Ewch yn Ferw Gwyllt dros Ddarllen yn Sialens Ddarllen yr Haf 2021!
Gorffennaf 12, 2021Ewch yn ferw gwyllt dros ddarllen gydag Arwyr y Byd Gwyllt yn Sialens Ddarllen yr Haf 2021 – ar-lein neu yn eich llyfrgell leol!
- Lansiwyd Sialens Ddarllen yr Haf mewn llyfrgelloedd ledled Cymru a Lloegr ar 10 Gorffennaf 2021 (fe’i lansiwyd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar 19 Mehefin)
- Y thema yw ‘Arwyr y Byd Gwyllt’, mewn partneriaeth â WWF, gan annog plant ledled y wlad i gymryd rhan mewn gweithgaredd darllen hwyliog sy’n canolbwyntio ar faterion amgylcheddol
- Mae platfform Sialens Ar-lein yn cynnig gwobrau digidol am ddarllen, gan gefnogi plant gyda’u darllen ar ôl blwyddyn anodd
- Ceir cynnwys newydd, cyffrous gan awduron a darlunwyr o Gymru, diolch i nawdd gan Lywodraeth Cymru
- Bydd llyfrgelloedd yn cynllunio rhaglen gyffrous o ddigwyddiadau a gweithgareddau
- Noddir y Sialens gan Pearson ac OverDrive Education, dau sefydliad sydd wedi ymrwymo i gadw plant i ddarllen yr haf hwn
- Bydd y WWF yn cynnal digwyddiadau rhithwir, gan gynnwys seminar ysgol a gwersi byw
Mae’r Asiantaeth Ddarllen, mewn partneriaeth â WWF, yn falch o gyhoeddi bod y naturiaethwr ifanc a’r awdur Dara McAnulty, a’r anturiaethwr a’r cyflwynydd Steve Backshall, yn llysgenhadon ar gyfer Sialens Ddarllen yr Haf 2021, wrth i’r cynlluniau llawn ar gyfer yr ymgyrch gael eu datgelu.
Mae Sialens Ddarllen yr Haf, a gyflwynir mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus, yn annog plant rhwng 4 ac 11 oed i ddarllen er mwyn pleser dros wyliau’r haf. Bydd y Sialens yn cael ei lansio mewn llyfrgelloedd ledled Cymru a Lloegr ar 10 Gorffennaf 2021 (fe’i lansiwyd yn yr Alban a Gogledd Iwerddon ar 19 Mehefin). Gan ymuno â WWF ar gyfer 2021, thema eleni yw Arwyr y Byd Gwyllt sy’n ysbrydoli plant i archwilio ffyrdd o helpu i achub y blaned. Mae’r Sialens flynyddol yn cyrraedd dros 700,000 o blant ledled y DU bob blwyddyn, ac mae’r Asiantaeth Ddarllen yn anelu at gynyddu ei heffaith hyd yn oed ymhellach eleni trwy gyrraedd 1 miliwn o blant â’i llwyfan ddigidol newydd sy’n darparu gweithgareddau darllen hygyrch a hwyliog i bob plentyn.
Dywedodd Bethan Hughes ar ran Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru: “Sialens Ddarllen yr Haf yw un o uchafbwyntiau’r flwyddyn yn ein llyfrgelloedd ledled Cymru, ac eleni yn arbennig rydym yn edrych ymlaen at estyn croeso cynnes i blant a’u teuluoedd. Mae modd cymryd rhan trwy ymweld â’r llyfrgell, trwy gasglu pecyn, a thrwy’r wefan ddwyieithog gyffrous. Mae’r Sialens yn gyfle i blant ddewis beth maen nhw’n dymuno ei ddarllen, i ddarganfod llyfrau ac awduron newydd, ac i ddatblygu eu sgiliau a’u hyder wrth ddarllen. Mae’r Sialens yn cael effaith gadarnhaol ar lesiant a datblygiad pob plentyn sy’n cymryd rhan – ac yn bennaf oll mae’n hwyl. Rydym yn ddiolchgar i’r Asiantaeth Ddarllen, Llywodraeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru am weithio mewn partneriaeth agos â ni er mwyn i ni gynnig y Sialens i blant Cymru.”
