Penodau Newydd: Trawsnewid Llyfrgelloedd Cymunedol yng Nghonwy
Tachwedd 4, 2024Mae’n bleser gan Rwydwaith Llyfrgelloedd Cymunedol yng Nghonwy gyhoeddi bod cam adeiladu’r prosiect “Penodau Newydd” wedi ei gwblhau’n llwyddiannus. Menter drawsnewidiol yw “Penodau Newydd” yn dilyn cais cydweithredol i Lywodraeth y DU, trwy’r UK Shared Prosperity Fund (UKSPF) a Chronfa Allweddol Adfywio Cymunedol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy. Mae’r prosiect yma wedi adfywio tair llyfrgell gymunedol, gan eu troi’n hybiau cymunedol bywiog sy’n darparu ar gyfer anghenion lleol ac yn meithrin ymdeimlad o falchder a lles.
Mae Llyfrgell Bae Cinmel wedi cael gweddnewidiad rhyfeddol, diolch i ymroddiad Cyfeillion Llyfrgell Gymunedol Bae Cinmel. Cwblhawyd y gwaith gan Law Construction a weithiodd gan ddefnyddio canllawiau a ddatblygwyd gan Benseiri NJSER, Manceinion, a Opening the Book. Bellach mae gan y llyfrgell do newydd, gwell bricwaith, a Golau To Pyramid. Mae’r tu fewn wedi’i adnewyddu’n llwyr gyda charpedi a dodrefn newydd, a chot o baent! Tra bod y prif waith adeiladu ar y gweill, cwblhawyd gwaith pellach hefyd a ariannwyd gan y Loteri Genedlaethol.
Mynegodd Morris Jones, Cadeirydd Grŵp Llyfrgell Gymunedol Bae Cinmel, “Mae ein cwsmeriaid wrth eu bodd gyda’r newidiadau. Mae’r adborth i’r Ymddiriedolwyr wedi bod yn gadarnhaol, gan wybod ein bod yn gallu cynnal y llyfrgell am flynyddoedd lawer i ddod.”
Ychwanegodd Judith, aelod o staff, “Roedd yr holl lyfrau wedi creu argraff fawr ar y plant o’r ymweliad ysgol ac roedd sawl un gyda phentyrrau mawr o lyfrau i’w benthyg! Roedd y plant yn hoffi gallu eistedd yn y roced ac ar soffas.”
Byddai Cyfeillion Ymddiriedolwyr Llyfrgell Gymunedol Bae Cinmel yn croesawu unrhyw un hoffai ddod yn Ymddiriedolwr neu Wirfoddolwr i helpu i ddatblygu’r llyfrgell.
Mae Llyfrgell Uwchaled hefyd wedi gweld gwelliannau sylweddol, wedi’u hariannu gan UKSPF a Chronfa Fferm Wynt Brenig. Mae contractwyr lleol wedi gweithio’n ddiwyd i blastro a phaentio’r waliau, a gosod goleuadau a charpedi newydd. Mae’r llyfrgell bellach yn cynnwys dodrefn lliwgar a modern sy’n creu awyrgylch croesawgar a chynnes.
Dywedodd Cynghorydd Gwennol Ellis, Cadeirydd Grŵp Llyfrgell Gymunedol Uwchaled, “Mae Llyfrgell Uwchaled wedi ei drawsnewid yn llwyr yn dilyn derbyn yr arian grant yma a hefyd grant gan Gronfa Fferm Wynt y Brenig. Fel y dywedodd un ymwelydd, ‘Dydi o ddim yn edrych yr un lle!”
Rhannodd Medi, Rheolwr y Llyfrgell, ei chyffro ar ddiwrnod cyntaf ailagor, “Mae wedi bod yn wych hyd yn hyn. Daeth yr ysgol (25 disgybl a 5 oedolyn) yn ogystal â chynrychiolwyr o’r grŵp cymunedol. Cafodd yr ysgol gyflwyniad gwych gan Gwennol a Rhian, a threulio awr dda yma ac roedd yn hyfryd eu gweld yn pori, darllen a rhannu llyfrau.”
Mae Llyfrgell Llanfairfechan wedi mynd i’r afael â phroblemau lleithder hirdymor ac wedi cael ailaddurniad llwyr. Mae’r dodrefn llyfrgell newydd yn ymarferol ac atyniadol, gan ganiatáu i staff gyflwyno llyfrau mewn modd deniadol. Dywedodd Huw Lloyd Jones, Arweinydd Prosiect Rhwydwaith y Llyfrgelloedd Cymunedol a Chadeirydd Grŵp Llyfrgell Gymunedol Llanfairfechan, “Yn Llanfairfechan, rydym wrth ein bodd gyda’n llyfrgell sydd newydd ei hadnewyddu. Mae ein contractwyr wedi gwneud gwaith gwych wrth fynd i’r afael â’r problemau lleithder yn yr hen adeilad cerrig, wedi ail-addurno drwyddo draw a gosod carped newydd.”
Dywedodd Claire, aelod o staff, am ymateb y gymuned, “Mae yna deimlad aruthrol o ddiolch am y buddsoddiad i’r pentref gan y gymuned. Mae sawl person wedi dweud pa mor lwcus ydyn ni i gael lle mor wych â pha mor arbennig mae’n teimlo i fod yno.”
Mae’r prosiect “Penodau Newydd” nid yn unig wedi gwella seilwaith ffisegol y llyfrgelloedd hyn ond hefyd wedi cyflwyno dulliau arloesol o farchnata yn y gymuned ac ymgysylltu â gwirfoddolwyr. Mae fframwaith gwirfoddoli newydd wedi’i sefydlu sy’n galluogi unigolion i ddatblygu eu sgiliau a chyfrannu at ddarparu ac ehangu gwasanaethau llyfrgell.
Cysylltwch â’ch grŵp lleol os oes gennych ddiddordeb mewn gwirfoddoli i gefnogi’ch Llyfrgell Gymunedol.