Cerdyn llyfrgell awtomatig i bob plentyn yng Nghymru
Ionawr 16, 2015Mae llyfrgelloedd ac ysgolion Cymru yn dod at ei gilydd i roi cerdyn llyfrgell i bob plentyn ysgol gynradd. Mae Llywodraeth Cymru yn ariannu ymgyrch i sicrhau fod pob plentyn yng Nghymru yn dod yn aelod o’u llyfrgell leol.
Wrth baratoi i lansior fenter yn Sir Ddinbych ar Ionawr 15fed yn Llyfrgelloedd Prestatyn ar Rhyl, dywedodd Dr Rhys Jones a adwaenir orau am ei gyfres lwyddiannus ar y BBC yn cynnwys Rhys to the Rescue a Dr Rhys Joness Wildlife Patrol: Mae llyfrgelloedd yn adnodd mor bwysig maen nhwn lleoedd gwych i ddychymyg plant gael rhwydd hynt i dyfu a datblygu ac maen hynod bwysig ein bod yn annog ein plant i ddarllen mwy, nid yn unig er mwyn gwella eu lefelau llythrennedd ond hefyd iw helpu gyda sgiliau bywyd a chyfleoedd ir dyfodol.
Ddydd Iau, bydd disgyblion o Ysgol Clawdd Offa, Prestatyn ac Ysgol Llywelyn, Y Rhyl yn dod iw llyfrgell leol i gyfarfod Dr Rhys Jones, i dderbyn eu cardiau aelodaeth newydd a bagiau i gario eu llyfrau adref. Byddant yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn seiswn greadigol i ysgogi eu dychymyg ac yn dewis a benthyg llyfrau ou dewis iw darllen adref.
Dywedodd Bethan M. Hughes o Lyfrgelloedd Sir Ddinbych: Mae’r cynllun yn targedu plant 8-9 oed, a’r gobaith yw sicrhau fod pob plentyn Blwyddyn 4 yn y sir yn aelod cyn diwedd y flwyddyn ysgol. Mae cyfartaledd uchel iawn o blant Sir Ddinbych eisoes yn aelodau o ganlyniad i flynyddoedd o gyd-wethio rhwng llyfrgelloedd ac ysgolion. Serch hynny, mae nifer o blant sydd heb eto ymaelodi a chael y cyfle i ddarganfod yr holl lyfrau a gwasanaethau eraill sydd ar gael iddynt, am ddim, yn y llyfrgell i gefnogi eu datblygiad fel darllenwyr a dysgwyr, ac i gael pleser a hwyl. Gobeithiwn y bydd y cynllun ymaelodi awtomatig hwn yn rhoi’r cyfle i’n plant ni i gyd i ddod yn aelod o’r llyfrgell ac yn annog rhieni i alluogi eu plant i ymweld. Mae ymchwil yn dangos fod plant sy’n ymaelodi ac yn defnyddio eu llyfrgell leol yn rheolaidd ac sy’n darllen er mwyn pleser yn datblygu yn ddarllenwyr a disgyblion mwy hyderus a medrus.
Defnyddiwch eich llyfrgell leol i gael mynediad at ddewis anhygoel o wasanaethau, gan gynnwys:
- Ffuglen, llyfrau ffeithiol, nofelau graffig a llyfrau llafar AM DDIM
- Help AM DDIM gyda gwaith cartref ar lein ac yn y llyfrgell
- E-lyfrau ac e-gylchgronau AM DDIM
- Defnyddio cyfrifiaduron a mynediad ir rhyngrwyd AM DDIM
- Clybiau, digwyddiadau, gweithgareddau a dosbarthiadau yn y llyfrgell
- Staff llyfrgell syn gyfeillgar a pharod i helpu
- Rhywle diogel i gwrdd â ffrindiau
Maer fenter hon yn targedu disgyblion blwyddyn 4 mewn 16 awdurdod yng Nghymru: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Sir Benfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Wrecsam. Maer fenter yn cefnogi ymgyrch Mae Addysg yn Dechrau yn y Cartref Llywodraeth Cymru, syn annog rhieni i helpu eu plant gartref trwy neilltuo amser i ddarllen, a gall hyn fod o fudd iw perfformiad yn yr ysgol.
Am ragor o wybodaeth ewch i: www.welshlibraries.org/schools