Allwch chi ach plant helpu i dorri record yr Haf yma?
Gorffennaf 10, 2015Mae llyfrgelloedd ledled Cymru yn paratoi i annog darllenwyr ifanc i archwilio rhai or gorchestion anhygoel mewn bywyd go iawn a phob record byd syn ymddangos yn Llyfraur Guinness World Records fel rhan o Sialens Ddarllen yr Haf eleni.
Wrth lansior sialens yn Llyfrgell Cefn Mawr yn Wrecsam heddiw, dywedodd Ken Skates, AC, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: Mae darllen er pleser yn bwysig wrth gynorthwyo plant i ddatblygu llythrennedd a sgiliau ehangach a dylem annog plant i ddarllen pob math o bethau o lyfrau ffeithiol fel Guinness World Records trwodd i lyfrau ffuglennol ffantasïol, cylchgronau, comics neur clasuron. Maen bleser bod yma heddiw i lansio Sialens Ddarllen yr Haf yng Nghymru ac addo cefnogir sialens ac rwyn arbennig o falch fod y plant yn ceisio gosod record newydd trwy ddarllen un om hoff awduron Roald Dahl!
Mae dros gant o blant o bedair ysgol gynradd leol yn ceisio gosod record Cymreig am y nifer fwyaf o blant yn darllen yr un darn yn uchel or un llyfr ar yr un pryd. Byddant yn darllen The Twits gan Roald Dahl.
Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gymunedau, a Phartneriaethau o Gyngor Wrecsam: Maen bleser gweld cynifer o blant yn darllen gydai gilydd yn ein llyfrgell gymunedol. Mae darllen yn sgil pwysig mewn bywyd ac maer adnoddau sydd ar gael am ddim mewn llyfrgelloedd yn allweddol wrth fynd ir afael â sgiliau a gallu ein plant i gael gwaith yn y dyfodol ac maen cynnig lle diogel iddyn nhw ddysgu a phrofi pethau newydd.
The Reading Agency a rhwydwaith llyfrgelloedd cyhoeddus syn mynd atin flynyddol i drefnu sialens, ac maen derbyn cefnogaeth yng Nghymru gan Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru. Gyda Sialens Ddarllen yr Haf yn 17 oed eleni, maen anelu at blant 4- 11 mlwydd oed au teuluoedd ac maen syml, hwyliog ac AM DDIM. Bydd plant yn cael eu hannog i ddarllen chwech neu fwy o lyfrau llyfrgell ou dewis nhw yn ystod gwyliaur haf a bydd anogaeth a gwobrau, ynghyd â thystysgrif, neu fedal i bob plentyn syn cwblhaur sialens.
Fel rhan o sialens eleni, byddwn yn gofyn i blant, rhieni, gofalwyr, gwirfoddolwyr ifanc, athrawon, hoff awduron plant ac eraill addunedu i helpu i osod Guinness World Records newydd am y Mwyaf o Addewidion a Dderbynnir ar gyfer Ymgyrch Ddarllen! Bydd llyfrgelloedd cyhoeddus yn casglu addewidion ar draws y Deyrnas Unedig rhwng dydd Gwener 10 a dydd Llun 13 Gorffennaf holwch eich llyfrgell leol i gael gwybod pryd y gallwch gyflwyno eich addewid – bydd angen o leiaf 100,000 o addewidion i osod y record!
Gallwch gymryd rhan AM DDIM ac mae Sialens Ddarllen yr Haf yn un o nifer o gynlluniau y mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn eu cynnig i helpu plant feithrin cariad at ddarllen, magu hyder a chael sgiliau newydd. Mae llyfrgelloedd ar draws Cymru yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous yn ystod gwyliaur haf i ddifyrru plant a gwneud bywyd yn haws i rieni!
Ewch draw ich llyfrgell leol neu ewch i llyfrgelloeddcymru.org i gael gwybod mwy.
I gael gwybod mwy am Sialens Ddarllen yr Haf a sut i gymryd rhan, ac adnoddau ar gyfer ysgolion, ewch i www.readingagency.org.uk/summerreadingchallenge
www.facebook.com/SummerReadingChallengeUK
www.recordbreakers.org.uk
Lawrlwythwch Ap Torri Pob Record Sialens Ddarllen yr Haf yn sol.us/records