Cyhoeddi enillwyr cystadleuaeth Storïau Rygbi yn agoriad arddangosfa rygbi newydd

Gyda chystadleuaeth rygbi fwya’r byd ar ddechrau, gall cefnogwyr sy’n ymweld â Chaerdydd dros yr hydref fwynhau arddangosfa arbennig wrth i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd ddathlu Cwpan Rygbi’r Byd.
Heddiw (16 Medi 2015) lansiwyd arddangosfa Cofroddion a’r Bêl Hirgron yn swyddogol gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a chyhoeddwyd enillwyr y gystadleuaeth ysgrifennu creadigol genedlaethol i bobl ifanc, Storïau Rygbi.
Bydd yr arddangosfa, sydd i’w gweld ym Mhrif Neuadd Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tan ddydd Sul 15 Tachwedd, yn edrych ar hanes Cwpan Rygbi’r Byd o safbwynt Cymreig ac yn dangos cofroddion o gasgliad Undeb Rygbi Cymru a straeon a delweddau yn ymwneud â’r gystadleuaeth. Llwyfannir Cofroddion a’r Bêl Hirgron diolch i bartneriaeth rhwng Undeb Rygbi Cymru (URC), Llywodraeth Cymru a Chasgliad y Werin Cymru, a bydd yn taflu goleuni ar hanes unigryw y twrnamaint.
Canolbwynt yr arddangosfa fydd llu o eitemau, cofroddion ac eitemau o bwys hanesyddol yn ymwneud â Chwpan Rygbi’r Byd o archifau URC. Mae yma beli rygbi a chrysau wedi’u harwyddo gan enwogion y gystadleuaeth, seddi o’r hen Barc yr Arfau a rhoddion a gyflwynwyd i Gymru gan wrthwynebwyr o bedwar ban byd. Bydd y map mawr sy’n rhan o’r arddangosfa yn dangos tarddiad y rhoddion gan genhedloedd y byd rygbi, o ddant morfil wedi’i gerfio o Tonga, i’r polyn totem unigryw o Ganada a’r ceiliog o Ffrainc.
Mae Casgliad y Werin Cymru (CyW) hefyd wedi creu arddangosfa rygbi ddigidol sydd i’w gweld ar y wefan www.casgliadywerin.cymru ac ar sgrin yn arddangosfa Cofroddion a’r Bêl Hirgron. Bydd CyW hefyd yn cynnal Gorsaf Treftadaeth Ddigidol yn yr Amgueddfa fel rhan o raglen ddigwyddiadau sy’n annog y gymuned leol i ddod â’u cofroddion rygbi personol i’w digido, er mwyn creu eu gwaddol eu hunain. Mae CyW wedi bod yn gweithio’n barod gyda URC a Chlwb Rygbi Casnewydd i ddigido eitemau a darparu hyfforddiant digidol.
Bydd gwaith buddugol a gwobrwyog cystadleuaeth Storïau Rygbi yn cael eu dangos yn yr arddangosfa hefyd. Roedd y gystadleuaeth ddwyieithog, genedlaethol yn gyfle i bobl ifanc ddefnyddio rygbi fel sbardun i greu gwaith creadigol neu adrodd stori ddigidol. Ymhlith yr enillwyr mae:
Barddoniaeth
Enillydd Rowan Lewis Abertawe
2il Deio Jones Conwy (Cymraeg)
3ydd Ianto Roberts Wrecsam

Stori Fer
Enillydd Morgan Parker Rhondda Cynon Taf
2il Scarlett Carpenter Rhondda Cynon Taf
3ydd Sophie Featherstone Bro Morgannwg

