Llyfrgell a Chanolfan Dysgu Oedolion yn y Gymuned Abertyleri wedi symud i galon canol y dref

 

Mae Llyfrgell a Chanolfan Dysgu Oedolion yn y Gymuned Abertyleri wedi symud i galon canol y dref Abertyleri ac mae Hyb Cymunedol y Cyngor wedi ymuno â nhw, gan ddarparu mynediad hawdd at y gwasanaethau cymunedol pwysig hyn.

 

Abertillery Library

 

Fe welwch nhw yn eu cartref newydd yng Nghapel y Drindod ar Stryd yr Eglwys. Gyda chyllid gan Lywodraeth Cymru, mae hen Gapel y Drindod wedi’i adnewyddu i ddarparu’r llyfrgell ar y llawr gwaelod. Mae’r llawr cyntaf yn gartref i’r mynediad cyfrifiadurol i ddefnyddwyr y llyfrgell, gyda Wi-Fi am ddim parhaus a’r gwasanaethau hwb cymunedol, a bydd cyrsiau dysgu oedolion yn y gymuned yn cael eu cynnal o’r ail lawr. Mae gan bob llawr fynediad hawdd gyda lifft i gynorthwyo’r rhai sydd ei angen.

 

 

Meddai’r Cynghorydd John Morgan, Aelod Cabinet Cyngor Blaenau Gwent dros Leoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd:

“Mae hwn yn gyfnod cyffrous i ganol tref Abertyleri. Gan weithio gyda’n partneriaid yn Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin, rydym am wneud Capel y Drindod yn ganolbwynt ffyniannus i’r dref, gan feithrin cefnogaeth ar gyfer addysg, mentrau cymunedol a gweithgareddau canol y dref. Bydd hefyd yn gartref i’n Hyb Cymunedol mewn lleoliad yng nghanol y dref, gan roi mynediad hawdd i drigolion at amrywiaeth o wasanaethau’r cyngor a chyngor cyffredinol.

“Mae ailddatblygu Capel y Drindod yn rhan o Gynllun Creu Lleoedd ehangach parhaus ar gyfer Abertyleri ac mae’n ategu cynlluniau eraill sy’n ymwneud ag adfywio sydd wedi’u cyflawni’n ddiweddar yng nghanol y dref.”

 

 

Meddai Tracy Jones, Rheolwr Gwasanaethau Llyfrgell Llyfrgelloedd Blaenau Gwent: “Mae’r gofod llyfrgell newydd yn anhygoel, ac mae fy nhîm a minnau wedi gweithio’n galed i wneud yn siŵr y bydd pob un o’n haelodau yn gweld yr amgylchedd newydd yn bleser i’w ddefnyddio.

“Rydym yn gyffrous i groesawu ein holl grwpiau a phartneriaid yn ôl, a gobeithiwn y bydd y gofod newydd yn ein helpu i ddatblygu model mwy cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau, a fydd yn gwella ein gwasanaethau i bobl a’u cymuned ymhellach.”

 

Abertillery Library

 

Meddai Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin: “Rydym yn credu bod y gofod newydd yn gwneud ychwanegiad gwych i ganol tref Abertyleri. Mae gan y ddarpariaeth dysgu oedolion yn y gymuned gyfleusterau gwych. Gwerthfawrogwn mai rhwystr i nifer o bobl rhag ymgysylltu â dysgu oedd y ffaith bod y ganolfan flaenorol ar dir yr ysgol. Trwy ddarparu adnodd gyda chyfleusterau eithriadol rydym yn gobeithio y bydd yn annog mwy o bobl i roi cynnig ar gyrsiau newydd.”

 

 

Lleolir Llyfrgell a Chanolfan Addysg Gymunedol Abertyleri yng Nghapel y Drindod, Stryd yr Eglwys, Abertyleri NP13 1DB. Mae’r gwaith adnewyddu yn gydweithrediad rhwng Cyngor Blaenau Gwent, Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin a Llywodraeth Cymru. Mae cyllid wedi’i sicrhau gan Raglen Adfywio Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru, Grant Gwres Carbon Isel, cyllid Ffyniant a Rennir Llywodraeth y DU a’r Grant Cyfalaf Trawsnewidiol ar gyfer llyfrgelloedd.

 

 

Mae rhagor o wybodaeth am wasanaethau llyfrgell Blaenau Gwent ar gael ar wefan Aneurin Leisure

 

Cookie Settings