 llyfrgell ar hyd a lled Cymru.
Yn un o’r sesiynau diweddar, fe wnaeth yr awdur Mari Lovegreen ymweld â Llyfrgell Machynlleth, er mwyn cyflwyno ei llyfr newydd Llyfr Sgrap Macs Sion i blant Ysgol Bro Hyddgen.
Yn ôl adroddiad ymchwil diweddaraf y National Literacy Trust,
“Mae mwy o blant a phobl ifanc sydd wedi bod yn rhan o sesiwn awdur yn dweud eu bod nhw’n mwynhau darllen yn eu amser hamdden o’i gymharu a’u cyfoedion sydd heb fod mewn sesiwn awdur. (58.6% vs. 39.3%).”
Mae hyn heb os yn amlygu pwysigrwydd sesiynau awdur er mwyn gallu cysylltu plant â llythrennedd.
Mae’r ymateb wedi bod yn anhygoel a’r plant wrth eu boddau yn cwrdd ag awduron go iawn ac yn cael eu hysbrydoli ganddynt. Mae hefyd wedi bod yn gyfle gwych i’r miloedd o blant yma cael ymweld â’u llyfrgell leol a fydd gobeithio yn eu hannog i ymweld eto yn y dyfodol.