Agoriad swyddogol Llyfrgell Y Bala
Ebrill 24, 2018Yn dilyn gwaith uwchraddio, mae Llyfrgell Y Bala wedi ei agor yn swyddogol i’r cyhoedd ar ei newydd wedd.
Mae’r llyfrgell wedi dychwelyd i’w gartref ar safle Ysgol y Berwyn yn y dref yn dilyn cyfnod dros dro yng Nghanolfan Hamdden Penllyn tra roedd y gwelliannau yn cael eu cwblhau. Gyda hynny, bydd y llyfrgell yn rhan o’r datblygiad campws dysgu ehangach sy’n cael ei ddatblygu ar y safle ar hyn o bryd, ac a bydd yn ganolbwynt ar gyfer digwyddiadau cymunedol i’r ardal.
Wrth agor y llyfrgell, dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas AC:
“Mae’n bleser gen i ail-agor Llyfrgell y Bala yn swyddogol heddiw. Mae’n braf iawn gweld sefydliadau cyhoeddus – yr ysgol, y Llyfrgell a’r campws dysgu newydd – yn cael eu cydleoli fel hyn gan gyfuno cyfleoedd dysgu i bawb. Mae’r Llyfrgell newydd yn fodern a chroesawgar, gydag amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau ar gael. Ar ben bod yn lleoliad deniadol i ddysgu, mae hefyd yn agor drysau i gyfleoedd i gymryd rhan yn ein diwylliant neu i ymlacio gyda llyfr neu i ddefnyddio’r cyfrifiaduron.
“Dw i’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi Llyfrgell y Bala ar ei newydd wedd drwy ei Chronfa Drawsnewid ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd.”
Cafodd y gwaith uwchraddio ei ariannu trwy grant Rhaglen Gyfalaf Datblygu Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru.
Mae’r llyfrgell newydd yn cynnig gofod cyfoes, atyniadol i holl drigolion ardal Penllyn gan gynnwys gofod hyblyg ar gyfer amrywiol weithgareddau llyfrgell.
Am fwy o wybodaeth am Wasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd, ewch i wefan Gwynedd a datganiad i’r wasg lawn.
Prif lun: disgyblion o Ysgol Gynradd Bro Tegid & Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon
Pobl (chwith-de):
- Parch Dorothi Evans, Maer Tref y Bala
- Y Cynghorydd Craig ab Iago – Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant
- Y Cynghorydd Annwen Daniels, Cadeirydd Cyngor Gwynedd
- Y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc
- Liz Saville-Roberts AS
- Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon