Pob Plentyn yn Aelod o’r Llyfrgell
Cofrestrodd cynllun Pob Plentyn yn Aelod o’r Llyfrgell (ECALM) ddisgyblion ysgol blwyddyn 4 yn awtomatig fel aelodau o’u gwasanaeth llyfrgell lleol, gan eu hysbrydoli i fwynhau darllen er pleser ac i wella eu medrau darllen , llythrennedd a sgiliau bywyd. Lansiwyd y cynllun yn 2014 ac fe’i cyflwynwyd wedyn ledled Cymru a darparodd Llywodraeth Cymru gyllid tan 2019.
Yn 2015, ymunodd Llyfrgelloedd ac ysgolion cynradd Cymru i ddarparu cerdyn llyfrgell i bob plentyn ysgol gynradd, gyda chwe awdurdod lleol yn treialu’r fenter a, diolch i gyllid Llywodraeth Cymru gan yr Adran Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, cyflwynwyd hyn i bob un o’r 22 awdurdod lleol, yn targedu hyd at 35,000 o blant ysgol gynradd Blwyddyn 4.
Daeth y Cynllun i ben yn 2019 oherwydd effaith rheoliadau GDPR.
Cymerwch olwg ar dudalen Facebook Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref sy’n cynnwys gwybodaeth ar sut i gefnogi eich plentyn adref a helpu eu perfformiad yn yr ysgol.