Darganfyddwch rhywbeth newydd yn eich Llyfrgell yr hydref hwn
Hydref 9, 2017Daw llyfrgelloedd ledled Cymru yn fyw yn ystod mis Hydref gan ddarparu rhywbeth at ddant pawb. O Fôn i Fynwy bydd llyfrgelloedd yn croesawu awduron a darlunwyr gwadd, sesiynau grwpiau darllen, gweithgareddau addysgol a llythrennedd a llawer iawn mwy, y cyfan i’ch denu yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd 9-14 Hydref.
Wythnos Llyfrgelloedd yw’r arddangosiad blynyddol o’r holl weithgareddau creadigol, blaengar ac amrywiol sydd gan lyfrgelloedd i’w cynnig, ac eleni mae pobl yn cael eu hannog i ymweld â’u llyfrgell leol a darganfod rhywbeth newydd, gan gynnwys defnyddio cyfrifiaduron yn rhad ac am ddim, e-gylchgronau ac e-gomics rhad ac am ddim i’w lawr lwytho, a hyd yn oed lecyn i ymlacio dros goffi.
Un o gefnogwyr pennaf Wythnos Llyfrgelloedd eleni yw’r digrifwr Elis James, sydd newydd gwblhau taith mis o sioeau un dyn ledled Cymru, a bydd yn ymweld â Llyfrgell Canolog Caerdydd y prynhawn yma (9fed Hydref):
“Cefais fy magu mewn amgylchedd oedd yn llawn llyfrau, ac o oedran ifanc roeddwn yn gwerthfawrogi pwysigrwydd darllen a sut allai ehangu fy meddwl. Roeddwn wrth fy modd yn mynd i’r llyfrgell ac rwy’n dal i werthfawrogi beth sydd ganddynt i’w gynnig, ac mae’n naturiol eu bod wedi gorfod ehangu eu hapêl, gan wneud hynny’n llwyddiannus iawn. Byddwn yn annog unrhyw un i fanteisio ar Wythnos Llyfrgelloedd ac ymweld â’u llyfrgell leol a darganfod beth sydd ganddynt i’w gynnig.”
Mae llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru wedi gweld cynnydd enfawr yn eu gwasanaethau digidol, ac os ydych yn ddarllenydd comics achlysurol neu’n hoffi gwrando ar lyfrau’n cael eu darllen ichi, mae dewis enfawr ar gael erbyn hyn. Mae llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru yn cynnig e-gylchgronau, e-gomics, e-lyfrau sain yn ogystal ag e-lyfrau arferol, y cyfan yn rhad ac am ddim i’w lawr lwytho i’w darllen pan fynnwch. Cynhyrchodd hyn gynnydd o 5% mewn lawr lwythiadau o’i gymharu â’r flwyddyn gynt.
Dywedodd Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth Cymru dros yr Economi a Seilwaith, Ken Skates AC:
“Mae Wythnos Llyfrgelloedd yn gyfle i ddarganfod yr holl bethau gwahanol y gallwch eu gwneud yn eich llyfrgell, o chwarae a dysgu i blant, i reoli eich iechyd, i ddefnyddio wifi a gemau rhad ac am ddim, i ddod o hyd i swydd, diddordeb neu gychwyn busnes – gallwch hyd yn oed baratoi ar gyfer eich prawf gyrru theori yno. I’r sawl sydd ar fin mynd i goleg neu brifysgol, mae’r llyfrgell yn lle allweddol i’w archwilio i helpu gwella eich llwyddiant yn y dyfodol. Mae llawer o lyfrgelloedd yn ganolbwynt y gymuned ac yn lle i ddysgu a chymdeithasu, felly galwch heibio eich llyfrgell chi a darganfod beth all gynnig ichi.”
Ymhlith y gweithgareddau eraill sy’n cael eu cynnal yr wythnos yma bydd digwyddiadau a gweithdai darllen gyda phobl fel yr awdur arobryn Giancarlo Gemin a bardd cenedlaethol pobl ifanc Cymru, Casia William a bydd y rhestr fer ar gyfer gwobr Llyfr y Flwyddyn Cymru hefyd yn cael ei chyhoeddi ar ddydd Mawrth gan Lenyddiaeth Cymru.
Kathryn Parry yw Rheolydd Datblygu CILIP Cymru Wales, y gymdeithas llyfrgelloedd a gwybodaeth, ac mae hi’n credu fod Wythnos Llyfrgelloedd yn rhoi cipolwg ar flwyddyn gyfan o weithgareddau:
“Trwy weithio i Cilip gallaf weld cymaint o broffesiynau sy’n cael eu cefnogi gan lyfrgellwyr a gweithwyr llyfrgell. Tra bod rhai yn gweithio gyda llyfrgelloedd ffisegol efallai nad yw hynny’n wir am bobl fel gweithwyr gwybodaeth. Maen nhw’n cefnogi myfyrwyr mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion, meddygon cyswllt, gweithwyr iechyd a phobl yn gweithio i Lywodraeth Cymru i ymchwilio a chynnig canllawiau ar gyfer ysgrifennu academaidd. Mae’r wythnos yn gyfle i ddathlu’r proffesiwn yn ei gyfanrwydd a’i bwysigrwydd yng nghymunedau heddiw.”
Mae Wythnos Llyfrgelloedd yn gyfle gwych i arddangos pob llyfrgell unigol ledled Cymru, a chan fod dros 250 o lyfrgelloedd ar draws Cymru ymhob lliw a llun, yn fach a mawr, ar olwynion neu o fewn pedair wal, mae llawer i’w ddarganfod.
Cyhoeddir y rhestr fer hir ddisgwyliedig ar gyfer Llyfr y Flwyddyn Cymru yfory (Dydd Mawrth, 10fed Hydref) fel y mae Branwen Llewellyn o Lenyddiaeth Cymru yn esbonio:
“Ein bwriad gyda chystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn yw dathlu llenyddiaeth Gymraeg a Saesneg a gynhyrchir yng Nghymru, ac mae’n addas iawn fod y cyhoeddiad yn cael ei wneud yn ystod Wythnos Llyfrgelloedd. Y gobaith yw y bydd y cyhoeddiad yn annog darllenwyr i chwilio am y llyfrau yn eu llyfrgelloedd lleol a mwynhau’r cyfoeth o ddarllen sydd gennym yma yng Nghymru. Cyhoeddir yr enillwyr yn ddiweddarach yn y flwyddyn ym mis Tachwedd.”
Er mwyn cael y newyddion diweddaraf, ewch i www.librariesweek.org.uk