System Rheoli Llyfrgell Newydd ar gyfer Llyfrgelloedd Cymru
Rhagfyr 6, 2024
Yn ystod Rhagfyr, bydd Llyfrgelloedd Cymru’n trosglwyddo i system rheoli llyfrgelloedd newydd. Dyma’r system gyfrifiadurol sy’n cadw cofnodion ar gyfer pethau fel gwybodaeth am eich aelodaeth llyfrgell a chyfrifon cwsmeriaid, ein catalog stoc, cofnodion o fenthyciadau ac archebion ac unrhyw ffioedd a godir mewn perthynas â’r rhain. Mae hefyd yn cefnogi mynediad i rai o’n gwasanaethau digidol fel y catalog ar-lein, defnydd o gyfrifiaduron personol yn y llyfrgell a rhai gwasanaethau digidol fel e-lyfrau a gwasanaethau a ddefnyddir drwy wefannau.
Sieciwch gyda’ch gwasanaeth llyfrgell leol am yr union ddyddiadau y bydd y system rheoli llyfrgelloedd all-lein yn eich llyfrgell (mae hyn yn debygol o fod rhwng 6-13 Rhagfyr).
Bydd angen i chi wybod rhif eich cerdyn llyfrgell er mwyn benthyca llyfrau, a’ch PIN er mwyn defnyddio’r gwasanaethau digidol sydd ar gael yn ystod y cyfnod hwn. Os nad ydych yn gwybod eich rhif neu’ch PIN, holwch aelod o staff y llyfrgell cyn gynted ag y gallwch. Yn ystod y cyfnod hwn, ni fyddwch yn gallu chwilio drwy’r catalog, newid manylion eich cyfrif na rhoi llyfrau ar gadw.
Pam rydym wedi newid systemau?
Mae’r contract gyda chyflenwr ein system gyfrifiadurol bresennol yn dod i ben ac roedd yn ofynnol i ni ail-dendro ar gyfer y contract hwn. Gwnaed hyn ar draws Cymru gyfan, gyda chefnogaeth Llywodraeth Cymru. O ganlyniad i hyn bydd cyflenwr gwahanol yn darparu’r system rheoli llyfrgelloedd pan ddaw’r contract presennol i ben.
Beth fydd yn digwydd?
- Bydd y system bresennol yn dod i ben ar neu yn yr wythnos cyn 11eg o Ragfyr.
- Am ychydig ddiwrnodau bydd llyfrgelloedd yn defnyddio system dros dro’r cyflenwr newydd i reoli’r broses o fenthyca a dychwelyd llyfrau wrth i’r system newydd gael ei rhoi ar waith
- Bydd llyfrgelloedd wedyn yn dechrau defnyddio’r system newydd.
Hoffai’r Gwasanaeth Llyfrgelloedd ddiolch i gwsmeriaid am eu hamynedd a’u cydweithrediad wrth i ni drosglwyddo systemau. Bydd Datganiad i’r Wasg yn ymddangos gyda diweddariad wedi i’r system newydd fynd yn fyw.
Bydd llyfrgelloedd cyhoeddus ar draws Cymru yn gweithio mewn partneriaeth â’r cyflenwr newydd i gyflwyno’r newid yma ac yn lleihau’r effaith ar wasanaethau i gwsmeriaid lle bo modd.
A fydd y gwaith trosglwyddo’n cael effaith ar oriau agor y llyfrgell?
Does dim cynlluniau i gau unrhyw lyfrgelloedd er mwyn cwblhau’r gwaith hwn.
A fyddaf yn gallu benthyca llyfrau wrth i’r system gael ei throsglwyddo?
Byddwch, bydd cwsmeriaid yn gallu parhau i fenthyca llyfrau drwy gydol y cyfnod hwn.
Fodd bynnag, bydd angen i chi nodi eich rhif aelodaeth ar gyfer y llyfrgell er mwyn benthyg unrhyw lyfrau yn ystod y cyfnod trosglwyddo gan na fydd cyfleuster ar gael i chwilio am eich aelodaeth ac mae angen hwn arnom ar gyfer y system dros dro.
A fyddaf yn gallu dychwelyd llyfrau ac eitemau eraill yn ystod y cyfnod trosglwyddo?
Byddwch. Ni chodir unrhyw ffioedd sydd fel arfer yn berthnasol i eitemau hwyr yn ystod y cyfnod trosglwyddo ar ddechrau mis Rhagfyr.
