Cafodd gwefan ‘Ein Treftadaeth Rhondda Cynon Taf’ ei lansio o ganlyniad i bartneriaeth bwysig sydd wedi arwain at drigolion o bob oed yn gweithio ac ymchwilio i straeon, yn gwneud ffilmiau, yn cynnal cyfweliadau ac yn creu archifau.

Gan ddefnyddio Cyllid Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, mae’r gwaith ymchwil wedi galluogi datblygiad gwefan a Strategaeth Dreftadaeth ehangach Rhondda Cynon Taf, sy’n ategu’r gweithgarwch, ac unrhyw gamau yn y dyfodol, er mwyn diogelu a hyrwyddo hanes a threftadaeth Rhondda Cynon Taf.

Bwriwch olwg ar y wefan er mwyn cael blas ar y dyddiau a fu, gan fwynhau ffotograffau hanesyddol, cyfweliadau gyda thrigolion ac archifau fideo.

Rhondda Cynon Taf Heritage

Canfyddwch hanes rhyngwladol mawreddog y diwydiant glo a wnaeth ddatblygu yn Rhondda Cynon Taf ac a helpodd i newid y byd. Bwriwch olwg ar sut ddatblygodd ein cymunedau, sut roedd pobl yn byw yn y ‘dyddiau a fu’ a sut oedd bywyd o genhedlaeth i genhedlaeth.

Gwrandewch ar drigolion sy’n adrodd eu hanesion; maen nhw’n trafod gweithio yn y pyllau glo, bod yn blant ifainc yn ystod y rhyfel, bod yn fudwyr i Rondda Cynon Taf, eu cysylltiadau â hanes a gweithio mewn lleoedd megis Polikoff’s.

Dewch i gwrdd â’n ffigyrau hanesyddol – yr arwyr bocsio, y sêr pêl-droed, y cerddorion anhygoel – a chanfyddwch eu straeon drwy ymchwil am arwyr chwaraeon, mawrion diwylliannol a’r rheiny sydd wedi’u hanrhydeddu â Phlaciau Glas.

Bydd athrawon a’r rheiny sy’n addysgu gartref wrth eu boddau â’r adnoddau addysgiadol am ddim, sydd wedi’u datblygu gyda chymorth ysgolion ac yn cynnwys llwyth o wybodaeth, yn ogystal â gweithgareddau llawn hwyl a fydd yn eich ysbrydoli wrth eu darparu.

Bydd modd i’r rheiny sydd wrth eu boddau â hanes ddarganfod arddangosfeydd ar-lein yn ogystal â chanfod ffyrdd o gymryd rhan mewn gwaith diogelu a dathlu hanes, boed hynny drwy wirfoddoli neu gyfrannu at brosiectau megis:

  • Prosiect Diwygio Delweddau, sydd wedi’i ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn ymgysylltu â phobl o bob oed i ddysgu rhagor am hanes ac adrodd straeon y fwrdeistref sirol.
  • Prosiect Treftadaeth Cwm Rhondda, sy’n cael ei ddarparu gan Radio Rhondda, unwaith eto yn defnyddio Cyllid Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol er mwyn darparu Llwybr Treftadaeth gyda byrddau gwybodaeth ger lleoliadau hanesyddol ledled Cwm Rhondda. Nod hyn yw dod â hanes yn fyw a chysylltu’r gymuned â’i orffennol. Mae’r rhaglen yn cael ei gydlynu gan yr awdur a chyfarwyddwr o Gwm Rhondda, John Geraint.
  • Prosiect Cofebau Rhyfel sy’n ceisio digideiddio cofebau rhyfel ac adrodd straeon y rheiny sydd wedi’u rhestru arnyn nhw. Dyma’r unig brosiect o’i fath yn y DU, mae’r prosiect yn cael ei ddarparu gan wirfoddolwyr – mae croeso i ragor ymuno!
Julie Gibbs (Altered Images Project Volunteer) and Trevor Plenty (Oral History Interviewee)

Julie Gibbs (Gwirfoddolwraig Prosiect Diwygio Delweddau) a Trevor Plenty (Cyfweledig Hanes Llafar)

Fe wnaeth y Cynghorydd Bob Harris, Aelod o Gabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf ar faterion Iechyd y Cyhoedd a Chymunedau, helpu i lansio’r wefan mewn achlysur diweddar yn Llyfrgell Pontypridd, lle cafodd y wefan ei harddangos a rhannodd plant ysgolion oedd wedi ymgysylltu â’r prosiect Diwygio Delweddau eu profiadau.

Cynghorydd Bob Harris a Caroline O'Neill yn siarad

Cynghorydd Bob Harris a Caroline O’Neill yn siarad yn lawnsiad y prosiect yn Llyfrgell Pontypridd

Meddai, “Llongyfarchiadau mawr i’r rhai oedd yn ymwneud â Rhondda Cynon Taf: Ein Treftadaeth. Mae’r gwaith maen nhw wedi’i wneud i ymchwilio, casglu a chadw hanes wedi bod yn arwyddocaol.

“O blant ysgolion i gyn-filwyr, mae cynifer o bobl wedi cyfrannu at y wefan, gan helpu i adrodd straeon a dod â hanes yn fyw. Mae bob amser lle i ragor o wirfoddolwyr felly cysylltwch â ni!

Cyfranogwyr Prosiect Diwygio Delweddau, Hollie ac Evie o Ysgol Gyfun Treorchy

Cyfranogwyr Prosiect Diwygio Delweddau, Hollie ac Evie o Ysgol Gyfun Treorchy

“Yn olaf, mae gyda ni hanes arbennig i’w adrodd yma yn Rhondda Cynon Taf, ac rydyn ni eisiau ei rannu! Mae gwefan Rhondda Cynon Taf: Ein Treftadaeth yn rhad ac am ddim i’w defnyddio ac mae’n sicrhau mai dim ond un clic sydd ei angen i chi ddarganfod mythau, chwedlau a straeon ein bwrdeistref sirol hyfryd.”

Y lluniau wedi eu cynnwys drwy ganiatad caredig Llyfrgelloedd Rhondda Cynon Taf.