Meleri Wyn James
Mai 11, 2022Cafodd Meleri Wyn James ei magu yn Beulah ac Aber-porth. Fe raddiodd yn y Gymraeg o Goleg Prifysgol Aberystwyth ac astudiodd MA yng Ngholeg y Drindod, Caerfyrddin. Mae’n ysgrifennu llyfrau i blant ac oedolion ers dros 25 mlynedd. Mae’n mwynhau darllen, coginio, brodwaith a threulio amser gyda theulu a ffrindiau.
Nofel ddirgelwch gyffrous i’r arddegau cynnar (12-15 oed) yw Cors Caron sy’n cyfuno awyrgylch arallfydol a stori ddramatig, yn symud rhwng dau fyd. Mae’n stori hudolus am chwilio, am berthyn ac am ein newid agwedd at yr amgylchedd.
Mae tir gwyllt y gors yn Nhregaron fel ail gartref i Caron, 15 oed, ac Iwan, ei ffrind gorau. Ar ôl diwrnod hir ac anodd yn yr ysgol, mae’n ddihangfa perffaith. Mae’n lle i anghofio am lwyth gwaith a phwysau cyfoedion ac i ymgolli mewn byd arall dros dro. Un prynhawn mae Caron yn mynd ar grwydr ond dyw hi ddim yn dod yn ôl…
Dyma ni’n holi Meleri yn ddiweddar am ei llyfr newydd…
Dywedwch ychydig am Cors Caron, eich llyfr newydd i bobol ifanc…
Stori ddirgelwch yw hi sydd wedi ei hysbrydoli gan y gors hudol yn Nhregaron. Mae Caron, y prif gymeriad 15 oed, yn ferch gref sy’n llawn bywyd. Mae hi wedi gorfod bod yn egnïol oherwydd ei sefyllfa hi. Ar ôl i Caron fynd ar goll ar y gors mae mwy nag un cyfrinach o’r gorffennol yn dod i’r wyneb. Mae’r llyfr hefyd yn stori am natur a’r newid yn ein hagwedd ni at y gors ac at fyd natur yn gyffredinol. Mae’n stori gyffrous a gobeithio y bydd darllenwyr yn ysu i ddarllen ymlaen i weld beth sy’n digwydd nesaf.
Oedd unrhyw heriau arbennig wrth baratoi’r llyfr?
Rwy wedi mwynhau ymgolli ym myd y gors. Fe wnes i ymchwil i ddod i nabod y lle, y bywyd gwyllt a’r pethau sy’n ei wneud mor arbennig. Fe fuais i yno sawl gwaith er mwyn ceisio dod i’w nabod a theimlo ei natur unigryw. Ond mae elfennau o gors y nofel sydd yn ddychmyg pur hefyd.
Beth wnaeth eich ysbrydoli i ddechrau ysgrifennu?
Mae ysgrifennu yn rhywbeth rwy’n ei wneud. Mae’n rhywbeth y mae’n rhaid i mi ei wneud. Ddechreuais i sgrifennu straeon pan o’n i’n rhyw 6 neu 7 oed. Rwy’n joio sgwennu.
O ble ydych chi’n cael eich ysbrydoliaeth?
Mae syniadau yn dod i mi… Os yw’r syniad yn gafael yn gryf yna fe fyddai’n ei archwilio ymhellach. Fe fydd ambell syniad yn cydio yn fy nychymyg ac fe fydd yn rhaid i mi ei ddilyn.
Pe bai’n rhaid i chi ddisgrifio eich hun mewn tri gair yn unig, beth fyddai’r rheini?
Creadigol, prysur a phenderfynol.
Pa lyfrau ysbrydolodd chi fel darllenwr ifanc?
Mae cymaint ohonyn nhw! Ro’n i’n ddwl am geffylau – mae hynny’n wir o hyd! Rwy’n cofio darllen llyfrau Emily Huws am geffylau. Ro’n i’n chwilio am antur ac wrth fy modd gydag anturiaethau T Llew Jones a chyfres y Llewod, Dafydd Parri. Yn fy arddegau ces fy ysbrydoli gan Yma o Hyd, Angharad Tomos a’i hanes hi mewn carchar i fenywod a Cyn Ddaw’r Gaeaf, Meg Elis am Ymgyrch Comin Greenham. Fe wnaeth pethau newid i fenywod yn ystod fy arddegau, ro’n i’n ymwybodol o hynny ac rwy wastad wedi ymladd dros hawliau menywod yn fy ffordd fy hun.
Pa lyfr sydd ar eich bwrdd wrth ochr y gwely ar hyn o bryd?
Rwy newydd ddarllen Richard Osman, The Man Who Died Twice a Janice Hallett, The Twyford Code – dau lyfr hynod boblogaidd ym myd llyfrau Saesneg. Rwy’n hoffi gweld pa lyfrau sy’n difyrru pobol eraill.
Pa brofiadau o lyfrgelloedd sydd wedi dylanwadu arnoch drwy eich bywyd?
Galla i gofio fan y llyfrgell deithiol yn parcio tu allan i’r ty ym mhentre Beulah, Ceredigion a chyffro cael mynd i mewn i ddewis llyfr newydd i’w ddarllen. Dwi ddim yn amau i hynny drawsnewid fy mywyd i. Pan oedd fy mhlant innau yn fach fe fydden ni’n mynd i lyfrgell y dre yn Aberystwyth un pnawn yr wythnos i ddewis llyfr yr un ac i fwynhau’r awyrgylch – ymgolli ym myd y llyfrau lliwgar, gwrando ar stori a thynnu llun wrth y bwrdd bach.
Oes gennych chi unrhyw awgrymiadau er mwyn annog plant a phobl ifanc i ddarllen mwy er pleser?
Darllenwch gyda nhw a gadewch iddyn nhw eich gweld chi yn ddarllen. Anogwch nhw i ddilyn eu diddordeb o ran yr hyn ry’ch chi’n ei ddarllen. Fydden i’n annog plant i feddwl, beth rydych chi’n fwynhau, beth yw’ch breuddwydion… alla i eich sicrhau hi y bydd yna gannoedd o lyfrau am y pethau hynny! Os nad yw llyfr yn eich difyrru chi, gadwch e i fod a dewiswch rhywbeth arall.
A oes gennych unrhyw gynlluniau ar gyfer teitlau pellach?
O, oes! Mae gen i gynlluniau o hyd. Rwy’n sgrifennu mwy o anturiaethau Nel fach ddireidus ar gyfer llyfr sydd yn cael ei gyhoeddi yn yr haf o’r enw Na, Nel! Yn Achub y Byd! Mae’n cyd-fynd â sioe deuluol fydd ar lwyfan Pafiliwn yr Eisteddfod Genedlaethol ar y pnawn dydd Mawrth. Rwy hefyd yn sgrifennu nofel ddirgelwch i oedolion ar hyn o bryd am deulu sy’n cael eu caethiwo gan y tywydd ar ynys Enlli.
Cyhoeddwyd Cors Caron ar 20fed Ebrill gan Y Lolfa
Ffotograff o Meleri Wyn James gan Elin Vaughan Crowley.
Darllenwch ein Taflen Dod i Adnabod yr Awdur sy’n cyflwyno’r awdur a’i llyfr newydd. Darllenwch hefyd am ein Hawdur y Mis yn ‘sgwennu’n Saesneg