Adnoddau Iechyd a Lles yn Cefnogi Defnyddwyr

Dros y chwe wythnos diwethaf, mae Llyfrgelloedd Cymru ar y cyd â Borrowbox, y cyflenwr e-lyfrau ac e-lyfrau llafar Cymru-gyfan, wedi cyflwyno cyfoeth o awgrymiadau darllen Iechyd a Lles ichi, sydd ar gael drwy wasanaeth Borrowbox eich llyfrgell.

Darparwyd yr adnoddau hyn diolch i nawdd ychwanegol gan Lywodraeth Cymru, er mwyn cefnogi defnyddwyr llyfrgelloedd cyhoeddus yng Nghymru o ganlyniad i lyfrgelloedd yn cau a hunan-ynysu mewn ymateb i’r pandemig COVID-19.

Cyflwynwyd thema newydd bob wythnos drwy gyfrifon Twitter @LlyfrgellCymru a @WelshLibraries, a Facebook @LlyfrgelloeddCymru a @WelshLibraries, ac fe’u rhannwyd gan awdurdodau llyfrgell unigol dros Gymru. Awgrymwyd llyfrau i’w darllen yn y Gymraeg a’r Saesneg mewn ystod eang o bynciau iechyd a lles, o fewn y themau canlynol:

  • Ymegnio ac ailganolbwyntio
  • Dod i ben â her bywyd
  • Teimlo’n well
  • Llawenydd yn y gwaith
  • Bod yn rhiant hapus
  • Byw’n dda

Sut ma’ gweld yr eitemau yma? Er mwyn defnyddio’r gwasanaeth hwn mae’n rhaid i chi fod yn byw yn y Deyrnas Unedig a bod yn aelod cofrestredig mewn llyfrgell yng Nghymru sy’n rhan o’r cynllun. Ddim yn aelod o lyfrgell? Ewch i ‘Ymaelodi â’r Llyfrgell’ ar ein gwefan.

Os ydych eisoes yn aelod o lyfrgell, gallwch ddechrau benthyg yn syth gan ddefnyddio’r dolenni ar gwefan eich llyfrgell leol. Gall aelodau o’r llyfrgell leol bori a benthyg e-lyfrau ac e-lyfrau llafar poblogaidd ar unrhyw ddyfais Apple iOS a Android Google am gyfnodau cyfyngedig drwy fenthyciadau digidol. Lawrlwythwch ap Borrowbox o’r App Store a Google Play, a dechreuwch fenthyca, lawrlwytho a mwynhau e-lyfrau ac e-lyfrau llafar heddiw.

BorrowBox

 

Cookie Settings