Holi Llyfrgellydd

Mae Holi Llyfrgellydd yn wasanaeth ar-lein rhad ac am ddim sy’n eich galluogi i ofyn cwestiwn i dîm ymholiadau  Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Y mae staff ymholiadau penodol, gwybodus a dwyieithog y Llyfrgell Genedlaethol ar gael i ateb amrywiaeth o eich cwestiynau, dim ond i chi gwblhau’r ffurflen isod. Dylai cwestiynau sy’n ymwneud â materion lleol / gwybodaeth cyffredinol  gael eu cyfeirio at eich llyfrgell leol. I ddod o hyd i fanylion cyswllt eich llyfrgell agosach, ewch i dudalen Ffeindio’ch Llyfrgell.

Mae’r Llyfrgell Genedlaethol yn anelu at ateb 90% o’r holl ymholiadau o fewn 10 diwrnod gwaith, ond gall ymholiadau cymhleth, neu rai sy’n ymholiadau Rhyddid Gwybodaeth gymryd hyd at 20 diwrnod gwaith.

Mae’r tîm ynholiadau yn cynngig y gwasanaethau canlynol:

  • Cadarnhau manylion unigolion yn y Cyfrifiad, neu chwilio cyfnod rhesymol am unigolion neu deuluoedd penodol
  • Dod o hyd i rai manylion am hanes eich tŷ drwy chwilio mapiau degwm neu fapiau ystâd
  • Dod o hyd i erthyglau papurau newydd, os darperir manylion am ddyddiadau chwilio rhesymol
  • Cadarnhau manylion bibliograffig llyfrau ac erthyglau

Am fwy o wybodaeth am y math o ymholiadau a atebwyd, ewch i dudalen ymholiadau’r Llyfrgell Genedlaethol. Ar gyfer unrhyw gwestiynau eraill, ewch i dudalen gwestiynau a ofynnir yn aml.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am unrhyw un o’r adnoddau a ddarperir ar llyfrgelloeddcymru.org, llenwch y ffurflen ar ein tudalen cysylltwch â ni os gwelwch yn dda.

Holi Llyfrgellydd

Cookie Settings