Cerdyn llyfrgell awtomatig i bob plentyn yng Nghymru
Mawrth 5, 2015Mae llyfrgelloedd ac ysgolion cynradd Cymru yn dod at ei gilydd i roi cerdyn llyfrgell i bob plentyn ysgol gynradd – dechreuodd y prosiect ym mis Mawrth eleni gyda chwe awdurdod lleol yn treialu’r fenter. Diolch i gyllid gan Lywodraeth Cymru yn yr Adran Ddiwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, mae hyn bellach wedi ei gyflwyno i ddeg o awdurdodau lleol pellach (16 i gyd) gan dargedu 25,000 yn fwy o blant.
Yn lansio’r fenter yn Llyfrgell Wrecsam heddiw mae Dr Rhys Jones syn fwyaf adnabyddus am ei gyfres boblogaidd ar y BBC, ‘Rhys to the Rescue’ a ‘Dr Rhys Joness Wildlife Patrol’, a dywed: Mae llyfrgelloedd yn adnodd mor bwysig – maent yn lle gwych i blant adael iw dychymyg dyfu a datblygu ac mae’n hanfodol bwysig ein bod yn annog ein plant i ddarllen mwy, nid yn unig i wella eu lefelau llythrennedd, ond hefyd i’w helpu gyda sgiliau bywyd a chyfleoedd yn y dyfodol.
Bydd disgyblion o Ysgolion Santes Anne a Hafod y Wern yn cymryd rhan mewn digwyddiadau mewn llyfrgelloedd, ysgolion a neuaddau chwaraeon. Dywedodd Debbie Eccles, Pennaeth Ysgol Gynradd Victoria: Mae Pob Plentyn yn Aelod Llyfrgell wedi bod yn gynllun gwych i ddenu plant iw llyfrgell leol i weld yr ystod o wasanaethau y gallant eu darparu ar gyfer disgyblion ifanc yng Nghymru. Er bod llawer o’n disgyblion eisoes yn aelodau, roedd yn rhoir cyfle i ddisgyblion eraill ddod yn aelodau, ymweld â’r llyfrgell a deall y system fenthyca. Mae’n targedu disgyblion iau ym mlwyddyn 4, felly gobeithio y bydd yn annog mwynhad o wasanaethau llyfrgelloedd a’r profiad darllen am oes.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol Cymunedau, Partneriaethau a Lles: Bydd y cerdyn llyfrgell hwn yn caniatáu i’r plant fenthyg llyfrau yn syth a chael bag gwych i gario eu llyfrau adref gyda nhw. Unwaith y bydd prawf o gyfeiriad yn cael ei roi, gallant wedyn gael mynediad at filoedd o lyfrau am ddim, defnyddior cyfrifiaduron a chael mynediad at lawer o adnoddau eraill.
Defnyddiwch eich llyfrgell leol i gael mynediad at ystod anhygoel o wasanaethau gan gynnwys:
- Llyfrau ffuglen, ffeithiol, comics, nofelau graffeg a llyfrau llafar AM DDIM
- Cymorth gyda gwaith cartref AM DDIM ar-lein ac yn y llyfrgell
- E-lyfrau ac e-gylchgronau AM DDIM
- Defnyddio cyfrifiaduron a’r rhyngrwyd AM DDIM
- Clybiau, gemau, digwyddiadau, gweithgareddau a dosbarthiadau yn y llyfrgell
- Staff cyfeillgar, parod i helpu yn y llyfrgell
- Rhywle diogel i gwrdd â ffrindiau
Mae’r cynllun hwn yn targedu disgyblion blwyddyn pedwar mewn un deg chwech o awdurdodau Cymru: Blaenau Gwent, Pen-y-bont ar Ogwr, Sir Gaerfyrddin, Conwy, Sir Ddinbych, Sir y Fflint, Gwynedd, Merthyr Tudful, Sir Fynwy, Castell-nedd Port Talbot, Sir Penfro, Powys, Rhondda Cynon Taf, Abertawe, Torfaen a Wrecsam.
Mae’r cynllun hwn yn cefnogi ymgyrch Mae Addysg yn dechrau yn y cartref Llywodraeth Cymru sy’n annog rhieni i helpu eu plentyn gartref trwy neilltuo amser i ddarllen a allai helpu eu perfformiad yn yr ysgol.