Cael Hwyl yn Dathlu Rhigymau a Chaneuon yn Amser Rhigwm Mawr Cymru!
Chwefror 5, 2021Bydd Amser Rhigwm Mawr Cymru yn digwydd o ddydd Llun 8fed tan ddydd Gwener 12eg Chwefror 2021!
Eleni, mae BookTrust Cymru eisiau gwneud Amser Rhigwm Mawr Cymru yn well fyth trwy wahodd plant yn y Cyfnod Sylfaen i chwarae rhan yn yr hwyl rhigymu hefyd! Os ydych chi’n gweithio gyda phlant rhwng 0 a 7 oed, gallwch chi ymuno â’r hwyl trwy gynnal eich Amser Rhigwm Mawr Cymru eich hun naill ai yn eich lleoliad, eich ysgol, gartref neu ar-lein.
Beth yw’r manteision cymryd rhan?
Mae rhigymau a chaneuon yn nodwedd gyffredin mewn plentyndod – boed hynny’n hwiangerddi traddodiadol, caneuon dwli, cerddi syml neu bethau a gyfansoddwyd yn y fan a’r lle! Bydd Booktrust Cymru yn treulio’r wythnos yn dathlu rhigymau a chaneuon, a’r manteision sydd ganddynt i blant.
Gall rhannu rhigymau helpu plant i ddod yn wrandawyr da a chodi’u hyder i ymuno, yn ogystal â’u helpu i ddatblygu sgiliau gwrando a thalu sylw a dysgu geirfa ardderchog.
Yn fwyaf pwysig, mae rhannu rhigymau a chaneuon yn hwyl, yn hawdd, a gellir ei wneud ymhobman!
Beth sy’n digwydd eleni?
Cynhelir digwyddiadau arbennig Amser Rhigwm Mawr Cymru mewn llyfrgelloedd, meithrinfeydd, ysgolion ac ar-lein ledled Cymru. Bydd Booktrust Cymru yn rhannu dros 20,000 o sticeri a thystysgrifau a gynlluniwyd yn arbennig i blant fydd yn rhannu rhigymau yn ystod yr wythnos hon!
Bydd llawer o gynnwys hwyliog a chyffrous ar gael drwy Twitter a Facebook drwy gydol yr wythnos, ynghyd â chynnwys ar y wefan, gan gynnwys fideos, caneuon, a chynghorion rhigymu. Gellir dod o hyd i gynnwys y wefan fan yma