£1.35 miliwn ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd Cymru

Wrth ymweld ag Archifau Morgannwg (22.5.18), cyhoeddodd y Gweinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, y bydd amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd yng Nghymru yn elwa ar dros £1.35 miliwn o gyllid cyfalaf gan Lywodraeth Cymru i ddatblygu a gwella eu cyfleusterau a’u gwasanaethau.

Bydd y Rhaglen Grantiau Cyfalaf yn helpu amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd i drawsnewid gwasanaethau ar gyfer defnyddwyr ac i sicrhau eu cynaliadwyedd yn y dyfodol. 

Bydd y Gronfa yn helpu i foderneiddio tair llyfrgell yn Ringland, y Pîl a Thonypandy. Bydd yn creu cyfleusterau cymunedol newydd ac yn helpu i sefydlu canolfannau ehangach lle y gall pobl fanteisio ar wasanaethau llyfrgell ynghyd ag amrywiaeth o amwynderau eraill. Bydd hefyd yn cyfrannu at y gwaith o integreiddio gwasanaethau llyfrgell a threftadaeth yn Sir Gaerfyrddin a Chonwy. Bydd ystorfa newydd ar gyfer archifau yn cael eu hychwanegu at adeilad presennol y llyfrgell yng Nghaerfyrddin a bydd cyfleuster diwylliannol newydd yn cael ei sefydlu yn rhan o ddatblygiad Canolfan Ddiwylliant Conwy. Bydd y cyfleuster hwn yn rhoi mynediad i gasgliadau’r llyfrgell a’r archif, yn ogystal â chasgliadau threftadaeth.

Bydd cyllid yn cael ei roi i bedair amgueddfa er mwyn sicrhau mwy o fynediad i’w casgliadau.

Wrth gyhoeddi’r cyllid, dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, yr Arglwydd Elis-Thomas: 

“Mae’n bleser mawr gennyf gyhoeddi dros £1.35 miliwn ar gyfer ein hamgueddfeydd, ein harchifau a’n llyfrgelloedd. Rwyf wedi gweld â llygaid fy hun y gwelliannau y mae’r gronfa hon eisoes wedi’u gwneud o ran creu mannau modern a chroesawgar i bawb. 

“Mae Llywodraeth Cymru yn dal i fod yn ymrwymedig i gefnogi’r gwasanaethau pwysig hyn. Bydd y gronfa hon yn sicrhau bod mwy o bobl yn ein cymunedau yn cael mynediad i’r gwasanaethau. Bydd hynny yn arwain at fwy o bobl yn ymddiddori mewn diwylliant, yn darparu cyfleoedd dysgu ac yn helpu ein cymunedau i ffynnu. Rwy’n edrych ymlaen at ymweld â’r cyfleusterau newydd maes o law, ac rwy’n annog pawb i fynd i weld yr hyn mae eu hamgueddfa, eu harchif neu eu llyfrgell leol yn eu cynnig”.

Datganiad y wasg lawn: ar wefan Llywodraeth Cymru

Cookie Settings