Cyfleuster Llyfrgell Newydd y Fenni yng Nghanol y Gymuned
Hydref 3, 2021Yn dilyn buddsoddiad o £2.5 miliwn, mae’r Fenni bellach yn elwa o gyfleuster Llyfrgell newydd sbon, sydd wedi’i leoli o fewn Neuadd y Dref restredig Graddfa II ar ei newydd wedd yng nghanol y dref farchnad brysur hon. Agorodd y llyfrgell newydd ei drysau ym mis Medi, ac mae wedi cael croeso cynnes gan aelodau hen a newydd.
Mae’r Llyfrgell newydd yn cynnwys lefel mezzanine newydd sbon sy’n ymestyn allan dros y neuadd farchnad hanesyddol. Yn rhan o gyfleuster hwb cymunedol, mae’r gwasanaeth newydd yn cynnig mynediad i wasanaethau’r cyngor, Theatr y Fwrdeistref, gwybodaeth Heddlu Gwent, gwybodaeth i dwristiaid a’r marchnadoedd wythnosol yn y Neuadd Farchnad ogoneddus.
Gan elwa o Grant Cyfalaf Trawsnewid gan Adran Diwylliant a Chwaraeon Llywodraeth Cymru, mae’r llyfrgell yn olau ac yn awyrog, yn cynnig seddi hamddenol, mwy o le ar silffoedd a mwy o gyfrifiaduron personol nag o’r blaen. Gall ymwelwyr eistedd a darllen wrth fwynhau coffi a golygfeydd o’r farchnad brysur.
Mae’r llyfrgell ar agor o ddydd Mawrth i ddydd Gwener 9am-1pm ; 2pm-5pm a ddydd Sadwrn 9am-1pm.
Wrth siarad am y cyfleuster llyfrgell newydd, dywedodd y Cynghorydd Bob Greenland, Aelod Cabinet Sir Fynwy gyda chyfrifoldeb dros Hybiau Cymunedol, “Rydym yn falch iawn o gael y gwasanaeth hwn yn y Fenni erbyn hyn wrth i lyfrgelloedd chwarae rhan mor hanfodol yn ein cymunedau. Maent yn darparu lle hanfodol ar gyfer dod at ein gilydd, darllen mewn hamdden a defnyddio cyfrifiaduron personol i gael gafael ar wybodaeth.”
Mae agor y ganolfan yn garreg filltir go iawn, sy’n benllanw sawl blwyddyn o waith caled gan bawb dan sylw. Mae wedi bod yn brosiect mawr ac rydym yn gobeithio y bydd ymwelwyr â’r ganolfan yn falch o’r hyn a gyflawnwyd gyda’r prosiect. Roedd lleoliad yr Hwb Cymunedol, o fewn Neuadd y Dref restredig Graddfa II, yn rhoi’r cyfleuster yng nghanol y gymuned, ym mhob ystyr.