Andrew Green
Medi 1, 2020Magwyd Andrew Green yn Swydd Efrog. Daeth i Gymru yn 1973 i weithio mewn llyfrgelloedd academaidd, a rhwng 1998 a 2013 ef oedd Prif Lyfrgellydd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ar ôl cyfnodau yng Nghaerdydd ac Aberystwyth mae’n byw nawr yn Abertawe. Enillodd ei lyfr Cymru mewn 100 Gwrthrych categori Ffeithiol Greadigol yn seremoni Llyfr y Flwyddyn 2019. Mae Andrew yn blogio bob wythnos o dan yr enw ‘Gwallter’, ac mae wrthi’n paratoi llyfr newydd ar hanes cerdded yng Nghymru. Rhwng y Silffoedd yw ei nofel gyntaf. Cawsom gyfle i drafod ei nofel gyffroes newydd efo Andrew yn ddiweddar …
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ysgrifennu Rhwng y Silffoedd?
O 1970 tan yn ddiweddar bues i’n rhan o’r byd addysg uwch mewn rhyw fodd neu’i gilydd – fel myfyriwr, gweithiwr neu lywodraethwr. Ond wedi gadael y byd hwnnw, teimlais fy mod i’n gorfod mynegi fy nheimladau cryf am brifysgolion cyfoes. Cyhoeddais i erthygl sobr, gonfensiynol mewn cylchgrawn. Ond penderfynais taw’r ffordd orau o ddweud y cyfan fyddai trwy ysgrifennu nofel ddychanol, a cheisio gwneud i bobl chwerthin yn ogystal â meddwl.
Peth arall oedd yr awydd i roi cynnig ar ysgrifennu ffuglen am y tro cyntaf, ar ôl blynyddoedd o gyhoeddi llyfrau, erthyglau a blogiau ‘ffeithiol’. Rhywbeth fyddai’n hwyl i’r awdur, ac yn hwyl i ddarllenwyr.
Mwynhad, a chwerthin!
Rhaid cyfaddef, gall y chwerthin troi’n chwerw ar adegau, fel mae awdur y ‘nodyn golygyddol’ yn dweud ar ddechrau’r nofel. Ond y rheswm am hynny yw bod negeseuon difrifol yn cwato y tu ôl i’r hiwmor. Dwi’n ceisio gwneud ambell bwynt am sut mae prifysgolion – ac ein cymdeithas yn gyffredinol – wedi newid yn ystod y degawdau diwethaf – er gwaeth, yn aml iawn, gan ddiystyru rhai o’n gwerthoedd anwylaf.
Pa wybodaeth arbenigol neu ymchwil oedd ei hangen i ysgrifennu’r llyfr hwn?
Os ydych chi’n hala digon o amser mewn cylch arbennig – prifysgolion, yn fy achos i – allwch chi ddim llai na chasglu llu o straeon a chymeriadau rhyfeddol. Wedyn, gyda’ch pin yn eich llaw, y cwbl sydd ei eisiau yw pysgota yn amyneddgar – taflu eich lein i’r afon o atgofion a thynnu pysgod allan o’r dŵr. Felly, daeth syniadau ar gyfer y digwyddiadau a’r bobl yn y nofel o’m profiad personol, ac o ddarllen am helyntion prifysgolion eraill. Doedd dim prinder defnyddiau crai.
Beth wnaeth i chi ddechrau ysgrifennu?
Dwi’n ysgrifennu ers hanner canrif a mwy, ond heb anelu at fod yn greadigol. Yn y gwaith, roedd yr ysgrifennu’n gul ac iwtilitaraidd – er mwyn cynhyrchu adroddiadau sych ac erthyglau proffesiynol. Ar ôl ymddeol yn 2013 penderfynais ledu fy esgyll, a rhoi cynnig ar ysgrifennu mewn genres gwahanol. Felly cyhoeddais lyfr ‘sut i’w wneud e’, wedyn llyfr hanes – ac yn awr, nofel. Erbyn hyn dwi’n gweithio ar lyfr mewn dull arall eto.
Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?
Roeddwn i wastad yn fachgen llyfrgar, yn llyncu popeth, o Enid Blyton ymlaen. Erbyn fy arddegau hwyr fy ffefryn oedd Tristram Shandy gan Laurence Sterne, tad-cu nofelau chwareus, ffraeth, athronyddol. Mae fy hoff awduron modern yn sefyll yn ôl ei draed: Alasdair Gray, B. S. Johnson a Lucy Ellmann (ganddi hi daeth y syniad o gynnwys mynegai mewn nofel). Mae Rhwng y Silffoedd yn ddyledus hefyd i glasuron y nofel gampws, gan awduron fel Malcolm Bradbury, David Lodge a Tom Sharpe.
Des i nabod nofelau Cymraeg yn hwyr, yn fy nhridegau. O ran ffuglen dwi’n edmygu gwaith Twm Miall a Dafydd Huws, a’r nofelau dychanol a gyhoeddodd Marcel Williams yn y 1990au cynnar, fel Cansen y Cymry a Gwalia ar Garlam. Mae gwaith Mihangel Morgan hefyd yn apelio, yn arbennig ei nofel gyntaf, Dirgel Ddyn, a’i straeon byrion. Mewn arddull hollol wahanol, mae Gwirionedd gan Elinor Wyn Reynolds yn gampwaith – ond byddai ei hefelychu ymhell y tu hwnt i’m gallu fel awdur!
Pa brofiadau yn eich bywyd sydd wedi dylanwadu ar eich ysgrifennu fwyaf?
Ar y cyfan, syniadau yn hytrach na phrofiadau penodol sy’n sbarduno fy ysgrifennu.
Pe gallech ddewis fod yn gymeriad o lyfr am ddiwrnod, pwy fyddai hwnnw a pham?
Mewn llyfrau eraill: Alan Breck Stewart, y rebel rhamantaidd sy’n crwydro Ucheldiroedd yr Alban yn Kidnapped gan Robert Louis Stevenson. Neu Mr Gumpy yn Mr Gumpy’s Outing gan John Burningham: uchafbwynt ei anturiaethau, yn ddigon priodol, yw te yn yr ardd.
Yn y llyfr hwn: Menna. Menyw alluog a hyderus, ond un sy wedi dioddef. Mae hi mor ansicr wrth ymroddi i berthynas newydd fel ei bod hi’n ysgrifennu am gyngor ‘Anna Magdalena’, agony aunt gyda’r Post Cymreig. Erbyn diwedd y stori mae hi’n hapusach o lawer.
Pa gymeriad yn eich llyfrau fyddech chi’n lleiaf tebygol o ddod ymlaen gyda hi/ef?
Olynydd Diocletian Jones fel Is-Ganghellor yw’r Athro Roger Grimshaw. Does ganddo’r un nodwedd bositif, mae arna i ofn. Y geiriau sydd nesa i’w enw yn y mynegai yw: cyfrwystra, enaid oer, lladrata, nepotistiaeth, paranoia, twyll, unbennaeth, ymddygiad anweddus. Dyn i’w osgoi.
Pa neges sydd gennych i ysbrydoli ysgrifenwyr ifanc?
I awduron newydd o bob oedran, cyn dechrau: darllen, darllen a darllen; ar ôl dechrau: dal ati.