Sialens Ddarllen yr Haf yn Lawnsio yn Llyfrgell Dinbych

 

Bydd darllenwyr ifanc o Ysgol Twm o’r Nant yn Ninbych yn paratoi i fynd i’r afael â Sialens Ddarllen yr Haf eleni gyda’r awdur Leisa Mererid mewn lansiad yn Llyfrgell Dinbych dydd Mercher 10 Gorffennaf 2024.

Bydd plant yn gallu ymuno â’r sialens, sydd â’r nod o’u cadw yn darllen dros wyliau’r haf, gyda digwyddiadau, gweithgareddau a llyfrau gwych – i gyd ar gael am ddim o’u llyfrgelloedd lleol.

Mae Sialens Darllen yr Haf eleni, Crefftwyr Campus, yn dathlu creadigrwydd o bob math – dawnsio a darlunio, gwneud modelau allan o sbwriel a miwsig – mae rhywbeth at ddant pawb.

Bydd yr awdur Leisa Mererid yn rhoi dechrau da i’r dosbarth o Ysgol Twm o’r Nant wrth gyflwyno ei llyfr Y Wariar Bach gyda symudiadau ioga ac ymarferion anadlu.

 

 

Dywedodd Meira Jones o Lyfrgell Dinbych: “Rydym mor gyffrous i gael lansiad cenedlaethol Sialens Ddarllen yr Haf 2024 yn Llyfrgell Dinbych yn Sir Ddinbych eleni. Mae’r sialens yn annog a hybu’r plant i ddarllen er pleser trwy’r haf gan wella eu sgiliau darllen a’u hyder. Dychymyg a chreadigrwydd yw’r themâu eleni felly mae rhywbeth i bawb, dewch i’ch llyfrgell leol i ymuno yn hwyl y Crefftwyr Campus!”

Dywedodd Dafydd Davies, Pennaeth Ysgol Twm o’r Nant: “Rydym yn falch iawn yma yn Ysgol Twm o’r Nant i gael bod yn rhan o’r lansiad yn Llyfrgell Dinbych.  Fel ysgol rydym yn weithgar iawn wrth hybu dysgwyr i ddarllen er mwyn pleser ac yn sicr bydd cael bod yn rhan o’r lansiad yma yn hyrwyddo’r dysgwyr ifanc i barhau i ddarllen dros wyliau’r haf.”

 

 

Darperir Sialens Ddarllen yr Haf blynyddol gan y Reading Agency. Fe’i cefnogwyd yng Nghymru gan Cyngor Llyfrau Cymru, diolch i arian gan Lywodraeth Cymru. Mewn partneriaeth â llyfrgelloedd lleol, nod y cynllun yw helpu atal y gostyngiag mewn darllen dros yr haf y mae llawer o blant yn ei brofi pan nad ydynt yn yr ysgol. Gyda chefnogaeth y llyfrgelloedd, mae’n darparu ffordd hwyliog o gadw meddyliau ifanc yn effro, yn rhad ac am ddim.

Cookie Settings