Gyda syniadau gan WWF, mae’r Sialens yn canolbwyntio ar weithredu dros natur a mynd i’r afael â materion amgylcheddol go iawn, o lygredd plastig a datgoedwigo i ddirywiad bywyd gwyllt a cholledion ym myd natur. Trwy gymryd rhan yn y Sialens, gyda phecynnau am ddim o lyfrgelloedd cyhoeddus neu ar-lein, bydd plant yn gallu ymuno â chwe chymeriad ffuglennol – ‘arwyr gwyllt’ – i helpu i ddatrys rhai o’r bygythiadau hyn, gan ddysgu am bwysigrwydd yr amgylchedd wrth helpu i adfer elfennau o fyd natur yng nghymdogaeth ‘Caerwyllt’.
Bydd ymgyrch ddigidol ‘Croeso i Gaerwyllt: Dewch i Gwrdd â’r Arwyr’ yn cael ei chynnal dros yr haf gyda thema wythnosol ar wahanol gynefinoedd, dan arweiniad Arwyr y Byd Gwyllt, gan gynnwys Coetir, Afon, Fferm, Tref, Cartref/Ysgol a’r Traeth. Mae’r cymeriadau a’r dirwedd yn cael eu darlunio gan yr awdur a’r darlunydd plant arobryn Heath McKenzie.
Dros dymor yr haf, bydd WWF yn cynnig cyfleoedd ac adnoddau i lyfrgelloedd cyhoeddus ac ysgolion cynradd y DU i ymgysylltu â thema natur y Sialens Ddarllen ac i archwilio rhai o faterion pwysicaf ein cyfnod trwy bŵer darllen. Bydd WWF hefyd yn cynnal seminarau ysgol a gwersi byw, a bydd diweddariadau yn cael eu postio ar eu tudalen we bwrpasol Sialens Darllen yr Haf.
Ar 15 Gorffennaf 2021 mae WWF Cymru wedi trefnu gweithdai gyda’r storïwr Tamar Eluned Williams yn archwilio sut y gall darllen, ysgrifennu ac adrodd straeon am fyd natur fod yn ysbrydoledig ac yn hwyl. Bydd Tamar yn cyflwyno ei llyfr diweddaraf The Library of Life/Llyfrgell Bywyd, a gyhoeddwyd gan sefydliad Celf ar y Blaen/Head4Arts a Petra Publishing. Bydd gweithdai yn Gymraeg a Saesneg, a gellir dod o hyd i wybodaeth am archebu tocyn yma: Sialens Darllen yr Haf | WWF.
Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cefnogaeth ychwanegol eleni, trwy Gyngor Llyfrau Cymru, i ddatblygu’r cynnig digidol, a chomisiynwyd rhaglen gyffrous o gynnwys newydd o Gymru a fydd yn cael ei uwchlwytho i wefan Sialens Ddarllen yr Haf yn ystod yr wythnosau nesaf.
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, a’r Prif Chwip, Llywodraeth Cymru:“Mae Sialens Ddarllen yr Haf yn fenter bwysig a gwerth chweil ac rwy’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu cefnogaeth ariannol. Mae’n hyfryd bod llyfrgelloedd ledled Cymru wedi ymrwymo i gynnig y Sialens yr haf hwn ac mae’n bwysig bod yr elfen ddigidol hefyd yn cael ei chefnogi i sicrhau cynnig teg i blant a theuluoedd. Rydyn ni’n gobeithio y bydd llawer o blant yn ymuno ag Arwyr y Byd Gwyllt yr haf hwn – i gael hwyl gyda’u darllen a dysgu mwy am faterion amgylcheddol.”
Dywedodd Dara McAnulty, llysgennad: “Rwyf mor gyffrous i hyrwyddo Sialens Ddarllen yr Haf yr Asiantaeth Ddarllen, er mwyn annog plant i fwynhau buddion darllen er mwyn pleser dros wyliau’r haf. A minnau’n 17 mlwydd oed, tan yn ddiweddar, roedd y Sialens Ddarllen yn rhywbeth roeddwn i a fy mrodyr a chwiorydd yn ei chwblhau bob haf. Mae’n gymaint o bleser cael bod yn llysgennad eleni ac annog plant eraill i gymryd rhan yn y cynllun gwych hwn. Rwy’n falch iawn bod yr Asiantaeth Ddarllen yn ymuno â WWF ar gyfer ‘Arwyr y Byd Gwyllt’ gyda’r thema natur arbennig eleni, i helpu plant i archwilio ffyrdd o helpu ein Daear odidog. Mae’r Sialens yn teimlo’n fwy hanfodol nag erioed ar ôl blwyddyn mor heriol i blant ysgol, felly mae’n wych gweld y gweithgareddau darllen hwyliog a gafaelgar y gall pawb gymryd rhan ynddynt, mewn llyfrgelloedd ac ar-lein – gan eu hysbrydoli i wneud gwahaniaeth i fyd natur. Edrychaf ymlaen at ddathlu dau o fy hoff bethau yr haf hwn … darllen a helpu’r blaned!”
