Allwch chi a’ch plant helpu i dorri record yr Haf yma?

Mae llyfrgelloedd ledled Cymru yn paratoi i annog darllenwyr ifanc i archwilio rhai o’r gorchestion anhygoel mewn bywyd go iawn a phob record byd sy’n ymddangos yn Llyfrau’r Guinness World Records fel rhan o Sialens Ddarllen yr Haf eleni.

Wrth lansio’r sialens yn Llyfrgell Cefn Mawr yn Wrecsam heddiw, dywedodd Ken Skates, AC, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth: “Mae darllen er pleser yn bwysig wrth gynorthwyo plant i ddatblygu llythrennedd a sgiliau ehangach a dylem annog plant i ddarllen pob math o bethau – o lyfrau ffeithiol fel Guinness World Records trwodd i lyfrau ffuglennol ffantasïol, cylchgronau, comics neu’r clasuron. Mae’n bleser bod yma heddiw i lansio Sialens Ddarllen yr Haf yng Nghymru ac addo cefnogi’r sialens – ac rwy’n arbennig o falch fod y plant yn ceisio gosod record newydd trwy ddarllen un o’m hoff awduron – Roald Dahl!”

Mae dros gant o blant o bedair ysgol gynradd leol yn ceisio gosod record Cymreig am y nifer fwyaf o blant yn darllen yr un darn yn uchel o’r un llyfr ar yr un pryd. Byddant yn darllen The Twits gan Roald Dahl.

Dywedodd y Cynghorydd Hugh Jones, Aelod Arweiniol dros Gymunedau, a Phartneriaethau o Gyngor Wrecsam: “Mae’n bleser gweld cynifer o blant yn darllen gyda’i gilydd yn ein llyfrgell gymunedol. Mae darllen yn sgil pwysig mewn bywyd ac mae’r adnoddau sydd ar gael am ddim mewn llyfrgelloedd yn allweddol wrth fynd i’r afael â sgiliau a gallu ein plant i gael gwaith yn y dyfodol ac mae’n cynnig lle diogel iddyn nhw ddysgu a phrofi pethau newydd.”

The Reading Agency a rhwydwaith llyfrgelloedd cyhoeddus sy’n mynd ati’n flynyddol i drefnu sialens, ac mae’n derbyn cefnogaeth yng Nghymru gan Adran Amgueddfeydd, Archifau a Llyfrgelloedd Llywodraeth Cymru a Chyngor Llyfrau Cymru. Gyda Sialens Ddarllen yr Haf yn 17 oed eleni, mae’n anelu at blant 4- 11 mlwydd oed a’u teuluoedd ac mae’n syml, hwyliog ac AM DDIM. Bydd plant yn cael eu hannog i ddarllen chwech neu fwy o lyfrau llyfrgell o’u dewis nhw yn ystod gwyliau’r haf a bydd anogaeth a gwobrau, ynghyd â thystysgrif, neu fedal i bob plentyn sy’n cwblhau’r sialens.

Fel rhan o sialens eleni, byddwn yn gofyn i blant, rhieni, gofalwyr, gwirfoddolwyr ifanc, athrawon, hoff awduron plant ac eraill addunedu i helpu i osod Guinness World Records™ newydd am y Mwyaf o Addewidion a Dderbynnir ar gyfer Ymgyrch Ddarllen! Bydd llyfrgelloedd cyhoeddus yn casglu addewidion ar draws y Deyrnas Unedig rhwng dydd Gwener 10 a dydd Llun 13 Gorffennaf – holwch eich llyfrgell leol i gael gwybod pryd y gallwch gyflwyno eich addewid – bydd angen o leiaf 100,000 o addewidion i osod y record!

Gallwch gymryd rhan AM DDIM ac mae Sialens Ddarllen yr Haf yn un o nifer o gynlluniau y mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn eu cynnig i helpu plant feithrin cariad at ddarllen, magu hyder a chael sgiliau newydd. Mae llyfrgelloedd ar draws Cymru yn cynnal llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous yn ystod gwyliau’r haf i ddifyrru plant a gwneud bywyd yn haws i rieni!

Ewch draw i’ch llyfrgell leol neu ewch i llyfrgelloeddcymru.org i gael gwybod mwy.

I gael gwybod mwy am Sialens Ddarllen yr Haf a sut i gymryd rhan, ac adnoddau ar gyfer ysgolion, ewch i www.readingagency.org.uk/summerreadingchallenge
www.facebook.com/SummerReadingChallengeUK
www.recordbreakers.org.uk
Lawrlwythwch Ap Torri Pob Record Sialens Ddarllen yr Haf yn sol.us/records

Cookie Settings