Oes gennych chi stori grêt am rygbi yr hoffech ei rhannu?
Gorffennaf 2, 2015Mae llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd wedi ymuno ag Undeb Rygbi Cymru i gynnal cystadleuaeth ar gyfer pobl ifanc i ddathlu rygbi yng Nghymru fel rhan o ddathliadau Cwpan Rygbir Byd sydd ar y ffordd.
Wrth lansior gystadleuaeth heddiw (dydd Llun 27 Ebrill) yn Stadiwm y Mileniwm, ochr yn ochr â phrif weithredwr Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis ar cadeirydd Gareth Davies, fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:
Maen gyffrous lansior gystadleuaeth ffantastig hon syn dwyn ynghyd holl elfennau fy mhortffolio sef diwylliant, chwaraeon a thwristiaeth! Trwy annog pobl ifanc i gofnodi eu profiadau rygbi yng Nghymru, boed nhwn chwarae, yn gwylio neun clywed eu ffrindiau au teuluoedd yn siarad amdano rydym yn anelu at greu casgliad o storïau syn ffenestr siop i rygbi yng Nghymru o lawr gwlad hyd at berfformiadaur tîm cenedlaethol.
Maer gystadleuaeth hon yn gyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau digidol a llythrennedd mewn ffordd atyniadol a hwyliog. Mae adrodd storïau yn ffordd wych i bobl ifanc adael iw dychymyg dyfu a dysgu mwy amdanynt eu hunain ar byd ou cwmpas, ac rwyn edrych ymlaen at weld y ceisiadau.
Dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru Gareth Davies:
Rwyn dishgwl ymlaen yn fawr at ddarllen y ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth gyffrous hon. Fe wyddom fod rygbi yn chwarae rhan arbennig yn y seice cenedlaethol yng Nghymru ar gobaith yw y bydd y gystadleuaeth hon yn manteisio ar boblogrwydd y gêm ymhlith plant ysgol an cynorthwyo i ymestyn mas at y rhai hynny sydd eto i ymddiddori yn y gêm.
Mae tri chategori yn y gystadleuaeth ar thema gyffredinol yw rygbi yng Nghymru:
- Barddoniaeth ar gyfer 7-9 mlwydd oed
Rhaid ir cerddi beidio â bod dros 250 gair
- Stori Fer ar gyfer 10-12 mlwydd oed
Rhaid ir storïau byrion beidio â bod dros 500 gair
- Adrodd storïau digidol ar gyfer 13-16 mlwydd oed
Rhaid ir ffilmiau beidio â bod dros 3 munud a gallant gynnwys ffotograffau, fideo, animeiddiad, sain, cerddoriaeth, testun, a llais naratif.
Bydd y ceisiadau yn cael eu beirniadu gan banel arbennig o feirniaid syn cynnwys enwogion rygbi, awduron, llyfrgellwyr ac arbenigwyr ar y cyfryngau ac fe gyhoeddir enwaur rhai fydd yn y rownd derfynol ddechrau Medi.
Bydd storïaur rhai sydd yn rownd derfynol y gystadleuaeth yn cael eu harddangos mewn arddangosfa newydd, Cofroddion ar Bêl Hirgron yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd or 8fed Medi a byddant hefyd yn cael eu gwahodd i lansiad yr arddangosfa ar 16 Medi 2015 i gasglu eu gwobrau.
Dywedodd Janice Lane, Cyfarwyddwr Addysg, Arddangosfeydd a Chyfryngau Digidol yn Amgueddfa Cymru National Museum Wales:
Mae hyn yn ffordd wych i bobl ifanc rannu eu hangerdd dros y gêm. Mae rygbi a llenyddiaeth yn rhannau pwysig o draddodiad a diwylliant Cymru.
Rydym wrth ein boddau yn cynnal yr arddangosfa hon a fydd yn cyfunor ddau beth o flaen cystadleuaeth mor fawreddog.
Bydd yr arddangosfa yn cynnwys detholiad o arteffactau rhyfeddol, memorabilia ac eitemau o bwys hanesyddol syn gysylltiedig â Chwpan Rygbir Byd o archifau Undeb Rygbi Cymru, yn eu plith dant morfil wedii gerfio â llaw o Tonga a pholyn totem unigryw o Ganada.
Bydd Undeb Rygbi Cymru yn cynnal wyth o gemau yng Nghwpan Rygbir Byd gan gynnwys dwy o gemau Cymru yn Stadiwm y Mileniwm a bydd yr arddangosfa yn agor bedwar diwrnod yn unig cyn y gêm gyntaf yng Nghaerdydd (Cymru yn erbyn Wrwgwái ar 20 Medi).
Ychwanegodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru Roger Lewis:
Maer arddangosfa hon yn addo rhoi cipolwg hynod ar gyfraniad Cymru at Gwpanaur Byd dros y blynyddoedd, ond hefyd hanes unigryw y twrnamaint yn gyffredinol.
Fe fydd llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifau ledled Cymru yn trefnu gweithgareddau i gynorthwyo pobl ifanc i feddwl am syniadau ar gyfer eu storïau neu gerddi, i ddatblygu sgiliau iw cynorthwyo i greu storïau digidol ac arddangos eu casgliadau treftadaeth rygbi a chwaraeon. Roedd plant Blwyddyn 3 o Ysgol Gynradd Adamsdown yn bresennol yn y lansiad heddiw cyn mynd ymlaen i Amgueddfa Stori Caerdydd ble byddant yn edrych ar hanes rygbi yn y ddinas a Chwpan Rygbir Byd.
Maer gystadleuaeth ar agor tan 20 Gorffennaf 2015 ac i gael rhagor o wybodaeth gan gynnwys y telerau ac amodau llawn, ewch i: www.rugbystories.wales ac ymunwch âr sgwrs ar #storïaurygbi