Teitlau newydd wediu hychwanegu at wasanaeth E-gronau AM DDIM Llyfrgelloedd Cymru
Tachwedd 21, 2015O Heat a Grazia i Who do you think you are ar Radio Times, mae gwasanaeth e-gronau Llyfrgelloedd Cymru yn cynnig rhywbeth i bawb, ac erbyn hyn maer gwasanaeth hyd yn oed yn well!
Ydych chin gwario mwy nag y dylech chi ar gylchgronau? Beth am bori ymysg ein casgliad o dros 200 or prif gylchgronau gan gynnwys teitlaur BBC, y prif gyhoeddiadau ym maes iechyd a ffitrwydd, cylchgronau hel clecs beth bynnag syn mynd âch bryd, rydych yn fwy tebygol o ddod o hyd i rywbeth syn berthnasol i chi ac maer cyfan ar gael iw lawrlwytho am ddim.
Fe gafodd ugain o deitlau newydd eu hychwanegu at y gwasanaeth, yn eu plith: Womans Weekly, Look, Heat, Grazia, Autocar, Lonely Planet Traveller, Empire, PC Advisor ar Radio Times!
Dywedodd un defnyddiwr Rwyf wrth fy modd gyda gwasanaeth e-gronau am ddim Llyfrgelloedd Cymru. Roeddwn yn arfer gwario ffortiwn ar danysgrifiadau bob mis a bob chwarter am gylchgronau, ond erbyn hyn rwyn gallu eu lawrlwytho i gyd am ddim! Rwyf hyd yn oed yn gallu cadw ôl-rifynnau ar fy ngliniadur fel nad oes gen i dwmpathau mawr o gylchgronauI ym mhobman!
Mae llyfrgelloedd ledled Cymru yn dathlu popeth digidol yr wythnos yma fel rhan o ymgyrch #CaruDigidol. O e-lyfrau ac e-gronau i hanes teulu a chwilio am waith, maer cyfan ar gael yn eich llyfrgell leol.
I gael gwybod mwy am y gwasanaethau digidol grêt sydd ar gael yn Llyfrgelloedd Cymru edrychwch ar ein gwefan: http://welshlibraries.org/cy/e-adnoddau/carudigidol/