Ymunwch â miloedd o ddysgwyr mewn cannoedd o ddigwyddiadau mewn llyfrgelloedd ledled Cymru yr wythnos hon
Mehefin 15, 2015Wythnos Addysg Oedolion 13 29 Mehefin 2015 ywr ?yl addysgol flynyddol fwyaf yn y Deyrnas Unedig ac maen ysbrydoli miloedd o bobl bob blwyddyn i ddarganfod sut gall addysg newid eu bywydau. Ar hyd a lled Cymru bydd cannoedd o ddigwyddiadau yn cael eu cynnal a thua 20,000 o bobl yn mynychu digwyddiad a rhoi cynnig ar rywbeth newydd!
Mae llyfrgelloedd yng Nghymru yn fannau allweddol ar gyfer addysg oedolion a byddant yn cynnal amrywiaeth eang o ddigwyddiadau a gyda chymaint i ddewis ou plith maen sicr y bydd rhywbeth at ddant pawb.
O sesiynau blasu cyfrifiaduron, dyfeisiau a gismos a the a thabledi, i glybiau gwaith a thechnegau cyfweliad; ac o sesiynau crefftau a gwneud gemwaith i gadairobig, tai chi neu salsa. Beth am ymuno â gr?p darllen, ysgrifennu creadigol neu wau a chlonc dysgu sgiliau newydd a chlywed am anturiaethau pobl eraill au teithiau trwy fywyd.
I gael gwybod mwy am y digwyddiadau syn cael eu cynnal yn eich ardal chi drwy gydol y flwyddyn ewch draw ich llyfrgell leol, edrychwch ar eu tudalen Facebook neu wefan neu ewch i: http://bit.ly/1FwJ1wP