Dywedodd Steve Backshall, llysgennad: “Rwy’n falch iawn o fod yn cefnogi Sialens Ddarllen yr Haf 2021. Mae’r Asiantaeth Ddarllen wedi ymuno â WWF ar gyfer ‘Arwyr y Byd Gwyllt’, her ddarllen gyffrous ar thema natur a fydd yn ysbrydoli plant i weithredu dros yr amgylchedd. Bydd ‘Arwyr y Byd Gwyllt’ yn tanio sgyrsiau am y materion sy’n wynebu ein planed, o lygredd plastig i ddirywiad bywyd gwyllt, a byddant yn dangos sut y gallwn ni i gyd weithio gyda’n gilydd i ofalu am ein byd. Trwy gymryd rhan yn y Sialens, bydd plant yn datgloi buddion darllen er mwyn pleser – mae’n bwysicach nag erioed bod pobl ifanc yn cynnal eu sgiliau a’u hyder wrth ddarllen dros wyliau’r haf. Mae ‘Arwyr y Byd Gwyllt’ yn ffordd wych o gael plant i ddarllen a siarad am faterion mawr – Haf Hapus o Ddarllen!”
Yng Nghymru, mae Cyngor Llyfrau Cymru, sy’n elusen gofrestredig, yn cefnogi Sialens Ddarllen yr Haf trwy nawdd uniongyrchol gan Lywodraeth Cymru.
Dywedodd Helen Jones, Pennaeth Llyfrau Plant a Hyrwyddo Darllen, Cyngor Llyfrau Cymru: “Ni allai fod amser pwysicach i annog plant a phobl ifanc i ymgysylltu â natur a meddwl sut y gallant gymryd cam cadarnhaol tuag at helpu’r blaned. Rydym yn credu mewn darllen fel arf pwerus i ysbrydoli gweithredu a thanio’r dychymyg, ac mae Cyngor Llyfrau Cymru yn falch o gefnogi Sialens Ddarllen yr Haf eto eleni, yn benodol, gyda chynnwys digidol newydd gan awduron a darlunwyr o Gymru.”
Dywedodd Rhian Brewster, Pennaeth Cyfathrebu, WWF Cymru: “Pobl ifanc yw’r eiriolwyr mwyaf dros yr hinsawdd a byd natur, ac maen nhw’n ein hysbrydoli bob dydd yn WWF Cymru. Mae gweithio gydag ysgolion ar brosiectau llenyddiaeth a barddoniaeth yn ddiweddar yma yng Nghymru wedi dangos angerdd, creadigrwydd a brwdfrydedd cenedlaethau’r dyfodol, a dyna pam rydym yn falch iawn o fod yn bartneriaid yn Sialens Ddarllen yr Haf yn y flwyddyn allweddol hon o ran gweithredu amgylcheddol. Rydyn ni’n gobeithio y bydd plant ledled Cymru yn cael eu hannog i ddarllen, archwilio a chymryd camau cadarnhaol dros ein byd – y cartref rydyn ni i gyd yn ei rannu.”
Ewch i https://cymru.summerreadingchallenge.org.uk/ i gael mwy o wybodaeth.
Darganfyddwch fwy am Gasgliad Llyfrau Arwyr y Byd Gwyllt yma.
Dilynwch y datblygiadau diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol:
@ReadingAgency / @WWF @WWFCymru
#SialensDdarllenyrHaf #ArwyryBydGwyllt
Gwefan Cyngor Llyfrau Cymru
Facebook: @LlyfrgelloeddCymru @LibrariesWales Twitter: @LlyfrgellCymru @LibrariesWales Instagram: @librarieswales