Hoffech chi arbed £1000 eleni?

Fe allech chi arbed cannoedd o bunnau’r flwyddyn drwy ymaelodi â’ch llyfrgell a manteisio ar y gwasanaethau anhygoel sydd ar gael am ddim!

Mae’r bobl isod i gyd yn ddefnyddwyr rheolaidd ar lyfrgelloedd ledled De Cymru ac maen nhw’n awyddus i rannu eu profiadau ac annog mwy o bobl i ymuno â’r llyfrgell:

Mary Neck – Llyfrgell Aberdâr

Mae Mary Neck, 67 mlwydd oed, yn byw yn Aberdâr yn Rhondda Cynon Taf. Mewn gwirionedd, mae hi wedi bod yn aelod o’r gwasanaeth llyfrgelloedd trwy gydol ei hoes. Benthycodd 61 o lyfrau yn 2014 – gan arbed £970 – tybed faint mae hi wedi llwyddo i’w arbed dros y blynyddoedd.
“Fel pensiynwr, ni allwn fforddio prynu’r llyfrau hyn yn ystod y flwyddyn. Felly, rwy’n gwerthfawrogi’r llyfrgell a’r staff cyfeillgar sydd mor barod i helpu. Yn ogystal, mae’n gyfle i mi gwrdd â phobl eraill.”

Yn ei changen leol, mae Mary hyd yn oed wedi dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur a bellach mae’n anfon e-byst yn rheolaidd, siopa dros y we, a defnyddio Skype i gysylltu â’i hwyres yng Nghaint. Gwna’r cwbl o ganlyniad i gefnogaeth a chymorth ei llyfrgell leol.
“Fe wnes i fwynhau dysgu sut i ddefnyddio cyfrifiadur a dod yn un o’r porwyr penwyn! Mae’n golygu hefyd fy mod yn gallu sgwrsio â’m hwyres dros y rhyngrwyd. Mae’n rhyfeddol!
George Beale – Llyfrgell y Fenni
Mae George Beale o’r Fenni yn defnyddio ei lyfrgell yn ddyddiol bron ar gyfer amryw resymau, yn arbennig:

• I ddarllen papurau newydd a chylchgronau lleol a chenedlaethol
• I ymchwilio drwy ddefnyddio’r rhyngrwyd a’r llyfrgell gyfeiriol
• I anfon a derbyn e-byst
• I fenthyca llyfrau
• Ar gyfer cynhwysiad cymdeithasol
Mae George yn amcangyfrif y byddai cost y papurau newydd cenedlaethol eu hunain oddeutu £780 y flwyddyn a chost y papurau lleol ychwanegol yn gwneud y cyfanswm dros £900

Yn ogystal, mae’r defnyddio’r rhyngrwyd i ymchwilio i hanes ei deulu ac ymchwil arall. Mae’n bosib y byddai defnyddio hwn gartref yn costio o £250 o leiaf a £10 y mis o danysgrifiad band eang a chost flynyddol dwy wefan achau sydd oddeutu £200 y flwyddyn.

Mae George hefyd yn awyddus i nodi manteision ychwanegol bod mewn awyrgylch cynnes a chroesawgar ynghyd â gwerth difesur cyfarfod nifer o bobl wahanol.

Graham Anderson

“Rwyf wedi bod yn ymweld â llyfrgell Rhydypennau ers tua 6 blynedd gyda’n merch, Gigi, sy’n awr yn 11 mlwydd oed. Cychwynnodd ein hymweliadau a’r llyfrgell gyda mi’n darllen storïau iddi, gan fenthyca nifer o lyfrau yn wythnosol, wrth wrando ar sesiynau stori a chael amser da yn gyffredinol. Wrth iddi dyfu a dechrau darllen, roedd yn mynd â mwy fyth o lyfrau gartref. Ni allaf ddechrau dychmygu’r gost o brynu’r llyfrau a byddai peidio â mynd i’r llyfrgell yn llai o hwyl.

“Mae brawd Gigi, Steen, wedi bod yn aelod o’r llyfrgell ers iddo allu gwneud hynny. Fel Gigi, roeddem yn darllen yn y llyfrgell, yn mynd a chyfrolau o lyfrau adref, Julia Donaldson, llyfrau lluniau, Tomos y Tanc, darllen cynnar ac ati. Ni fyddai ymuno â’r clwb darllen gyda Clare a darllen gyda’r PCSO Joe wedi digwydd heb y llyfrgell. Sialens yr Haf, darllen llyfrau A chael sticeri! Am fonws!

“Rwyf wedi arbed cannoedd o bunnau trwy ddefnyddio adnoddau’r llyfrgell, gan brynu nifer o lyfrau wedi eu tynnu o gylchrediad er defnydd preifat ac i fynd i lyfrgell yr ysgol. Ond mae’r ffrindiau a wnaethom yn y llyfrgell a’r hwyl rydym wedi’i gael ac yn parhau i’w gael yno yn amhrisiadwy!”

Mae’r llyfrgellydd wedi amcangyfrif fod cyfanswm arbedion Graham am lyfrau, digwyddiadau a benthyciadau o bosib oddeutu tua £500 yn 2014.
Jeff Parsons
Crefftwr cynnal a chadw 52 mlwydd oed yw Jeff o Gaerdydd.

