Agoriad swyddogol llyfrgell ar safle syn cael ei rannu
Chwefror 13, 2015![](https://llyfrgelloedd.cymru/wp-content/uploads/2016/02/llandrindodlibrary.jpg)
Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi bod llyfrgell Llandrindod wedi agor yn swyddogol ar ei safle newydd syn cael ei rannu.
Agorwyd y lleoliad newydd yn adeilad y Gwalia ar Ddiwrnod Cenedlaethol Llyfrgelloedd (Dydd Sadwrn 7 Chwefror), yn ller safle ar Ffordd Beaufort a gaeodd yn gynharach y mis hwn. Fel rhan or agoriad swyddogol cynhaliwyd dathliadau dros ddau ddiwrnod.
Daeth yr awdur plant enwog Anthony McGowan i ymweld â lleoliad newydd y llyfrgell ar ddydd Gwener 6 Chwefror i siarad am ei lyfrau, a datgelodd bod un oi lyfrau yn cael ei droin ffilm. Buodd hefyd yn ateb cwestiynau gan ddisgyblion o ysgolion cynradd ac uwchradd lleol am ei waith. Meddair Cynghorydd Graham Brown, Aelod y Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Llyfrgelloedd:
Mae hwn yn amser cyffrous iawn i lyfrgell gangen newydd Llandrindod. Maer adeilad newydd yn cynnig rhagor o le a gwell adeilad i aelodaur llyfrgell ar gymuned ehangach. Mae gan y llyfrgell newydd rhai nodweddion cain ac maer ystafelloedd yn olau ac yn agored. Crewyd man darllen ac astudio hyfryd iw defnyddio gan fenthycwyr o bob oed. Maen ased y gall y dref fod yn falch iawn ohoni ac maen gosod y llyfrgell yng nghalon y gymuned. Ryn nin ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y nawdd grant sydd wedi gwneud hyn yn bosibl. Llwyddodd y cyngor i ddenu £180,000 gan CyMAL (Cyngor Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru) i helpu ariannur prosiect £200,000. Meddai Ken Skates, Dirprwy Weinidog Llywodraeth, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru: Rwyn falch ein bod wedi gallu cefnogi ailddatblygiad llyfrgell newydd Llandrindod gyda £180,000 o nawdd. Mae Llyfrgelloedd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl an cymunedau, maen nhwn cynnig rhywbeth i bobl o bob oed, o gyflwyno gwefr llyfrau a darllen i blant ifanc i helpu pobl h?n ddatblygu sgiliau digidol. Maer llyfrgell newydd hon yn enghraifft o sut ryn nin ysgwyd bant yr hen ddelwedd o lyfrgelloedd ac yn eu gwneud nhwn fwy hygyrch ir gymuned gyfan. Trwy greu man groesawgar, golau, gyda gwell mynediad i bobl anabl, gwell cyfleusterau TG, gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc, lawrlwytho digidol am ddim a chyd-leoliad gyda gwasanaethau eraill y cyngor, ryn nin buddsoddi mewn canolfan gymunedol o safon. Nid ywn syndod felly bod Cymrun mynd yn groes i weddill y DG gyda bron i 5% o gynnydd mewn benthycwyr cyson. Daeth trigolion heibio i weld beth oedd gan y llyfrgell newydd iw chynnig gan fanteisio ar y cyfle i ymuno yn y gweithgareddau oedd yn dathlur agoriad. Meddai Kay Thomas, Prif Lyfrgellydd y cyngor: Roedd yr agoriad ar gweithgareddau a ddarparwyd yn gyfle gwych i ddangos i drigolion y dref bod gan y llyfrgell le yn y gorffennol ar dyfodol trwy ddathlu ei threftadaeth ac adnoddau ac annog pobl i fanteisio ar ei thechnoleg newydd. Ryn nin annog y cyhoedd i alw heibio ac i weld y llyfrgell newydd drostynt eu hunain.