Nicola Davies

Mae Nicola Davies yn awdur arobryn, ac wedi ysgrifennu nifer o lyfrau i blant yn cynnwys The Promise, Tiny, A First Book of Nature a King of the Sky. Graddiodd Nicola mewn Sŵoleg o Goleg y Brenin, Prifysgol Caergrawnt, ac astudiodd gwyddau, ystlumod a morfilod cyn dod yn gyflwynydd ar gyfer The Really Wild Show ac Uned Hanes Naturiol y BBC.

Mae hi wedi bod yn ysgrifennu ar gyfer plant ers dros 20 mlynedd. Yn sail i holl waith ysgrifennu Nicola mae’r gred bod perthynas â natur yn hanfodol i bob person, a bod angen inni adnewyddu’r berthynas honno yn awr, yn fwy nag erioed. Mae Nicola yn byw yng Ngorllewin Cymru.

Dyma Nicola Davies yn siarad gydag Estyn Allan am un o’i hoff lyfrau, The Promise.
 
Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru. #WelshLibrariesTogether
 
 
 
Cookie Settings