A fyddaf yn gallu adnewyddu llyfrau yn ystod y cyfnod trosglwyddo?
Os hoffech adnewyddu unrhyw eitemau rydych wedi’u benthyca, bydd yn rhaid i chi eu ‘dychwelyd’ a’u benthyca unwaith eto. Er mwyn gwneud hyn, bydd angen i chi fynd â’ch eitemau a’ch cerdyn aelodaeth i’r llyfrgell, neu gallwch wneud hyn dros y ffôn os oes gennych eich rhif aelodaeth ar gyfer y llyfrgell a rhifau côd bar y llyfr wrth law pan fyddwch yn ffonio.
A fydd hyn yn effeithio ar y gwasanaethau digidol sydd ar gael drwy fy aelodaeth llyfrgell?
Efallai y bydd ychydig o darfu wrth ddefnyddio rhai gwasanaethau ar-lein sydd ar gael i gwsmeriaid drwy eu haelodaeth yn ystod y cyfnod trosglwyddo. Gall hyn gynnwys e-lyfrau, e-lyfrau llafar, e-bapurau newydd ac e-gylchgronau, gwefannau achyddiaeth a chronfeydd data cyfeirio, yn dibynnu ar sut maent yn cysylltu drwy eich aelodaeth llyfrgell. Fodd bynnag, mae’r cyflenwr yn gweithio gyda’r darparwyr trydydd parti hyn i leihau unrhyw darfu.
A fyddaf yn parhau i dderbyn hysbysiadau i ddweud bod fy llyfrau’n hwyr?
Na fyddwch. Ni fydd hysbysiadau drwy negeseuon testun ac e-byst ar gael dros dro nes y bydd y gwasanaeth hwn yn cael ei roi ar waith i ni unwaith y bydd y system newydd yn fyw. Unwaith y bydd y system newydd ar waith, bydd y negeseuon hyn yn edrych yn wahanol a byddant yn dod o ‘gyfeiriadau’ gwahanol’.
A fydd Wi-Fi y llyfrgell yn dal i weithio?
Bydd. Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar y Wi-Fi.
A fyddaf yn gallu defnyddio cyfrifiaduron personol yn y llyfrgell?
Byddwch. Ni fydd y newidiadau hyn yn effeithio ar gwsmeriaid sy’n defnyddio’r cyfrifiaduron personol yn y llyfrgell cyn y cyfnod trosglwyddo, a bydd trefniadau dros dro ar waith ar gyfer defnyddwyr newydd yn ystod y cyfnod trosglwyddo.
A fyddaf yn gallu defnyddio’r peiriannau hunanwasanaeth?
Na fyddwch. Ni fydd y peiriannau hunanwasanaeth ar gael nes bod y cyfnod trosglwyddo wedi’i gwblhau.
Ydy hi’n bosib ymuno â’r llyfrgell yn ystod y cyfnod trosglwyddo?
Ydy. Gallwch ddod yn aelod newydd o’r llyfrgell yn ystod y cyfnod trosglwyddo drwy ymweld â’r llyfrgell yn bersonol. Yn anffodus ni fydd cwsmeriaid newydd yn gallu ymuno ar-lein nes bod y wefan newydd ar gael.
A fydd unrhyw newidiadau i’r ffordd y caiff fy nata personol ei drin gyda’r System Rheoli Llyfrgelloedd newydd?
Rydym yn newid darparwr gwasanaeth o’r system bresennol sy’n gweithredu ar draws y rhan fwyaf o awdurdodau yng Nghymru, i ddarparwr gwasanaeth sy’n gweithredu yn yr un ffordd, fwy neu lai.
Mae data cofnodion cwsmeriaid yn cael ei ddiogelu dan gytundebau diogelu data priodol a phrotocolau diogeled systemau yn ystod y cyfnod trosglwyddo i’r darparwr gwasanaeth newydd. Bydd datganiadau ar gyfer sut y caiff eich data ei ddiogelu ar gael i gwsmeriaid wrth i’r system newydd gael ei rhoi ar waith.
Beth os oes gennyf ragor o gwestiynau?
Gofynnwch i’ch staff llyfrgell leol, a fydd yn gallu trafod unrhyw ymholiadau gyda chwsmeriaid am y newid yma.
Dewch o hyd i wybodaeth gyswllt eich llyfrgell leol ar wefan Llyfrgelloedd Cymru.