Dros 500 o geisiadau yn dod i law yng nghystadleuaeth Storïau Rygbi
Gorffennaf 22, 2015Mae llyfrgelloedd, archifau ac amgueddfeydd wedi ymuno ag Undeb Rygbi Cymru i gynnal cystadleuaeth ar gyfer pobl ifanc i ddathlu rygbi yng Nghymru fel rhan o ddathliadau Cwpan Rygbir Byd sydd ar y ffordd.
Fe gaeodd y gystadleuaeth ddydd Llun a chafwyd dros 500 o geisiadau oddi wrth blant a phobl ifanc rhwng 7 ac 16 mlwydd oed o bob rhan o Gymru roedd y ceisiadau yn cynnwys barddoniaeth, storïau byrion a ffilmiau ac yn mynd ir afael ag amrywiaeth anhygoel o bynciau, o ddyfarnwyr awdurdodol, gwrachod, sombis, dreigiau, niweidiau, y Groggs i chwaraewyr rygbi wediu gwneud o siocled, jeli a melysion!!
Fe ddywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, Ken Skates:
Maer gystadleuaeth ffantastig hon wedi annog pobl ifanc i gofnodi eu profiadau rygbi yng Nghymru, boed nhwn chwarae, yn gwylio neun clywed eu ffrindiau au teuluoedd yn siarad amdano rydym wedi creu casgliad o storïau syn ffenestr siop i rygbi yng Nghymru o lawr gwlad hyd at berfformiadaur tîm cenedlaethol.
Maer gystadleuaeth hon wedi rhoi cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau digidol a llythrennedd mewn ffordd atyniadol a hwyliog. Mae adrodd storïau yn ffordd wych i bobl ifanc adael iw dychymyg dyfu a dysgu mwy amdanynt eu hunain ar byd ou cwmpas, ac rwyn edrych ymlaen at weld y ceisiadau.
Y cam nesaf yn y gystadleuaeth yw llunio rhestr fer mae 30 beirniad o lyfrgelloedd, archifau, amgueddfeydd, sefydliadau academaidd a byd rygbi yn rhoi ou hamser i farnu swp or ceisiadau.
Bydd y rhai sydd yn y rownd derfynol yn cael eu beirniadu gan banel arbennig o feirniaid syn cynnwys enwogion rygbi, awduron, llyfrgellwyr ac arbenigwyr ar y cyfryngau ac fe gyhoeddir enwaur rhai fydd yn y rownd derfynol ddechrau Medi. Hyd yma maer panel beirniaid yn cynnwys:
Phil Grant Awdur/ Gweithgor Cwpan Rygbir Byd
Syr Gareth Edwards Cyn-chwaraewr/Llywydd Sefydliad y Deillion Caerdydd
Ken Skates AM Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth
Dan Anthony Awdur Cyfres Rugby Zombies
Dr Rhys Jones Cyflwynydd teledu/Cefnogwr Rygbi
Aneirin Karadog Bardd Plant Cymru 2013-15
Martin Daws Bardd Pobl Ifanc
Anni Ll?n Bardd Plant Cymru 2015-17
Gareth Davies Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru
Stephen Hanks Cyfarwyddwr Creadigol – Tantrwm
Ed Holden Mr Phormula (Artist Rap/Arbenigwr ar Bît Bocsio)
Dywedodd Cadeirydd Undeb Rygbi Cymru Gareth Davies:
Rwyn dishgwl ymlaen yn fawr at ddarllen y ceisiadau ar gyfer y gystadleuaeth gyffrous hon. Fe wyddom fod rygbi yn chwarae rhan arbennig yn y seice cenedlaethol yng Nghymru ar gobaith yw y bydd y gystadleuaeth hon yn manteisio ar boblogrwydd y gêm ymhlith plant ysgol an cynorthwyo i ymestyn mas at y rhai hynny sydd eto i ymddiddori yn y gêm.
Bydd storïaur rhai sydd yn rownd derfynol y gystadleuaeth yn cael eu harddangos mewn arddangosfa newydd, Cofroddion ar Bêl Hirgron yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd or 8fed Medi a byddant hefyd yn cael eu gwahodd i lansiad yr arddangosfa ar 16 Medi 2015 i gasglu eu gwobrau.
Dywedodd Janice Lane, Cyfarwyddwr Addysg, Arddangosfeydd a Chyfryngau Digidol yn Amgueddfa Cymru National Museum Wales:
Mae hyn yn ffordd wych i bobl ifanc rannu eu hangerdd dros y gêm. Mae rygbi a llenyddiaeth yn rhannau pwysig o draddodiad a diwylliant Cymru.
Rydym wrth ein boddau yn cynnal yr arddangosfa hon a fydd yn cyfunor ddau beth o flaen cystadleuaeth mor fawreddog.
I gael gwybod mwy am y gystadleuaeth ewch i: www.rugbystories.wales/cy ac ymunwch âr sgwrs am #storïaurygbi
Maer gystadleuaeth ar digwyddiadau a gynhaliwyd yn ystod Mehefin/Gorffennaf yn cefnogi menter polisi arloesol newydd gan Lywodraeth Cymru, Cyfuno: Trechu Tlodi trwy Ddiwylliant syn cysylltu cyrff diwylliannol yn agosach at ei gilydd â rhaglen Cymunedau yn Gyntaf i ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion. Ar hyn o bryd mae Cyfuno: Trechu Tlodi trwy Ddiwylliant yn cael ei dreialu mewn chwe Ardal Arloesi ledled Cymru. I gael gwybod mwy ewch i http://gov.wales/topics/cultureandsport/tackling-poverty-through-culture/?lang=cy