Agoriad swyddogol llyfrgell ar safle sy’n cael ei rannu

Mae Cyngor Sir Powys wedi cyhoeddi bod llyfrgell Llandrindod wedi agor yn swyddogol ar ei safle newydd sy’n cael ei rannu.

Agorwyd y lleoliad newydd yn adeilad y Gwalia ar Ddiwrnod Cenedlaethol Llyfrgelloedd (Dydd Sadwrn 7 Chwefror), yn lle’r safle ar Ffordd Beaufort a gaeodd yn gynharach y mis hwn. Fel rhan o’r agoriad swyddogol cynhaliwyd dathliadau dros ddau ddiwrnod.

Daeth yr awdur plant enwog Anthony McGowan i ymweld â lleoliad newydd y llyfrgell ar ddydd Gwener 6 Chwefror i siarad am ei lyfrau, a datgelodd bod un o’i lyfrau yn cael ei droi’n ffilm.   Buodd hefyd yn ateb cwestiynau gan ddisgyblion o ysgolion cynradd ac uwchradd lleol am ei waith. Meddai’r Cynghorydd Graham Brown, Aelod y Cabinet ar gyfer Gwasanaethau Llyfrgelloedd:

“Mae hwn yn amser cyffrous iawn i lyfrgell gangen newydd Llandrindod.  Mae’r adeilad newydd yn cynnig rhagor o le a gwell adeilad i aelodau’r llyfrgell a’r gymuned ehangach. “Mae gan y llyfrgell ‘newydd’ rhai nodweddion cain ac mae’r ystafelloedd yn olau ac yn agored.  Crewyd man darllen ac astudio hyfryd i’w defnyddio gan fenthycwyr o bob oed.  Mae’n ased y gall y dref fod yn falch iawn ohoni ac mae’n gosod y llyfrgell yng nghalon y gymuned. “Ry’n ni’n ddiolchgar iawn i Lywodraeth Cymru am y nawdd grant sydd wedi gwneud hyn yn bosibl.” Llwyddodd y cyngor i ddenu £180,000 gan CyMAL (Cyngor Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Cymru) i helpu ariannu’r prosiect £200,000. Meddai Ken Skates, Dirprwy Weinidog Llywodraeth, Chwaraeon a Thwristiaeth Llywodraeth Cymru: “Rwy’n falch ein bod wedi gallu cefnogi ailddatblygiad llyfrgell newydd Llandrindod gyda £180,000 o nawdd.  Mae Llyfrgelloedd yn gwneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl a’n cymunedau, maen nhw’n cynnig rhywbeth i bobl o bob oed, o gyflwyno gwefr llyfrau a darllen i blant ifanc i helpu pobl h?n ddatblygu sgiliau digidol. “Mae’r llyfrgell newydd hon yn enghraifft o sut ry’n ni’n ysgwyd bant yr hen ddelwedd o lyfrgelloedd ac yn eu gwneud nhw’n fwy hygyrch i’r gymuned gyfan. Trwy greu man groesawgar, golau, gyda gwell mynediad i bobl anabl, gwell cyfleusterau TG, gweithgareddau ar gyfer pobl ifanc, lawrlwytho digidol am ddim a chyd-leoliad gyda gwasanaethau eraill y cyngor, ry’n ni’n buddsoddi mewn canolfan gymunedol o safon.  Nid yw’n syndod felly bod Cymru’n mynd yn groes i weddill y DG gyda bron i 5% o gynnydd mewn benthycwyr cyson.” Daeth trigolion heibio i weld beth oedd gan y llyfrgell newydd i’w chynnig gan fanteisio ar y cyfle i ymuno yn y gweithgareddau oedd yn dathlu’r agoriad. Meddai Kay Thomas, Prif Lyfrgellydd y cyngor: “Roedd yr agoriad a’r gweithgareddau a ddarparwyd yn gyfle gwych i ddangos i drigolion y dref bod gan y llyfrgell le yn y gorffennol a’r dyfodol trwy ddathlu ei threftadaeth ac adnoddau ac annog pobl i fanteisio ar ei thechnoleg newydd. “Ry’n ni’n annog y cyhoedd i alw heibio ac i weld y llyfrgell newydd drostynt eu hunain.”

Cookie Settings