£2.7 miliwn ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd Cymru
Ebrill 17, 2015Bydd yr arian yn canolbwyntio’n bennaf ar gefnogi amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd i gyflawni’r argymhellion a wnaed yn adroddiad y Farwnes Andrews ar ddiwylliant a thlodi, lle y cyflwynodd hi achos grymus dros gydweithio ar draws y sector er mwyn sicrhau bod diwylliant yn hygyrch i bawb.
Mae’r arian yn cynnwys £1 miliwn i foderneiddio saith o lyfrgelloedd cyhoeddus yn Abergwaun, Glyn Ebwy, Blaenafon, Porthmadog, Glannau Dyfrdwy, Caerdydd a Phowys.
Mae hyn yn rhan o Raglen Ddatblygu Cyfalaf Llyfrgelloedd Dysgu Cymunedol Llywodraeth Cymru, sy’n ceisio sefydlu llyfrgelloedd yn hybiau cymunedol lle mae cwsmeriaid yn gallu manteisio ar amrywiaeth o wasanaethau’r cyngor yn ogystal ag amwynderau traddodiadol y llyfrgell.
Bydd yr £1.7 miliwn sy’n weddill yn cael ei ddefnyddio i helpu i ehangu mynediad ac annog pobl i ddefnyddio’r casgliadau godidog ac amrywiol sydd gan Gymru i’w cynnig mewn amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd ledled y wlad, gan gynnwys £235,000 ar gyfer rhaglenni i gynyddu nifer defnyddwyr, yn enwedig rhai sy’n byw mewn ardaloedd Cymunedau yn Gyntaf.
Defnyddir £255,000 i sefydlu Gwasanaeth Llyfrgell Digidol, fel y bo cwsmeriaid yn gallu cael gafael ar wasanaeth e-lyfrau ac e-gylchgronau yn rhad ac am ddim ar gyfer Cymru gyfan, yn ogystal â llyfrau llafar am ddim a ffynonellau cyfeirio am ddim.
Meddai’r Dirprwy Weinidog:
Mae’n bleser mawr gennyf gyhoeddi bron i £2.7 miliwn ar gyfer ein hamgueddfeydd, ein harchifau a’n llyfrgelloedd. Mae trechu tlodi yn ganolog i’n polisi cymunedol yng Nghymru, a dyna pam fy mod wedi ymrwymo i sicrhau y bydd yr arian hwn yn cael ei ddefnyddio i ehangu mynediad at ddiwylliant yn rhai o’n hardaloedd mwyaf difreintiedig.
Bydd yr arian yn mynd at amrywiaeth o brosiectau ac yn rhoi hwb gwerthfawr, gan alluogi amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd lleol i ddatblygu eu gwasanaethau a gwella cyfleusterau, gan gynnwys ehangu gwasanaethau digidol er mwyn ei gwneud yn haws i’r cyhoedd all defnyddior gwasanaethau pwysig hyn.
Rwyf eisiau i Gymru fod y genedl fwyaf creadigol yn Ewrop, ac i wneud hyn mae’n hollbwysig fod pawb yn gallu cael mynediad at y trysorau sydd ar gael yn ein hamgueddfeydd, ein harchifau a’n llyfrgelloedd, a chael eu hysbrydoli ganddynt.
Bydd yr arian hefyd yn cefnogi’r gwaith o gyflwyno’r cynllun Pob Plentyn yn Aelod o’r Llyfrgell, ymestyn Rhaglen Cyfoeth Cymru Gyfan, lle mae amgueddfeydd lleol yn gweithio mewn partneriaeth ag amgueddfeydd mwy, ac arian cyfatebol ar gyfer yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol Cadwraeth Llawysgrifau i barhau eu gwaith i warchod eitemau diwylliannol pwysig.
Bydd llawer o’r rhaglenni sy’n derbyn arian yn cefnogi’r fenter Blwyddyn Antur 2016, a lansiwyd gan y Dirprwy Weinidog i hybu Cymru fel y prif le ar gyfer twristiaeth antur, gyda gweithgareddau, digwyddiadau ac atyniadau ledled Cymru yn cymryd rhan.