Newidiadau i’r Mynediad i Gylchgronau a Phapurau Newydd Digidol
Tachwedd 13, 2024
Pressreader yw platfform newydd cylchgronau a phapurau newydd digidol llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru. Lawnsiwyd y gwasanaeth ar 1af o Dachwedd, ac mae nawr ar gael i ddefnyddwyr llyfrgell dros Gymru gyfan am y tro cyntaf.
Ar ap PressReader neu pressreader.com, gallwch gael mynediad i fwy na 7,000 o gyhoeddiadau gorau’r byd cyn gynted ag y byddant ar gael ar silffoedd.
Gallwch weld rhifynnau yn eu gosodiad print gwreiddiol, eu darllen ar unwaith neu lawrlwytho ar gyfer darllen eto ar eich dyfeisiau. Gyda chyhoeddiadau mewn mwy na 60 o ieithoedd ac o 120 o wledydd, gallwch gael mynediad i’r cynnwys o adref, ac o bob cwr o’r byd. O’r Daily Post, Evening Post, The Guardian, Forbes, Vogue a Western Mail, mae PressReader yn cyflenwi rhifynnau llawn o bapurau newydd a chylchgronau premiwm ar unwaith.
Sut i Gofrestri
Defnyddiwch eich rhif aelodaeth llyfrgell i ymuno â Pressreader. Os nad oes ganddoch aelodaeth llyfrgell, ewch i’ch llyfrgell leol i ymuno neu ymweld â’r tudalen Ymaelodi â’r Llyfrgell ar wefan Llyfrgelloedd Cymru i gael y manylion.
Bydd gwefan ac ap Pressreader yn cymryd lle Libby fel darparwr cylchgronau digidol i lyfrgelloedd cyhoeddus ledled Cymru, a bydd hefyd yn darparu mynediad i bapurau newydd digidol i ddefnyddwyr llyfrgelloedd am y tro cyntaf.
Lawrlwythwch ar:
- App Store: https://ow.ly/9IU350TRp0R
- Google Play: https://ow.ly/GlWq50TRp0P