Datganiad Hygyrchedd

Mae’r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wefan llyfrgelloedd.cymru / libraries.wales.

Gwasanaeth y Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol sy’n rhedeg y wefan hon. Mae arnom eisiau i gynifer â phosibl o bobl allu defnyddio’r wefan hon. Er enghraifft, mae hynny’n golygu y dylech allu gwneud y canlynol:

  • newid lliwiau, lefelau cyferbynnedd a ffontiau
  • nesáu hyd at 300% heb i’r testun orlifo oddi ar y sgrin
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio bysellfwrdd yn unig
  • gwe-lywio’r rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio meddalwedd adnabod llais
  • gwrando ar y rhan fwyaf o’r wefan gan ddefnyddio rhaglen darllen sgrin (gan gynnwys y fersiynau diweddaraf o JAWS, NVDA a VoiceOver)

Rydym hefyd wedi sicrhau bod testun y wefan mor syml â phosib i’w ddeall.

Mae cyngor ar gael gan AbilityNet ynghylch gwneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes gennych chi anabledd.

Pa mor hygyrch yw’r wefan hon

Rydym yn gwybod nad yw pob rhan o’r wefan hon yn gwbl hygyrch:

  • ni wnaiff y testun ail-lifo mewn colofn sengl wrth newid maint ffenestr y porwr
  • nid oes modd addasu uchder llinell neu fwlch rhwng testun
  • nid yw’r rhan fwyaf o ddogfennau PDF hŷn yn gwbl hygyrch i feddalwedd darllen sgrin
  • nid oes penawdau ar ffrydiau fideo byw
  • mae’n anodd defnyddio dim ond y bysellfwrdd i symud o amgylch rhai o’n ffurflenni ar-lein
  • allwch chi ddim neidio i’r prif gynnwys os ydych chi’n defnyddio rhaglen darllen sgrin
  • dim ond hyn a hyn y gallwch chi chwyddo’r map ar ein tudalen ‘cysylltu â ni’

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd sy’n ymwneud â’r wefan hon

Rydym bob amser yn awyddus i wella hygyrchedd y wefan hon. Os ydych chi’n dod ar draws unrhyw broblemau sydd heb eu nodi ar y dudalen hon, neu os ydych chi’n credu nad ydym yn bodloni’r gofynion hygyrchedd, defnyddiwch ein tudalen ‘Cysylltwch â ni: https://llyfrgelloedd.cymru/contact-us-welsh/

Byddwn yn ystyried eich cais ac yn cysylltu â chi o fewn 7 diwrnod.

Gweithdrefn gorfodi

Y Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol (EHRC) sy’n gyfrifol am weithredu Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018 (y ‘rheoliadau hygyrchedd’). Os ydych chi’n anhapus â’r ffordd rydyn ni’n ymateb i’ch cwyn, cysylltwch â’r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (EASS).

Gwybodaeth dechnegol am hygyrchedd y wefan hon

Mae Gwasanaeth y Llyfrgell Ddigidol Genedlaethol / ‘Llyfrgelloedd Cymru / Libraries Wales’ wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau ac Apiau Symudol) (Rhif 2) 2018.

Statws cydymffurfedd

Mae’r wefan hon yn cydymffurfio’n rhannol â safon Lefel AA Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We fersiwn 2.1 oherwydd yr eithriadau’ neu’r ‘diffyg cydymffurfio a’r eithriadau’ sy’n cael eu rhestru isod.

Cynnwys nad yw’n hygyrch

Nid yw’r cynnwys sy’n cael ei restru isod yn hygyrch am y rhesymau canlynol:

Diffyg cydymffurfio â’r rheoliadau hygyrchedd

Nid yw rhai PDFs wedi cael enwau hygyrch nac wedi’u tagio i fod yn ddarllenadwy gan ddarllenwyr sgrin. Mae hyn yn methu meini prawf llwyddiant WCAG 2.1 1.1.1 (cynnwys nad yw’n destun).

Rydym yn gweithio ar ddatrys y materion hyn, ac yn bwriadu eu datrys erbyn mis Ebrill 2022.

Pan fyddwn yn cyhoeddi cynnwys newydd byddwn yn sicrhau bod ein defnydd o ddelweddau yn bodloni safonau hygyrchedd.

PDFs a dogfennau eraill

Mae rhai o’n dogfennau PDF a Word yn hanfodol er mwyn darparu ein gwasanaethau. Er enghraifft, mae gennym ddogfennau PDF sy’n cynnwys gwybodaeth ynghylch sut y gall defnyddwyr ddefnyddio ein gwasanaethau, a ffurflenni a gyhoeddwyd fel dogfennau Word. Erbyn mis Medi 2022, rydym yn bwriadu trwsio’r rhain neu roi tudalennau HTML hygyrch yn eu lle.

Nid yw’r rheoliadau hygyrchedd yn ei gwneud hi’n ofynnol i ni drwsio PDFs neu ddogfennau eraill a gyhoeddwyd cyn 23 Medi 2018 os nad ydyn nhw’n hanfodol i ddarparu ein gwasanaethau. Bydd unrhyw ddogfennau PDF neu Word newydd rydym yn eu cyhoeddi yn diwallu safonau hygyrchedd.

Fideos byw

Nid ydym yn bwriadu ychwanegu capsiynau at ffrydiau fideo byw oherwydd bod fideos byw wedi’u heithrio o’r rheoliadau hygyrchedd.

Paratoad y datganiad hygyrchedd hwn

Paratowyd y datganiad hwn ar 16 Gorrffennaf 2021. Adolygwyd ddiwethaf ar 15 Medi 2021.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 28 Gorffennaf 2021. Cynhaliwyd y prawf gan Connect Internet Solutions.

Os oes gennych unrhyw awgrymiadau neu os hoffech fwy o wybodaeth am sut yr ydym wedi gwneud y safle hwn yn hygyrch, cysylltwch â ni drwy ein tudalen Cysylltu â Ni.

Cookie Settings