Rhian Cadwaladr
Tachwedd 9, 2021Addawodd yr awdur a’r actores Rhian Cadwaladr iddi ei hun pan oedd yn ei harddegau y byddai’n sgwennu nofel rhyw ddydd. Er iddi ysgrifennu sgriptiau a sioeau i blant yn y cyfamser, roedd hi’n hanner cant cyn ysgrifennu ei nofel gyntaf Fi sy’n Cael y Ci. Yn dilyn honno ysgrifennodd nofel arall – Môr a Mynydd. Cyhoeddodd ei thrydedd nofel Plethu yng Ngorffennaf 2020.
Mae Byw Llyfrau yn bartneriaeth cyffrous rhwng llyfrgellwyr o Wynedd, Conwy, Sir Ddinbych a Cheredigion, ac yn deillio o brosiect Estyn Allan, Llyfrgelloedd Cymru. Yn y podlediadau, mae’r tîm Estyn Allan yn siarad gyda gwahanol awduron o Gymru am eu llyfrau a’u diddordebau darllen. Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.