John Sam Jones a Sian Northey
Tachwedd 9, 2021Ganwyd John Sam Jones yn Abermaw, ar arfordir canolbarth Cymru, ac mae bellach yn byw yn yr Almaen. Yn ei gofiant clir ac amsugnol Y Daith ydy Adra / The Journey is Home, mae John Sam Jones yn ysgrifennu am fywyd yn byw ‘ar yr ymyl’. Mae’n stori am deithiau a gwireddu breuddwydion, o dderbyn a llawenydd. O fod yn fachgen ar arfordir Cymru i ysgoloriaeth yn Berkley yng Nghaliffornia wrth i’r epidemig AIDS ddechrau, cyn dychwelyd i Lerpwl a Gogledd Cymru i weithio yn y maes ymgysylltu â’r gymuned. Dechreuodd ei daith fel awdur a croniclwr o’i brofiadau, gyda llyfrau arobryn a’r awydd i fod yn ymgyrchydd dros hawliau LHDT yng Nghymru.
Roedd ei gasgliad o straeon byrion – Welsh Boys Too – yn enillydd Llyfr Anrhydedd yng Ngwobrau Llyfrau Stonewall yr American Library Association. Cafodd ei ail gasgliad, Fishboys o Vernazza, ei restru ar restr fer Llyfr y Flwyddyn yng Nghymru ac fe’i dilynwyd gan y nofelau With Angels and Furies a Crawling Through Thorns.
Mae Byw Llyfrau yn bartneriaeth cyffrous rhwng llyfrgellwyr o Wynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Cheredigion, ac yn deillio o brosiect Estyn Allan, Llyfrgelloedd Cymru. Yn y podlediadau, mae’r tîm Estyn Allan yn siarad gyda gwahanol awduron o Gymru am eu llyfrau a’u diddordebau darllen. Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.
Yn y bennod yma o Byw Llyfrau bydd John Sam Jones yn trafod ei gefndir a’i waith a’r broses o gyfieithu Y Daith ydi Adref gyda Sian Northey …
Byw Llyfrau Pennod 3: Ymuno yn y Daith gyda John Sam Jones a Sian Northey