Elusen genedlaethol The Reading Agency yn lansio casgliad newydd grymus o lyfrau Darllen yn Well ar gyfer Dementia
Mai 16, 2024
Mae The Reading Agency yn lansio Darllen yn Well ar gyfer Dementia, casgliad arloesol wedi’i guradu o lyfrau ac adnoddau sydd wedi’u cynllunio i harneisio grym darllen ar gyfer cefnogi iechyd a lles pobl y mae’r cyflwr yn effeithio arnyn nhw. Mae’r casgliad llyfrau yn cael ei lansio, mewn partneriaeth â llyfrgelloedd cyhoeddus, yn ystod Wythnos Gweithredu ar Ddementia (13-19 Mai 2024), sy’n ysbrydoli pobl ledled y wlad i weithredu ar ddementia.
Mae dirnad a deall dementia drwy lyfrau sy’n cynnig gwybodaeth a chyngor o ansawdd uchel yn gallu chwarae rhan bwysig wrth gefnogi pobl y mae dementia yn effeithio arnyn nhw, yn enwedig wrth ystyried y bydd dementia yn effeithio ar un o bob dau yn ystod eu hoes [1]. Mae Darllen yn Well ar gyfer Dementia yn darparu adnodd cyfoes sy’n adlewyrchu canllawiau clinigol cenedlaethol, arferion gorau, cyngor a chefnogaeth. Mae’r casgliad newydd yn cynnwys 20 teitl yn Lloegr ac 21 yng Nghymru, sydd wedi cael eu dewis a’u cymeradwyo’n ofalus gan arbenigwyr iechyd, elusennau a phobl y mae dementia yn effeithio arnyn nhw. Mae’n cynnwys gwybodaeth hanfodol a hanesion personol i hybu dealltwriaeth o’r cyflwr i bobl sy’n byw gyda dementia, ynghyd ag adnoddau i ofalwyr a llyfrau i blant sy’n briodol i’w hoedran.
Nod y cynllun yw gwella bywydau drwy rym darllen, ac mae teitlau Darllen yn Well ar gael i unrhyw un eu benthyg am ddim o lyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru a Lloegr. Gall gweithwyr proffesiynol perthnasol hefyd argymell teitlau i gefnogi unigolion a theuluoedd.
Mae tystiolaeth wedi dangos bod effeithiau Darllen yn Well yn gadarnhaol iawn:
- Mae dros 3.8 miliwn o lyfrau Darllen yn Well wedi cael eu benthyg o lyfrgelloedd.
- Roedd 92% o ddarllenwyr a ymatebodd o’r farn bod eu llyfr yn ddefnyddiol.
- Dywedodd 81% fod eu llyfr wedi eu helpu i ddeall mwy am eu hanghenion iechyd.
- Dywedodd 90% o weithwyr iechyd proffesiynol a holwyd fod y llyfrau wedi helpu i ddarparu cymorth gwerthfawr i’w cleifion a’u gofalwyr y tu hwnt i apwyntiadau ymgynghori [2]
Dywedodd Angela Rippon CBE, newyddiadurwr a darlledwr arobryn a Hyrwyddwr Darllen yn Dda: “Rydw i wedi dod yn rhan o’r byd codi ymwybyddiaeth o ddementia ar ôl gofalu am fy niweddar fam a gafodd y clefyd. Rydw i wrth fy modd bod The Reading Agency wedi datblygu’r casgliad hwn o lyfrau i annog pobl i ddarllen am ddementia.
Pan ddatblygodd fy mam ddementia 20 mlynedd yn ôl, roeddwn i’n gwybod y nesaf peth i ddim amdano. Roedd angen llawer iawn o help arna’i i ddysgu sut i ymdopi ac i helpu fy mam i fyw’n dda gyda’r clefyd. Rwy’n credu y bydd Darllen yn Dda ar gyfer dementia yn gam ymlaen. Bydd y llyfrau’n sbardun a fydd yn dod â phobl ynghyd, yn rhoi gwybodaeth iddyn nhw ac yn eu haddysgu i ddod yn llawer mwy ymwybodol ac yn bwysicaf oll, yn llai ofnus o ddyfodol gyda dementia.”