Stori Ddigidol
Enillydd Joe Orrells Rhondda Cynon Taf
2il Caitlin Dop Wrecsam
3ydd Shay Fisher Rhondda Cynon Taf
Gallwch chi weld y gwaith buddugol ar www.rugbystories.wales/cy/
Cydweithiodd URC â llyfrgelloedd, archifdai ac amgueddfeydd i gynnal y gystadleuaeth i bobl ifanc er mwyn dathlu Cwpan Rygbi’r Byd.
Derbyniwyd dros 500 o gerddi, storïau byrion a storïau digidol ar y thema rygbi, a cynhaliwyd dros ugain o ddigwyddiadau mewn llyfrgelloedd, amgueddfeydd ac archifdai gan roi cyfle i blant weithio gydag awduron, beirdd ac artistiaid rap ac i weld chwaraewyr rygbi lleol a rhanbarthol.
Taniwyd dychymyg plant a phobl ifanc rhwng 7 ac 16 oed gan eu sbarduno i greu cerddi, storïau byrion neu ffilm. Beirniadwyd y cynigion gan banel a ddewiswyd yn arbennig o blith enwogion y byd rygbi, awduron, llyfrgellwyr ac arbenigwyr y cyfryngau.
Roedd dau o’r beirniaid yn bresennol heddiw – yr awdur Dan Anthony a Bardd Plant Cymru, Anni Ll?n. Dywedodd Dan:
“Diolch i’r holl blant a beirniaid sydd wedi cyfrannu at y gystadleuaeth. Mae wedi bod yn gyfle gwych i blant gyfleu’r hyn mae rygbi yn ei olygu iddyn nhw tra’n datblygu ei sgiliau llythrennedd a digidol. Roedd darllen a gwylio’r cynigion yn llawer o hwyl a gwaith anodd oedd dewis enillwyr – llongyfarchiadau i bawb.”
Meddai Carwyn Jones, Prif Weinidog Cymru:
“Mae’r arddangosfa ragorol yn ychwanegu at y cyffro ar drothwy Cwpan Rygbi’r Byd ac yn tanlinellu rôl flaenllaw Cymru yn natblygiad camp sydd bellach yn fyd-eang. Mae hefyd yn wych gweld llwyddiant cystadleuaeth Storïau Rygbi – mae gan bobl ifanc feddyliau craff a chreadigol ac mae’n wych eu bod yn cael llwyfan i ddangos eu talent.
“Diolch i’n hanes rygbi hir a’r miloedd o gefnogwyr fydd yn ymweld â Chaerdydd dros yr hydref, rwy’n ffyddiog bydd hon yn arddangosfa boblogaidd. Mae ein hymrwymiad parhaus i sicrhau mynediad i bawb i ddiwylliant a threftadaeth yn golygu bod yr arddangosfa hon, a mynediad i bob un o safleoedd Amgueddfa Cymru, yn parhau yn rhad ac am ddim. Rydw i’n annog pawb i ddod i’w gweld.”
Ategwyd hyn gan Gadeirydd Gr?p URC, Gareth Davies:
“Mae’n mynd i fod yn gyfnod diddorol i gefnogwyr rygbi o bedwar ban, a braint unwaith eto yw cael llygaid y byd yn troi’u golygon tua Chaerdydd.
“Bydd y cefnogwyr yn tyrru yma – i wylio’r wyth gêm gaiff eu cynnal yn Stadiwm y Mileniwm, ond hefyd i fwynhau awyrgylch ein Prifddinas a’i chyfoeth o hanes rygbi.
“Mae Amgueddfa Cymru wedi gwneud gwaith gwych yn paratoi’r arddangosfa ac roedden ni’n fwy na pharod i dwrio drwy archifau URC i ganfod eitemau gwych a gwerthfawr i’w harddangos.
“Yn ddi-os, bydd yr arddangosfa hon yn rhan hanfodol o brofiad pob cefnogwr rygbi yn ystod Cwpan y Byd ac rydyn ni’n falch iawn o fod wedi cyfrannu at y gwaith.”
I gloi, meddai David Anderson, Cyfarwyddwr Cyffredinol Amgueddfa Cymru:
“Rydyn ni’n falch o gynnal yr arddangosfa hon yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd tra bod Cwpan Rygbi’r Byd yn ymweld â’r ddinas. Os ydych chi byth wedi chwarae rygbi, rydych chi’n gwybod ei bod hi’n gêm sy’n aros gyda chi am byth ac yn llywio eich ffordd drwy’r byd.
“Mae’n wych cael bod yn rhan o’r dathliadau – gallwch chi deimlo’r cyffro yng Nghaerdydd yn barod ac rwy’n gobeithio y bydd cefnogwyr o bedwar ban yn bachu ar y cyfle i fwynhau arddangosfa sy’n adrodd hanes unigryw’r gystadleuaeth.”
Mae Amgueddfa Cymru yn cefnogi menter newydd unigryw gan Lywodraeth Cymru – Cyfuno: trechu tlodi drwy ddiwylliant – sy’n clymu cyrff diwylliannol yn agosach ar raglen Cymunedau’n Gyntaf er mwyn ysbrydoli pobl ifanc ac oedolion. Mae’r fenter yn cael ei threialu ar hyn o bryd mewn chwe ‘Ardal Arloesi’ ar draws Cymru. am ragor o wybodaeth ewch i http://gov.wales/topics/cultureandsport/tackling-poverty-through-culture/?skip=1&lang=cy.
Cefnogir rhaglen arddangosfeydd a digwyddiadau Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd gan chwaraewyr y People’s Postcode Lottery.
Diolch i gefnogaeth Llywodraeth Cymru mae mynediad am ddim i Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd.
Mae gan Amgueddfa Cymru saith amgueddfa genedlaethol ar draws Cymru sef Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd; Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru; Amgueddfa Lleng Rufeinig Cymru, Caerllion; Big Pit Amgueddfa Lofaol Cymru, Blaenafon; Amgueddfa Wlân Cymru, Dre-fach Felindre; Amgueddfa Lechi Cymru, Llanberis ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, Abertawe.

Cookie Settings