Francesca Reece
Tachwedd 26, 2021Magwyd Francesca Reece yn Rhuthun ac yn blentyn roedd yn aelod o Sgwad Sgwennu Sir Ddinbych. Wedi treulio ei hugeiniau ym Mharis, mae bellach yn byw yn Llundain. Enillodd wobr Desperate Literature yn 2019 am ei stori fer So Long Sarajevo/They Miss You So Badly.
Ar gyfer y cyfweliad Estyn Allan yma, fe ddychwelodd i lyfrgell ei phlentyndod ar drothwy cyhoeddi ei nofel gyntaf, Voyeur (Tinder Press), i sgwrsio am ei siwrne i ddod yn awdur cyhoeddedig.
Mae Estyn Allan yn gywaith rhwng llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru i greu cynnwys digidol, dan arweiniad Cymdeithas Prif Lyfrgellwyr Cymru (SCL Cymru) ac wedi ei ariannu gan Lywodraeth Cymru.