Jon Gower
Chwefror 3, 2022Mae Jon Gower yn awdur toreithiog yn y Gymraeg a’r Saesneg. Enillodd gwobr Llyfr y Flwyddyn am ei nofel Y Storïwr yn 2012. Daw o Lanelli yn wreiddiol ond mae’n byw yng Nghaerdydd ers blynyddoedd bellach, gyda’i wraig Sarah a’i ddwy ferch Elena ac Onwy.
Cymru o Fri! yw ei gyfrol newydd sbon sy’n dathlu a chloriannu hanes 50 o enwogion o Gymru. Mae’r enwogion wedi eu dewis o wahanol gyfnodau mewn hanes – o Hywel Dda i Jade Jones. Hefyd, ceir arbenigwyr o feysydd gwahanol gan gynnwys y byd chwaraeon, llenyddiaeth, diwydiant, cerddoriaeth, gwleidyddiaeth, gwyddoniaeth a chelf. Bydd rhai yn gyfarwydd i blant heddiw, ond dyma gyfle i bawb ddysgu mwy am hanes enwogion Cymru, a chael eu hysbrydoli.
Mae’r gyfrol wedi ei dylunio ar ffurf tudalen ddwbl i bob person, gyda lluniau gwreiddiol gan yr artist Efa Lois, a ffotograffau, yn ogystal ag ambell gwestiwn ar ffurf cwis a chyfle i’r plant ymchwilio ar y we!
Dyma ni’n holi Jon yn ddiweddar am yr ysbrydoliaeth y tu ol i’w lyfr newydd …
Dwedwch ychydig am eich llyfr newydd i blant Cymru o Fri! …
Mae’r llyfr yn portreadu hanner cant o Gymry sy’n ysbrydoli, rhai’n hanesyddol, rhai’n fyw heddiw ac yn cynrychioli sawl maes – o wleidyddiaeth i wyddoniaeth, o fyd y campau i fyd y celfyddydau. Mae’n llyfr hardd, gyda gwaith celf gwych gan Efa Lois, delweddau sy’n denu’r llygad.
Oedd unrhyw heriau arbennig wrth baratoi’r llyfr?
Dewis dim ond 50! Roedd gen i ddwywaith y nifer o enwau posib ac roedd angen cael cydbwysedd o ran ffigyrau cyfoes a hanesyddol, rhwng menywod a dynion a hefyd meysydd gwahanol mewn bywyd. Gallai’r llyfr fod wedi cynnwys 50 o bobl o faes chwaraeon yn unig ond ro’n i hefyd am gyflwyno ambell berson dylanwadol sydd ddim yn adnabyddus i bawb.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu?
Y teimlad bod llyfr o’r fath yn ffordd dda i ysbrydoli drwy esiampl. Mae nifer o’r bobl yma nid yn unig wedi llwyddo i gyrraedd y brig yn eu meysydd penodol, ond hefyd wedi wynebu heriau neu rwystrau ar hyd y ffordd.
O ble ydych chi’n cael eich ysbrydoliaeth?
Drwy ddarllen, yn amlach na heb. Mae darllen gwaith awduron da yn gwella safon eich sgrifennu chi ac os edrychwch ar hanes bron unrhyw awdur maen nhw’n ddarllenwyr brwd, yn aml o blentyndod ymlaen.
Pe bai’n rhaid i chi ddisgrifio eich hun mewn tri gair yn unig, beth fyddai’r rheini?
Creadigol, hael, gweithgar.
Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?
Roedd Lord of the Rings gan J.R.R. Tolkien yn syfrdanol i grwtyn 12 mlwydd oed a hefyd llyfrau’r naturiaethwr R.M. Lockley, yn enwedig ei lyfrau am ynysoedd Sir Benfro.
Pa lyfr sydd ar y bwrdd wrth ochr eich gwely ar hyn o bryd?
Mae ’na bentwr o lyfrau, fel sydd o gwmpas y tŷ i gyd. Mae fel byw mewn llyfrgell!
Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?
Roedd llyfrgell y pentref, sef Pwll ger Llanelli, yn hynod, hynod bwysig i mi. Darllenais bob llyfr yn y lle, yn llythrennol, gan ddechrau yn yr adran blant, symud wedyn i’r clasuron – ble ddes i ar draws Charles Dickens, a dotio – yna’r llyfrau ffeithiol, cyn darganfod ffuglen yn y pen draw. Yna, wrth dyfu’n hŷn dechreuais ddefnyddio llyfrgell Llanelli, oedd yn hynod o dda o ran cyfrolau annisgwyl. Ta beth oedd fy niddordeb ar y pryd roedd llyfrau perthnasol yno i mi.
Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?
Darllen yw un o bleserau mawr bywyd ac mae cael rhywun i ddarllen stori i chi pan y’ch chi’n ifanc – cyn symud ymlaen i fwynhau cwmni rhai o’r bobl fwya diddorol yn y byd wrth eistedd mewn cadair yn y tŷ neu orwedd ar y gwely – yn rhywbeth arbennig iawn.
Oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?
Mae gen i sawl llyfr ar y gweill ond yr un nesaf i weld golau dydd bydd Y Diwedd, sef yr olaf mewn trioleg o lyfrau trosedd, yn dilyn Y Düwch a Y Dial.
Fe fydd Cymry o Fri! yn cael ei gyhoeddi canol mis Chwefror gan Y Lolfa.
Am ragor o wybodaeth, darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur i sy’n cyflwyno Jon a Cymry o Fri! Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg