Agoriad swyddogol Llyfrgell Y Bala

Yn dilyn gwaith uwchraddio, mae Llyfrgell Y Bala wedi ei agor yn swyddogol i’r cyhoedd ar ei newydd wedd.

Mae’r llyfrgell wedi dychwelyd i’w gartref ar safle Ysgol y Berwyn yn y dref yn dilyn cyfnod dros dro yng Nghanolfan Hamdden Penllyn tra roedd y gwelliannau yn cael eu cwblhau. Gyda hynny, bydd y llyfrgell yn rhan o’r datblygiad campws dysgu ehangach sy’n cael ei ddatblygu ar y safle ar hyn o bryd, ac a bydd yn ganolbwynt ar gyfer digwyddiadau cymunedol i’r ardal.

Wrth agor y llyfrgell, dywedodd y Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon, Dafydd Elis-Thomas AC:

“Mae’n bleser gen i ail-agor Llyfrgell y Bala yn swyddogol heddiw. Mae’n braf iawn gweld sefydliadau cyhoeddus – yr ysgol, y Llyfrgell a’r campws dysgu newydd – yn cael eu cydleoli fel hyn gan gyfuno cyfleoedd dysgu i bawb. Mae’r Llyfrgell newydd yn fodern a chroesawgar, gydag amrywiaeth o gyfleusterau a gwasanaethau ar gael. Ar ben bod yn lleoliad deniadol i ddysgu, mae hefyd yn agor drysau i gyfleoedd i gymryd rhan yn ein diwylliant neu i ymlacio gyda llyfr neu i ddefnyddio’r cyfrifiaduron.

“Dw i’n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi Llyfrgell y Bala ar ei newydd wedd drwy ei Chronfa Drawsnewid ar gyfer amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd.”

Cafodd y gwaith uwchraddio ei ariannu trwy grant Rhaglen Gyfalaf Datblygu Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru.

Mae’r llyfrgell newydd yn cynnig gofod cyfoes, atyniadol i holl drigolion ardal Penllyn gan gynnwys gofod hyblyg ar gyfer amrywiol weithgareddau llyfrgell.

Am fwy o wybodaeth am Wasanaeth Llyfrgelloedd Cyngor Gwynedd, ewch i wefan Gwynedd a datganiad i’r wasg lawn.

Prif lun: disgyblion o Ysgol Gynradd Bro Tegid & Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon

Pobl yn torri rhuban

Pobl (chwith-de):

  1. Parch Dorothi Evans, Maer Tref y Bala 
  2. Y Cynghorydd Craig ab Iago – Aelod Cabinet Tai, Hamdden a Diwylliant 
  3. Y Cynghorydd Annwen Daniels, Cadeirydd Cyngor Gwynedd
  4. Y Cynghorydd Dilwyn Morgan, Aelod Cabinet Plant a Phobl Ifanc  
  5. Liz Saville-Roberts AS
  6. Yr Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, Gweinidog dros Ddiwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon 
Cookie Settings