“Alla’i ond dyfalu’n fras faint rwyf i wedi’i arbed yn ariannol dros y blynyddoedd. Yn sicr, mae’n gannoedd os nad miloedd o bunnau (dros gyfnod fy aelodaeth gyfan). Mae’r meysydd a’r amrywiaeth y gallaf gael mynediad atynt wedi bod mor sefydlog.

“Rwy’n eithriadol o hoff o gerddoriaeth ac yn mwynhau teithio. Rwy’n briod ond does gen i ddim plant. Rwy’n byw 10 munud i ffwrdd o’r llyfrgell felly mae’n ddelfrydol i mi. Amser maith yn ôl sylweddolais fy mod wedi dysgu mwy yn y llyfrgell na wnes i yn yr ysgol!

“Rwy’n wirioneddol gredu y dylai’r unigolyn sy’n dewis y gerddoriaeth ddarllen yr un cylchgronau â mi a theimlo gwir angerdd amdano hefyd. A dweud y gwir, mae wedi ymdebygu i effaith domino: gwrando ar artistiaid na fyddwn yn meddwl amdanynt o ddydd i ddydd. Rwy’n ymdrechu i chwarae’r gitâr a’r piano. Unwaith eto, rwyf wedi benthyg DVDs tiwtorial i’m cynorthwy i ddeall strwythur cordiau, gwrthdroadau ac ati.

“Rwy’n benthyca o’r llyfrgell fwy neu lai bob wythnos oni bai ein bod ar ein gwyliau! Mae’r gwasanaeth sydd ar gael a’r staff heb ei ail… rwy’n ei werthfawrogi.”

Mae llyfrgell leol Jeff wedi amcangyfrif fod yr hyn mae wedi ei arbed yn ariannol , yn seiliedig ar y 149 o eitemau (ffilmiau, llyfrau, cerddoriaeth) a fenthycodd yn 2014 oddeutu £1170.

Dywedodd Jeff: “Wel, rwy’n rhyfeddu at faint rwyf wedi’i arbed. Roeddwn yn gwybod y byddai’n dda, ond wrth feddwl am gyfanswm fel hwnnw mewn blwyddyn… alla’i ddim dechrau dychmygu faint rwyf wedi’i arbed yn ystod fy aelodaeth gyfan.

Rick Eaglestone
Mae Rick Eaglestone, 37, yn byw yn y Tyllgoed ac wedi bod yn aelod o’r gwasanaeth llyfrgell ers iddo fod yn bump oed.
“Rwy’n darllen dros 60 llyfr y flwyddyn ac mae’r gwasanaeth llyfrgell wedi arbed crocbris i mi gan fod mwyafrif y llyfrau rwy’n eu cael o’r llyfrgell yn deitlau sydd newydd eu rhyddhau. Rwy’n defnyddio’r llyfrgell hefyd oherwydd rwy’n gweld fod gan y staff wybodaeth leol ryfeddol ac rwyf hefyd yn aelod o glwb llyfrau’r llyfrgell.
Petai Rick wedi prynu’r 60 teitl newydd eu rhyddhau, byddai hyn wedi costio o leiaf £1000.

Miranda Millett
Bydwraig 30 mlwydd oed yw Miranda- mae’n byw gyda’i theulu yng Nghyncoed.
“Mae fy mhartner a minnau yn gweithio yn Ysbyty Athrofaol Cymru, felly mae fy mam yn gofalu am ein plentyn ifanc yn aml tra ydym ni’n gweithio. Mae fy mam a finnau yn mynd â’m merch i Lyfrgell Rhydypennau yn aml. Mae’r lleoliad yn hyfryd i blant o bob oed ac yn berffaith i blant dan bump sy’n dechrau ymgodymu â’r byd tu fas. Mae rhestr enfawr o lyfrau (gyda neu heb grynoddisgiau), deunydd arlunio, celfi cyfforddus ac, wrth gwrs, nifer o ofalwyr-rhieni a phlant sydd ond yn edrych neu’n mynychu sesiynau stori arbennig.
“Mae fy merch fach wedi elwa’n fawr o’r awyrgylch cyfeillgar a thawel ac yn casglu ei sticeri a’i thystysgrifau yn eiddgar i ddangos y rhan y mae hi wedi’i chwarae yn y gweithgareddau. Mae’r Llyfrgell Plant yn ddechrau perffaith i fyd addysg i’m plentyn ifanc ac yn adnodd gwerthfawr iawn i deuluoedd a’r gymdeithas leol.”
Drwy fenthyca llyfrau ac adnoddau eraill mae Miranda a’i theulu wedi arbed cannoedd o bunnau, wedi cymryd rhan mewn sesiynau rhigymau a gweithgareddau crefft, ond fel y dywed hi, nid yw’n ymwneud yn unig â faint rydych yn ei arbed ond faint rydych ar eich ennill.

Hefyd, gallwch ymaelodi â’r llyfrgell yn rhad ac am ddim – felly dim costau o flaen llaw chwaith! I gael mwy o wybodaeth ymwelwch â’ch llyfrgell leol neu ewch i
www.llyfrgelloeddcymru.org.
Roha Rafiei
Dim ond chwe blwydd oed yw Roha ac mae’n ymfalchïo gymaint yn ei llyfrgell fel yr aeth ati i ysgrifennu at ei chyngor lleol (gweler delwedd) mewn ymgais i’w atal rhag cau.

Yn ystod 2014, benthycodd Roha 231 o lyfrau. Gan gymryd yn ganiataol fod pris masnachol y llyfrau hyn yn £5.00 y llyfr, mae hi wedi arbed dros £1100.00

Cookie Settings