Dywedodd Karen Napier, Prif Swyddog Gweithredol elusen The Reading Agency: “Mae lansio ein casgliad newydd o lyfrau yn ystod Wythnos Gweithredu ar Ddementia yn ddatblygiad newydd arwyddocaol yng nghynnig iechyd a lles The Reading Agency. Mae’r llyfrau wedi’u hysgrifennu’n benodol ar gyfer y rhai sy’n byw gyda dementia, eu gofalwyr a’u hanwyliaid o bob oed. Credwn y gallai’r adnodd llyfrau unigryw a newydd hwn, sydd o ansawdd uchel ac ar gael o lyfrgelloedd cyhoeddus, chwarae rhan bwysig wrth gefnogi’r gymuned ehangach y mae dementia yn effeithio arnyn nhw.”
Dywedodd Dr Tim Beanland, Pennaeth Gwybodaeth a Dysgu, Cymdeithas Alzheimer’s: “Bydd y casgliad llyfrau newydd Darllen yn Well ar gyfer Dementia yn helpu i wella bywydau’r nifer cynyddol o bobl y mae dementia yn effeithio arnyn nhw. Rydyn ni’n falch iawn o weld The Reading Agency yn cefnogi Wythnos Gweithredu ar Ddementia drwy weithredu ar ddementia mewn ffordd mor ymarferol a chadarnhaol.”
Dywedodd Isobel Hunter MBE, Prif Swyddog Gweithredol Libraries Connected: “Wrth i lyfrgelloedd barhau i ddatblygu eu rôl bwysig wrth gefnogi dementia mewn cymunedau, mae Darllen yn Well ar gyfer Dementia yn un o nifer o fentrau sy’n rhan o gynnig iechyd a lles cyffredinol llyfrgelloedd cyhoeddus, strategaeth genedlaethol sy’n hyrwyddo rôl llyfrgelloedd wrth hyrwyddo iechyd a lles cymunedau lleol. Mae llyfrgelloedd yn cynnig y gallu i gael gafael ar lyfrau a hefyd yn cyfrannu’n gadarnhaol at gynwysoldeb, cefnogi lles a chryfhau cydlyniant cymunedol.”
Dywedodd Jane Bryant AS, y Gweinidog Iechyd Meddwl a’r Blynyddoedd Cynnar: “Mae Cynllun Gweithredu Cymru ar gyfer Dementia gan Lywodraeth Cymru, a gyhoeddwyd yn 2018, wedi ymrwymo i wella argaeledd gwybodaeth am ddementia. Bydd casgliad llyfrau Darllen yn Well ar gyfer Dementia yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi’r gwaith hwn ac rydyn ni’n falch iawn o weld y casgliad newydd yn cael ei gyflwyno ledled Cymru.”
Mae’r partner cydgynhyrchu, Innovations in Dementia, wedi sicrhau bod barn pobl y mae dementia yn effeithio arnyn nhw wedi llywio pob agwedd ar ddatblygu’r casgliad llyfrau hwn. Dywedodd Keith Oliver, Innovations in Dementia: “Mae darllen profiad bywyd pobl eraill, fel gofalwr teulu ac fel person sy’n byw gyda dementia, yn eich helpu i wybod nad ydych chi ar eich pen eich hun. Mae yna sicrwydd hefyd bod profiad pawb yn wahanol. Drwy’r llyfrau hyn felly, rydych chi’n dysgu am agweddau tebyg, ond rydych chi hefyd yn meithrin rhyw gryfder o’r ffaith eich bod chi’n wahanol.”
Mae rhestr lawn Darllen yn Well ar gyfer Dementia ar gael nawr mewn llyfrgelloedd ledled Cymru a Lloegr, gyda theitlau hefyd ar gael ar ffurf e-lyfrau a llyfrau llafar. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.readingagency.org.uk.
[1] Office of Health Economics, Llundain. Adroddiad Dementia in the UK, Mehefin 2023. https://www.ohe.org/wp-content/uploads/2023/07/OHE-report_Estimating-Dementia-UK.pdf
[2] The Reading Agency (2022) Reading Well in 2022: evaluation infographic