Sialens Ddarllen yr Haf 2017: canlyniadau Anifail-Ysbiwyr
Rhagfyr 21, 2017Sialens Ddarllen yr Haf 2017: The Reading Agency a llyfrgelloedd yn cyhoeddi cynnydd yn nifer y rhai a gymerodd ran yn y sialens Anifail-Ysbiwyr, ac mai’r Beano fydd thema 2018:
- Cymerodd 761,758 o blant ran yn y sialens Anifail-Ysbiwyr ar lefel y DU, ac roedd hynny’n gynnydd o 6,550 ar gyfanswm 2016
- Mae’r cyfanswm hwn yn cynnwys 27,206 o blant cyn oed ysgol
- Roedd 44% o’r rhai a gymerodd ran yn fechgyn
- Cafwyd cynnydd o 24.7% yn nifer y plant a gymerodd ran yn ddigidol
Bu mwy o blant yn darllen yn eu llyfrgell leol yr haf yma na’r llynedd, yn ôl ystadegau newydd a ryddhawyd mis diwethaf gan yr Asiantaeth Ddarllen a Chymdeithas y Prif Lyfrgellwyr ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf 2017.
Bu cyfanswm o 761,758 o blant ledled y DU yn cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf 2017, Anifail-Ysbiwyr, yn eu llyfrgell leol. Mae hyn yn gynnydd o 6,550 (0.87%) ar gyfanswm 2016, er gwaethaf y ffaith fod gwasanaethau llyfrgelloedd cyhoeddus y DU yn dal i wynebu hinsawdd heriol.
“Fe wnaeth y llyfrau fy ysbrydoli i ddarllen mwy am anifeiliaid ac, yn fwy na hynny, roedd yn ddirgelwch llawn hwyl i’w ddatrys. Mae wedi bod yn gryn dipyn o help i fi gyda fy sgiliau darllen.” Merch, 8-11, Bwrdeistref Hillingdon yn Llundain.
Dengys gwaith ymchwil mai dim ond 1 o bob 4 bachgen sy’n darllen y tu hwnt i’r ysgol bob dydd.[1] Mae adroddiad cyfranogiad Sialens Ddarllen yr Haf eleni yn dangos bod 44% o’r rhai a gymerodd ran yn Anifail-Ysbiwyr yn fechgyn.
“Fe wnes i fwynhau’r Sialens yr haf yma, fe wnaeth imi ddewis llyfrau na fyddwn yn eu darllen fel arfer, a gweld sut roedd gwahanol awduron yn ysgrifennu eu storïau. Roedd ymweld â’r llyfrgell yn llawer o hwyl, yn enwedig y sticeri crafu a ffroeni!” Bachgen, 8-11, Gorllewin Sussex.
Mae ffigwr cyffredinol eleni yn cynnwys 27,206 o blant cyn oed ysgol fu’n cymryd rhan mewn Sialens Fach a baratowyd yn arbennig ar eu cyfer – cynnydd o 7.05% o’i gymharu â’r llynedd. Mae’r Sialens Fach yn galluogi brodyr a chwiorydd iau i gael eu “Sialens” eu hunain, yn cyflwyno teuluoedd i’w llyfrgell leol ac yn helpu i gynyddu hyder rhieni a gofalwyr i rannu llyfrau a’u darllen ar goedd gyda’u plant.
Ac i ychwanegu at y newyddion da, fe wnaeth y sialens Anifail-Ysbiwyr hybu mwy o ymwneud ar-lein ar wefan swyddogol Sialens Ddarllen yr Haf. Treuliodd 192,358 o ddefnyddwyr (cynnydd o 24.7% o’i gymharu â 2016) ragor o amser ar y wefan yn ymwneud â’r cynnwys ac â defnyddwyr eraill, gyda chynnydd mawr o ran sawl gwaith yr edrychwyd ar dudalennau (+154%); sgwrsio (+216%), ac argymhellion llyfrau (+159%).
Bob blwyddyn, mae Sialens Ddarllen yr Haf i blant yn un syml. Cânt eu hannog i ddarllen chwech neu ragor o lyfrau o’u dewis – llyfrau ffeithiol, llyfrau jôcs, llyfrau lluniau, llyfrau sain, cyhyd â’u bod yn cael eu benthyca o’r llyfrgell – yn ystod gwyliau ysgol yr haf. Ceir cymhellion a gwobrwyon i’w casglu, yn ogystal â thystysgrif i bob plentyn sy’n cwblhau’r Sialens. Gall plant gofrestru yn eu llyfrgell leol wrth i wyliau’r haf gychwyn. Bu 97% o awdurdodau’r DU (heb gynnwys Gogledd Iwerddon) yn cymryd rhan yn Sialens Ddarllen yr Haf yr haf yma.
Dyma rai o ganfyddiadau allweddol eraill yr adroddiad cyfranogiad:
- Ysgrifennwyd 89,632 o adolygiadau o lyfrau gan blant ar wefan Sialens Ddarllen yr Haf
- Yn ogystal â’r 761,758 o blant a gymerodd ran yn y DU, bu 18,400 o blant yn cymryd rhan trwy gyfrwng y British Council a’r Fyddin
- Cynhaliodd llyfrgelloedd 17,814 o ddigwyddiadau ar thema Sialens Ddarllen yr Haf
- Ymunodd 86,709 o blant â’r llyfrgell fel aelodau newydd
Mae fersiwn llawn Adroddiad Cyfranogiad Sialens Ddarllen yr Haf 2017 ar gael i’w lawrlwytho yma.
[1] Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol (2012) Comisiwn ar Ddarllen ymhlith Bechgyn
Yng Nghymru, mae Cyngor Llyfrau Cymru yn cefnogi Sialens Ddarllen yr Haf trwy nawdd gan Llywodraeth Cymru. ]